Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynigion ar gyfer cyflwyno proses ‘Gosod ar Sail Dewis’ ar gyfer Tai Cyngor yn Sir Gaerfyrddin lle byddai'r Cyngor yn hysbysebu eiddo gwag yn agored ac yn gwahodd pobl ar y Gofrestr Dewis Tai i wneud cynnig am denantiaeth yr eiddo hyn, yn hytrach na'r polisi presennol o gynnig eiddo i ddarpar denantiaid. Ystyrid bod y broses newydd, pe bai'n cael ei mabwysiadu, yn fuddiol i'r tenantiaid a'r Cyngor o ran ei bod:
· Yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas ag eiddo gwag;
· Yn sicrhau bod ymgeiswyr a oedd wedi mynegi diddordeb mewn eiddo penodol eisiau cael y cartref yn hytrach na'u bod yn ei dderbyn ar y sail y byddent yn cael eu cosbi pe baent yn gwrthod,
· Yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn yr eiddo ac yn aros am gyfnod hwy (a fyddai'n arwain at denantiaethau a chymunedau mwy cynaliadwy)
· Yn darparu data cynllunio amser real i'r awdurdod ynghylch poblogrwydd/dymunoldeb ei gartrefi, a ddylai ddylanwadu ar y strategaeth rheoli asedau a'r ymrwymiad i dai fforddiadwy,
· Yn lleihau'r amser y byddai'r staff yn ei dreulio yn nodi ymgeiswyr,
· Yn lleihau nifer yr eiddo a wrthodwyd
· Yn ategu rhaglen ‘ar-lein amdani’ y Cyngor.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi sut y byddai'r gwasanaeth newydd yn cael ei ddarparu, yn bennaf ar sail ddigidol drwy wasanaethau ar-lein y Cyngor, gan sicrhau hefyd bod modd i'r bobl fwyaf bregus a phobl eraill heb wasanaethau digidol gael mynediad i'r system a chyflwyno ceisiadau am eiddo.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cadarnhawyd y byddai Aelodau lleol yn derbyn rhestr wythnosol o'r eiddo oedd ar gael, ar sail debyg i'r rhestrau cynllunio wythnosol roeddent yn eu derbyn ar hyn o bryd.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar sut oedd eiddo yn cael ei ddyrannu os oedd nifer o geisiadau'n dod i law, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai (Cyngor a Dewisiadau) y byddai'r holl ddyraniadau'n cael eu gwneud yn unol â Pholisi Dyraniadau'r Cyngor.
· Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad bod gan 83% o aelwydydd Sir Gaerfyrddin fynediad i'r rhyngrwyd. Gofynnwyd sut oedd y Cyngor yn bwriadu gwneud y rhestrau wythnosol ar gael i'r 17% arall.
Cyfeiriwyd y Pwyllgor gan Reolwr y Gwasanaethau Tai at yr adroddiad ysgrifenedig a fanylai ar amryw o opsiynau o ran hyn gan gynnwys hysbysebu'r rhestr yn llyfrgelloedd y Cyngor, canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid ac adeiladau cyhoeddus eraill. Byddai'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector a busnesau lleol i bwyso a mesur eu diddordeb mewn helpu i hyrwyddo'r cartrefi oedd ar gael e.e. siopau a swyddfeydd post lleol. Byddai pobl ddigartref yn cael cymorth drwy'r Gwasanaeth Cyngor ynghylch Tai. Yn ogystal, byddai'r system yn galluogi pobl agored i niwed, neu'r rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd, i enwebu rhywun i gyflwyno cais ar eu rhan.
· Er bod croeso i'r cynigion i helpu'r sawl nad oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd i wneud cais, ceisiwyd sicrwydd y byddai'r Cyngor yn gallu parhau i roi cymorth i'r bobl hyn.
Sicrhawyd y Pwyllgor fod cymorth yn cael ei roi i ddarpar denantiaid a oedd am gael eu cynnwys ar Gofrestr Dewis Tai y Cyngor, lle roedd cryn dipyn o wybodaeth cyn-denantiaeth am eu gallu i gyflawni eu rhwymedigaethau fel tenantiaid y Cyngor.
· Cyfeiriwyd at yr awgrym bod cyfnod o 3-5 diwrnod yn cael ei roi i ymgeiswyr wneud cais am eiddo, ac a oedd hynny'n rhy fyr, o ystyried nad oedd pobl bob amser yn mynd ar y we'n ddyddiol.
Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai cyfnod hwy yn golygu y byddai tai'n wag am gyfnodau hwy. Un o fanteision y system newydd arfaethedig oedd bod tenantiaid yn gwneud cais am eiddo ar y sail eu bod yn hoffi'r t? a'r ardal, a thrwy hynny roedd yn bosibl y byddent yn byw yn yr eiddo'n hwy gan arwain at ostyngiad tymor hir yn nifer y tai gwag.
· Cyfeiriodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd at y sylwadau a fynegwyd ar yr angen i sicrhau bod y rhestrau wythnosol yn cael eu hysbysebu ar raddfa mor eang â phosibl. Pe bai'r Cyngor yn cymeradwyo'r cynnig i newid i Broses Gosod ar Sail Dewis, roedd cam nesaf y broses honno'n ei gwneud yn ofynnol i lunio cynllun cyfathrebu a nodai sut y gallai'r rhestrau hynny gael eu cyfathrebu/bod ar gael i ddarpar denantiaid.
· Dywedwyd mai un o fanteision y system newydd arfaethedig oedd y byddai gan y Cyngor ddata cynllunio amser real ar gael ar boblogrwydd/dymunoldeb ei gartrefi er mwyn dylanwadu ar ei strategaeth rheoli asedau a'r ymrwymiad i dai fforddiadwy. Mewn amgylchiadau lle roedd eiddo wedi cael eu nodi'n rhai anodd eu gosod, gofynnwyd cwestiwn am y camau gweithredu ar eu cyfer yn y dyfodol.
Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd pe bai eiddo heb ei osod am gyfnod o chwe mis, byddai asesiad yn cael ei wneud ar ei ddyfodol a allai gynnwys ei werthu a defnyddio'r incwm a ddeilliai o hynny i fuddsoddi mewn eiddo neu godi eiddo yn rhywle arall.
· Cadarnhawyd pe bai'r Cyngor yn cymeradwyo'r broses osod newydd, y bwriad oedd ei chyflwyno ym mis Ebrill 2018, cyn belled â bod y systemau TG priodol wedi'u profi'n llawn ac yn weithredol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod proses y Cyngor ar gyfer gosod cartrefi yn cael ei newid i ddull 'Gosod ar Sail Dewis'.
Dogfennau ategol: