Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys manylion ynghylch ymweliadau ag ysgolion o fis Ionawr 2018 ymlaen.
Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi ymgymryd â nifer o ymweliadau ag ysgolion dros gyfnod o flynyddoedd lawer. Mae natur hanesyddol yr ymweliadau hyn wedi tueddu i ganolbwyntio ar faterion eiddo, sy'n briodol i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar yr adeg honno, ac mae hyn yn ddealladwy. Fodd bynnag, dylai ein gwaith gydag ysgolion gefnogi a herio ar draws ystod eang o weithgareddau ysgolion ac felly cynigiwyd adlinio ffocws y rhaglen ymweliadau ag ysgolion a hwyluso trafodaeth ehangach a dyfnach ynghylch agweddau sy'n fwy o flaenoriaethau e.e. arweiniad, addysgu, dysgu a deilliannau. Fodd bynnag, nid y bwriad yw atal neu anwybyddu unrhyw elfennau sy'n ymwneud â'r safle a allai godi ac sydd angen sylw.
Roedd y fformat awgrymedig ar gyfer ymweliadau ag ysgolion fel a ganlyn:-
(1) Trosolwg o gyd-destun presennol yr ysgol (i gynnwys "taith gerdded addysgol dan arweiniad i'r aelodau”;
(2) Trosolwg o berfformiad presennol (deilliannau a chategoreiddio);
(3) Trafodaeth a dadansoddiad o'r cryfderau a'r arferion gorau, meysydd i'w gwella a'r blaenoriaethau cyfredol gydag uwch arweinwyr ysgolion, swyddogion ERW/Awdurdod lleol (i gynnwys crynodeb o'r Cynllun Datblygu Ysgol, adroddiad Hunanwerthuso a'r adroddiadau mwyaf diweddar ynghylch ymweliad cymorth ERW);
(4) Sesiwn Adolygu a dod i Gasgliad rhwng Aelodau.
Rhagwelwyd y byddai'r uchod yn cymryd rhwng 2½-3 awr ac felly awgrymwyd y dylid trefnu un diwrnod dynodedig i ymweld ag ysgolion bob tymor i gynnwys 2 ysgol, ymweld ag un ysgol yn ystod sesiwn y bore ac un yn ystod sesiwn y prynhawn.
Cynigiwyd y dylai grwpiau o aelodau ymgymryd â'r ymweliadau yn hytrach na'r Pwyllgor cyfan oherwydd y byddai hyn yn galluogi gweithio gyda mwy o ffocws yn ystod yr ymweliadau, a darparu mwy o gyfleoedd i'r aelodau gael profiad mwy manwl a diddorol. Awgrymwyd felly bod y Pwyllgor yn cael ei rannu'n dri gr?p ar gyfer yr ymweliadau fel a ganlyn:-
Gr?p 1
Cadeirydd neu Is-gadeirydd
Cynghorwyr Liam Bowen, Ieuan Wyn Davies, Jean Lewis a Bill Thomas Mrs Vera Kenny
1 Rhiant-lywodraethwr
Gr?p 2
Cadeirydd neu Is-gadeirydd
Cynghorwyr Kim Broom, Gary Jones, Shahana Najmi a Dorian Williams
Mrs Jean Voyle Williams
1 Rhiant-lywodraethwr
Gr?p 3
Cadeirydd neu Is-gadeirydd
Cynghorwyr John Jenkins, Betsan Jones, Dot Jones ac Emlyn Schiavone
1 Rhiant-lywodraethwr
Roedd llawer o ffactorau i'w hystyried o ran dewis pa ysgolion i ymweld â hwy megis:-
- sicrhau bod amrywiaeth o gyfnodau gwahanol er mwyn rhoi profiadau i'r aelodau o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig;
- canolbwyntio ar ysgolion sy'n gweithio i agendâu penodol neu flaenoriaethau megis
(a) ysgolion sydd angen gwella eu categori o ran Categoreiddio Cenedlaethol;
(b) ysgolion sy'n rhannu/arwain arferion gorau;
(c) ysgolion yn gweithio o fewn rhwydweithiau penodol (i gynnwys ffurfiol ac anffurfiol
Ffederasiynau, prosiectau Ymchwil Weithredu ac ati)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y cynigion ar gyfer yr ymweliadau ag ysgolion gan y Pwyllgor o fis Ionawr 2018 fel y manylir uchod yn cael eu cymeradwyo.
Dogfennau ategol: