Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor adroddiad yn nodi’r gofynion yn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ynghylch gwaith partneriaeth wrth ddarparu gofal a chefnogaeth a’r trefniadau sydd ar waith yng ngorllewin Cymru i gyflawni’r gofynion hynny.
Sefydlwyd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn gynnar yn 2016 a goruchwylir ei waith gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol statudol sydd wedi dynodi pum blaenoriaeth strategol:-
(1) Comisiynu integredig;
(2) Integreiddio gwasanaethau a chronfeydd ar y cyd;
(3) Trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
(4) Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth/Atal;
(5) Gweithredu System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
Mae’r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar ddynesiad strategol at ofalwyr, datblygu’r gweithlu ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Mae Adran 14 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynnu fod Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn cynhyrchu asesiadau poblogaeth sy’n nodi’r anghenion gofal a chefnogaeth ar draws nifer o grwpiau poblogaeth gwahanol yn eu hardal, ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny ac i ba raddau nad yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu ar hyn o bryd. Rhaid i’r asesiadau poblogaeth ystyried hefyd sut fydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd Asesiad Poblogaeth cyntaf Gorllewin Cymru ym mis Mawrth 2017 wedi iddo gael ei ystyried a’i gytuno gan bob un o’r partner asiantwyr statudol.
Mae Adran 14A y Ddeddf yn mynnu fod rhaid cynhyrchu Cynlluniau Ardal rhanbarthol er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr Asesiadau Poblogaeth. Mae Cynllun Ardal cyntaf Gorllewin Cymru yn cael ei baratoi ar hyn o bryd ac fe’i cyflwynir i bartner asiantwyr i’w gymeradwyo yn gynnar yn 2018 cyn ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2018.
Cafwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
· Pan ofynnwyd sut mae System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn gweithio, esboniodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol ei bod yn system genedlaethol. Nid oes unrhyw reidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i fabwysiadu’r system, ond mae pob un ond dau wedi gwneud hynny. Mae’r system yn helpu defnyddwyr i gael gwared â dyblygu a rhannu gwybodaeth cleifion. Wynebwyd cryn faterion a phroblemau wrth symud o’r systemau rheoli achosion presennol i’r system newydd, ond mae cael cynllun gweithredu rhanbarthol yn helpu lliniaru problemau a heriau;
· Cyfeiriwyd at un o’r argymhellion cyffredinol yn yr adroddiad fod rhaid inni gydnabod cyfraniad gofalwyr a chynnig cefnogaeth iddynt, a gofynnwyd i’r swyddogion a oedd y gwaith o weithredu’r argymhelliad hwnnw yn unol â’r gofyn. Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol mai un o’r prif negeseuon a ddaeth allan o’r asesiadau poblogaeth oedd rôl allweddol gofalwyr. Nodwyd fod swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn paratoi cynllun gweithredu y mae ganddynt ddyletswydd ddeddfwriaethol i’w wneud ac a gyflwynir i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2018. Mae’r cynllun gweithredu yn manylu ar yr hyn sy’n cael ei wneud o ran gofalwyr;
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn hyrwyddo annibyniaeth, yn cefnogi llesiant unigolion ac yn lleihau’r galw am wasanaethau gofal a chefnogaeth wedi’u rheoli a lleisiwyd pryder fod hyn yn cael ei gofnodi’n asesiad cyflawn. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, o safbwynt Sir Gaerfyrddin, mae ein prif ffocws yw ceisio helpu pobl i ail-ymgysylltu â’u cymunedau ac i gael mynediad at wasanaethau. Mae’r holl staff yn cael y cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, ac mae hyn yn eu galluogi i ddelio ag achosion mwy cymhleth;
· Nodwyd nad oes gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol unrhyw rymoedd gwneud penderfyniadau dirprwyedig a gofynnwyd i’r swyddogion a fyddent yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol. Esboniodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol fod y ddeddfwriaeth yn glir iawn ynghylch hyrwyddo cydweithio ac integreiddio, sef y sicrwydd hwnnw a’r rôl graffu a sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn sy’n ofynnol o dan y Ddeddf.
Dogfennau ategol: