Agenda item

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2018/2019 i 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad uchod a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar Gyllideb Refeniw 2018/19 a'r ddwy flynedd dilynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am amserlen proses y gyllideb, yn rhoi crynodeb o setliad dros dro Llywodraeth Cymru, yn rhoi amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Roedd yr adroddiad hefyd yn sylfaen i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei chynnal gyda phwyllgorau craffu'r Cyngor a'r gymuned yn ystod y cyfnod rhwng Tachwedd 2017 – Ionawr 2018 cyn cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ac wedyn i'r Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu elfennau allweddol y fersiwn drafft o strategaeth y gyllideb ac yn tynnu sylw at y ffaith fod setliad ariannol dros dro Sir Gaerfyrddin, tra oedd yn well na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, yn cynrychioli lleihad o 0.5% mewn cyllid grant, a oedd yn cynyddu'n sylweddol pan ystyriai'r Awdurdod ffactorau'n ymwneud â chwyddiant, demograffeg a newid yn y galw.  Fodd bynnag, roedd y setliad dros dro a oedd yn well na'r hyn a ragwelwyd wedi galluogi'r Awdurdod i ailedrych ar ei dargedau effeithlonrwydd, a bennwyd yn adroddiad gwreiddiol y rhagolwg o'r gyllideb a gyflwynwyd i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Gorffennaf 2017, ac yn cadarnhau nad oedd y Strategaeth yn peri unrhyw leihad i gyllideb ddirprwyedig yr ysgolion.

 

Nodwyd bod y setliad dros dro'n cynnwys 'trosglwyddo' nifer o grantiau mawr gan gynnwys y Grant Amgylchedd Sengl, sef £35m ar draws Cymru, Grant Byw'n Annibynnol o £26.9m a Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol o £19m i gefnogi'r Egwyddor Llywodraeth Leol o ddarparu mwy o reolaeth i awdurdodau er mwyn iddynt reoli eu gwasanaethau a chynorthwyo i leihau lefel y gwaith o weinyddu grantiau penodol yn lleol. Nodwyd ymhellach mai dim ond un cyfrifoldeb newydd oedd wedi'i gynnwys yn y setliad gyda £6m ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gwasanaethau lleol i gyflawni Dyletswyddau Atal Digartrefedd.

 

Roedd Strategaeth y Gyllideb yn cynnwys £7.7m ar gyfer gwaith dilysu hanfodol ynghyd â £3m ar gyfer gwariant newydd, fel y nodwyd gan adrannau yn Atodiad B i'r adroddiad. Unwaith eto roedd yr adrannau wedi clustnodi arbedion effeithlonrwydd, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, o £8.3m ym mlwyddyn 1 a £17.2m pellach yn ystod y ddwy flynedd ganlynol gan sicrhau y gallai'r Awdurdod, ar sail y rhagamcanion presennol, ddarparu gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd â cheisio sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor ar lefel dderbyniol. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi golwg gyffredinol ar y cronfeydd wrth gefn, a oedd i'w hadolygu ymhellach, gan ragweld y byddai unrhyw arian wrth gefn sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r rhaglen gyfalaf a chyflawni cyfleoedd adfywio, a fyddai felly'n cynnal twf yn y Sir yn y dyfodol.

 

Roedd y cynigion cyllideb cyfredol, gan ystyried y ffactorau uchod, wedi cyfyngu'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor am 2018/19 i 4.12%.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 134 yr adroddiad ac at Ddatganiad Llywodraeth Cymru ‘bod cynnydd o £62m wedi'i wneud i elfen ysgolion y setliad yn 2018-19’. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd nad oedd y ffigur yn cynrychioli 'arian newydd' ond mai cyllid wedi'i ddargyfeirio o wasanaethau eraill ydoedd yn hytrach. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr, tra bod yr arian hwnnw wedi'i ymgorffori yn y setliad, nad oedd hyn yn tynnu oddi ar y ffaith y byddai setliad 2018/19 yr Awdurdod yn dal i fod yn 0.5% yn llai na setliad 2017/18.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi a bod strategaeth y gyllideb dair blynedd yn cael ei chymeradwyo fel sylfaen i ymgynghori, a bod ymgais benodol yn cael ei gwneud i gael sylwadau gan ymgyngoreion ynghylch y cynigion effeithlonrwydd y manylwyd arnynt yn Atodiad A i'r adroddiad.

Dogfennau ategol: