Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2006–2021 - ADRODDIAD ADOLYGU

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'r Bwrdd Gweithredol Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin 2006-2021 a oedd wedi'i lunio yn dilyn penderfyniad y Cyngor Sir ar 20 Medi 2017, lle rhoddwyd ystyriaeth i'r ail adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol a'i argymhellion.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd, yn unol â gofynion statudol, fod y Cyngor eisoes wedi paratoi a chyhoeddi dau Adroddiad Monitro Blynyddol hyd yn hyn, ac mai diben pob Adroddiad Monitro Blynyddol oedd asesu i ba raddau roedd strategaeth, polisïau a safleoedd datblygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni. Er mwyn sicrhau bod asesiadau cynhwysfawr a rheolaidd yn cael eu cynnal i sicrhau bod CDLl yn dal i fod yn gyfredol, roedd yn ofynnol i Gynghorau gynnal adolygiad llawn o'u CDLl mabwysiedig. 

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd fod yr Awdurdod wedi derbyn llythyr oddi wrth Lesley Griffiths AC a awgrymai fod y Cyngor yn ystyried paratoi CDLl ar sail ranbarthol yn y dyfodol.  Hysbyswyd yr Aelodau fod dadleuon dros beidio â pharatoi CDLl rhanbarthol wedi'u cynnwys ar dudalen 12 o'r adroddiad.

 

Dywedwyd yn ddi-flewyn ar dafod mai Cynllun Datblygu 'Lleol' oedd hwn ac y dylai aros yn lleol felly. Fodd bynnag, cydnabuwyd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi wrth gwrs i'r siroedd a ffiniai â Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfeiriwyd at sylw gan Lesley Griffiths AC yn ei llythyr ynghylch yr amser roedd y Cyngor wedi ei gymryd i lunio'r CDLl. Gwnaed sylw ei fod wedi cymryd cryn amser i Arolygwyr yn Llywodraeth Cymru gadarnhau'r cynllun, a oedd wedi ychwanegu at yr amser.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r pwyntiau ychwanegol a godwyd yn cael eu cynnwys mewn ymateb i'r llythyr gan Lesley Griffiths AC.

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd D.M. Cundy mai'r CDLl oedd un o'r setiau pwysicaf o ddogfennau y mae'r Cyngor yn eu cynhyrchu, a hynny'n strategol, yn dactegol ac yn weithredol.  Hon yw'r brif ddogfen sy'n ategu'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor, a Chynghorau Cymuned ledled Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â'r rhyngweithio a'r cydweithio gyda siroedd eraill ledled Cymru.  Mae'r cynllun yn dylanwadu ar ofynion amrywiaeth eang o wasanaethau a'r holl randdeiliaid.  O achos natur dechnegol y CDLl, y farn oedd mai bach iawn oedd dealltwriaeth Aelodau'r Cyngor, yn enwedig Aelodau newydd, o'r CDLl a'r dogfennau eraill oedd yn gysylltiedig â'r CDLl.

 

Gan ystyried argymhellion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu ar 14 Rhagfyr 2017, gofynnodd y Cynghorydd Cundy a oedd y Bwrdd Gweithredol yn credu y byddai'n fuddiol rhoi cyflwyniad llawn ynghylch adroddiad adolygu y CDLl a'r fethodoleg ar ffurf seminar i'r Cyngor llawn? Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cytuno â'r sylwadau, ac atgoffodd yr Aelodau fod pob plaid wleidyddol, ym mis Hydref 2017, wedi cael cyfle i drafod y cynllun, ond, yn anffodus, nid oedd neb wedi achub ar y cyfle hwnnw. At hynny, mynegwyd y gallai gweithdy anffurfiol fod yn ddull mwy addas ar gyfer trafodaeth o'r fath a chynyddu rhyngweithio.  Fel ffordd ymlaen, er mwyn i'r holl Aelodau gael gwell dealltwriaeth o ddogfennau'r CDLl, cytunodd yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol y byddai'n fuddiol cynnal gweithdai anffurfiol ar gyfer pob un o'r grwpiau gwleidyddol.

 

Ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth mai'r bwriad oedd trefnu i'r CDLl gael ei gyflwyno i'r Cynghorwyr Tref a Chymuned ar y cyd ag Un Llais Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

8.1    awdurdodi cychwyn gwaith ar baratoi adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin;

8.3    cyhoeddi Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Sir

          Gaerfyrddin;

8.4    rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Adolygu.

 

 

Dogfennau ategol: