Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Atgoffwyd y Pwyllgor bod paratoadau ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi dechrau yn 2010 yn dilyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol ar gyfer moderneiddio eu holl ystâd o ran ysgolion, a'u gosod o fewn 4 band o ran buddsoddi o A - D , yn nhrefn blaenoriaeth yn ôl yr angen mwyaf dybryd.
Yn ystod 2010, cwblhawyd adolygiad cynhwysfawr o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ac fel rhan o'r adolygiad hwnnw, penderfynodd y Cyngor fod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael ei hadolygu a'i diwygio yn y dyfodol bob dwy flynedd neu yn ôl yr hyn sy'n ofynnol i sicrhau cysondeb o ran amserlen genedlaethol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Ers hynny mae'r Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo Rhaglen Moderneiddio Addysg ddiwygiedig yn 2011, 2013 a 2016
Aeth y Pwyllgor ymlaen i ystyried adroddiad yn rhoi manylion am Gynllun Amlinellol Strategol y Rhaglen Moderneiddio Addysg a'r rhaglen fuddsoddi wedi'i blaenoriaethu a'i diweddaru fel rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd sut y caiff prosiectau eu blaenoriaethu ac a oes protocol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio wrth y Pwyllgor fod ymarfer yn cael ei gwblhau lle cynhelir adolygiad hyfywedd o'r holl ysgolion ac yn dilyn hyn cynhyrchir prosiectau strategol. Yna cwblheir arfarniad o'r dewisiadau a defnyddir meini prawf i sgorio prosiectau strategol. Cymeradwywyd y rhaglen bresennol o brosiectau gan y Bwrdd Gweithredol yn 2016;
· Cyfeiriwyd at yr anhawster a gafwyd wrth godi arian ar gyfer prosiectau o'r fath a mynegwyd pryder ynghylch y defnydd o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) mewn achosion o'r fath. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod trafodaethau'n parhau â Llywodraeth Cymru sy'n cynghori bod MIM yn fodel gwell ar gyfer PIF (Menter Cyllid Preifat). Bydd swyddogion yn ymchwilio i'r awgrym o ddefnyddio MIM ac yn cyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor gan gynnwys y prosiectau sy'n cael eu cynnig i'w datblygu;
· Gofynnwyd i'r swyddogion sut yr ymgynghorir â chymunedau, llywodraethwyr, ysgolion ac ati. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio fod yr holl brosiectau'n cynnwys trafodaethau â'r ysgolion eu hunain. Ymgynghorir hefyd ynghylch dyfodol yr ysgolion hynny ac ynghylch adeiladau newydd. Cynhelir cyfarfodydd â chymunedau ac ysgolion yn gynnar iawn yn y broses.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL
9.1 bod Rhaglen Amlinellol Strategol ddiweddaraf y Rhaglen Moderneiddio Addysg sy'n cynnwys rhaglen fuddsoddi wedi'i blaenoriaethu a'i diweddaru fel rhan o Fand B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei chymeradwyo
9.2 bod y prosiectau Band B a ddewiswyd i ymchwilio ymhellach iddynt o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cael eu cymeradwyo, fodd bynnag, dylid nodi pryderon y Pwyllgor ynghylch y Model Buddsoddi Cydfuddiannol;
9.3 bod y trefniadau ariannu ar gyfer cyflwyno Band B yn cael eu cymeradwyo er mwyn cadarnhau a yw'r elfennau cyfalaf a refeniw yn fforddiadwy;
9.4 bod y pwysigrwydd o ymgynghori â'r gymuned, ysgolion a phartïon yn cael ei bwysleisio a hynny cyn parhau â'r prosiectau.
Dogfennau ategol: