Agenda item

SEFYDLU CWMNI TAI SY'N EIDDO I'R CYNGOR

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar gynigion gan y Cyngor ar gyfer sefydlu Cwmni Tai Lleol ym Mherchnogaeth y Cyngor (Y Cwmni) fel cyfrwng datblygu i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai yn Sir Gaerfyrddin a chynyddu'r cyflenwad o dai ychwanegol y mae angen mawr amdanynt, a hynny gan greu cyfleoedd am swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau, cefnogi'r gadwyn gyflenwi a chyflawni dyheadau adfywio'r Cyngor. Byddai'r Cwmni, pe bai'n cael ei sefydlu, hefyd yn ategu'r defnydd parhaus o adnoddau'r Cyfrif Refeniw Tai i gomisiynu tai newydd (lle'r oedd hi'n briodol gwneud hynny) a byddai hefyd yn cefnogi Ymrwymiad y Cyngor i Dai Fforddiadwy a wnaed ym mis Mawrth 2016 ar gyfer dewisiadau darparu tai eraill er mwyn cynyddu nifer y cartrefi yn y Sir.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r Cwmni yn berchen i'r Cyngor yn llawn, ac na fyddai unrhyw ran o stoc dai bresennol y Cyngor yn cael ei throsglwyddo (a fyddai'n parhau i gael ei rheoli a'i chynnal gan y Cyngor) na threfniadau TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Gwarchod Cyflogaeth)) y staff presennol.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi'r trefniadau ar gyfer sefydlu'r Cwmni ac yn cynnwys saith argymhelliad i'w hystyried a'u cymeradwyo ganddo, ac, os yw'n briodol, gan y Bwrdd Gweithredol. Byddai'r trefniadau hynny'n cynnwys penodi pum cyfarwyddwr cwmni, paratoi cynllun busnes i'w gymeradwyo gan y Cyngor, ynghyd â chostau sefydlu cychwynnol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar rôl ddatblygu y cwmni arfaethedig, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'n gyfrwng i sicrhau datblygiad tai o safon dda yn Sir Gaerfyrddin, a hynny drwy amrywiaeth o ffyrdd/deiliadaethau er mwyn galluogi pobl leol i gael troed ar yr ysgol dai, ac y gallai, er enghraifft, gynnwys tai at ddibenion gwerthu, gosod, cyfranddaliadau, lesddaliadau, a rhentu i brynu. Byddai'r Cwmni ei hun ar wahân i'r Cyngor, a byddai pum cyfarwyddwr yn ei redeg, ac ni fyddai unrhyw aelodau o blith staff y Cyngor yn cael eu trosglwyddo.

I gychwyn byddai angen i'r Cwmni, cyn dechrau gweithredu, lunio gweithdrefn ddatblygu yn nodi ystod o weithdrefnau i sicrhau bod tai o safon yn cael eu darparu drwy drefniadau contractio gydag adeiladwyr lleol a mabwysiadu ei 'Sicrwydd Ansawdd' ei hun. Yn ail, byddai angen i'r Cwmni ddatblygu Cynllun Busnes ffurfiol, i'r Cyngor ei gymeradwyo, yn manylu ar y trefniadau cychwynnol mewn perthynas ag unrhyw dir/benthyciadau/staff y byddai'n eu cael gan y Cyngor o bosibl, a'r trefniadau ad-dalu.

·        Cyfeiriwyd at dudalen 7 yr adroddiad a phwynt 5 yn ymwneud â'r gymhareb cyflog i bris t? o 5:1 mewn rhannau o'r sir, gyda Chofrestr Dewis Tai y Cyngor yn cofnodi bod galw mawr am dai nad yw'n cael ei ateb, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle roedd gwerth eiddo yn uchel a'r cyflenwad yn gyfyngedig. Gofynnwyd am eglurhad ar sut y gallai'r cwmni newydd fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwnnw.

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod prinder tai yn y sector gwledig yn hynod ddifrifol, a bod y rhesymau dros hynny'n amrywio ac y gallent gynnwys gwerthiant eiddo'r cyngor yn y gorffennol, diffyg tai fforddiadwy neu'r mathau anghywir o ddeiliadaethau. Fel rhan o'r trafodaethau ar sut y gellid unioni'r prinder hwnnw, roedd gwaith wedi'i wneud ar y cyd â phum cymuned wledig i asesu'r angen lleol yn eu hardaloedd, sut y gellid pwyso a mesur hynny, a dyheadau pobl am wahanol fathau o ddeiliadaethau.

O ystyried yr asesiadau hynny, atgoffodd y Pwyllgor o'r cyfyngiadau oedd ar y Cyngor o ran mynd i'r afael ag anawsterau tai ledled y Sir, nid yn unig yn yr ardaloedd gwledig, ond bod y Cyngor, mewn ymgais i liniaru'r anawsterau hynny, wedi atal y ddeddfwriaeth hawl i brynu. Byddai'r cwmni newydd, gan ei fod yn gweithredu'r tu hwnt i'r cyfyngiadau oedd yn cael eu gosod ar awdurdodau lleol, yn gallu darparu tai cost isel ar gyfer pobl leol yn unig.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a fyddai rhai o'r cartrefi newydd yn rhai arloesol a charbon isel o ran eu dylunio a'u hadeiladu, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'r cwmni newydd yn cael cyfle i edrych ar fathau gwahanol o ddarpariaeth a chael y rhyddid i weithio gyda chwmnïau/adeiladwyr lleol er mwyn cynnig ystod o gynnyrch gwahanol ar sail anghenion lleol, ystyriaethau cynllunio a gwerthoedd y farchnad. Byddai hefyd yn gallu gweithio gydag adeiladwyr lleol i greu prentisiaethau, a thrwy hynny ehangu'r sylfaen sgiliau leol.

·        Cyfeiriwyd at ymdrechion y Cyngor i gyfrannu at ac annog perchenogion eiddo preifat i sicrhau bod rhywfaint o'r 2,000 o dai preswyl yr amcangyfrifid eu bod yn wag yn y sir yn dechrau cael eu defnyddio unwaith eto, a gofynnwyd a fyddai'r cwmni newydd yn ymgymryd â rôl debyg.

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd na fyddai'r cwmni newydd, fel rheol, yn mentro i'r maes hwnnw gan mai swyddogaeth yr Adran Tai oedd honno'n bennaf.  Bu iddo ail-gadarnhau mai diben y cwmni newydd oedd bod yn gyfrwng datblygu i hwyluso darpariaeth tai cost isel, fel y manylwyd yn ei gynllun busnes. 

·        Câi Cytundebau Adran 106 eu defnyddio ledled y sir fel ffordd o godi arian ychwanegol ar gyfer darparu tai fforddiadwy. A fyddai gan y cwmni newydd fynediad i'r arian hwnnw er mwyn helpu i gychwyn ar y gwaith o ddatblygu tai?

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd mai mater i'r Cyngor fyddai unrhyw benderfyniad ar ddyrannu arian Adran 106 i'r cwmni. Ar hyn o bryd, bach oedd yr arian a ddeilliai o'r cytundebau hynny yn y rhan fwyaf o wardiau, ac roedd wedi cael ei ddefnyddio i brynu eiddo'n ôl ar gyfer rhent cymdeithasol. Hyd yn hyn, roedd yr arian hwn wedi helpu i brynu 60 eiddo ac roedd 13 o'r rheiny mewn ardaloedd gwledig.

·        Er bod cefnogaeth i'r egwyddor o sefydlu'r cwmni, ceisiwyd eglurhad a fyddai'r cwmni'n adeiladu tai cymdeithasol. Os felly, sut y byddai hynny'n gweithio ac a fyddai'r tai hyn yn cael eu cynnal gan y Cyfrif Refeniw Tai?

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd mai bwriad y cwmni fyddai darparu portffolio cytbwys o eiddo, fel y manylwyd yn ei gynllun busnes, a phe byddai unrhyw dai rhent yn cael eu darparu, gallai'r Adran Tai eu rheoli a'u dyrannu o dan drefniadau asiantaeth. Gallai'r eiddo hynny hefyd gael eu gwerthu i'r Cyfrif Refeniw Tai, ond ar yr amod bod unrhyw werthiant yn dibynnu ar gyllid grant a bod yr eiddo'n cydymffurfio â safonau'r Cyfrif Refeniw Tai. Gan mai bwriad y cwmni oedd adeiladu cartrefi i'w gwerthu er mwyn ategu'r ddarpariaeth tai cymdeithasol, byddai angen i'r Cyngor benderfynu a ddylai unrhyw elw mae'r cwmni yn ei wneud gael ei ail-fuddsoddi mewn adeiladu rhagor o dai, neu ei ddychwelyd i'r Cyngor.

·        Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at hysbyseb diweddar ar gyfer gwerthu tir oedd yn berchen i'r Cyngor at ddibenion datblygu ac a ellid ystyried bod hynny braidd yn ddi-weld o ystyried y cynnig presennol.

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd o'i sylw cynharach ar ddatblygu cynllun busnes i'r cwmni, a dywedodd y byddai aelod o Is-adran Eiddo y Cyngor yn ymwneud â'i ddatblygiad, pan fyddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i glustnodi tir ym mherchenogaeth y Cyngor a allai fod ar gael i'r cwmni ei ddatblygu.

·        Cyfeiriwyd at y pwysigrwydd bod y cwmni'n gwneud elw ac at bwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch ei sefydlu, y Cyngor ynteu'r Bwrdd Gweithredol.

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd ei fod ar ddeall mai Penderfyniad Gweithredol oedd sefydlu'r Cwmni a bod hynny o fewn maes gorchwyl y Bwrdd Gweithredol. Fodd bynnag, un o swyddogaethau'r Cyngor oedd derbyn y Cynllun Busnes.

·        Cyfeiriwyd at y cynnig bod gan Fwrdd Cyfarwyddwyr y cwmni 5 cyfarwyddwr, gan gynnwys un aelod, dau swyddog a dau annibynnol, a chodwyd y cwestiwn a ddylid rhoi ystyriaeth i gynyddu nifer yr aelodau ar y Bwrdd.

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod cyngor cyfreithiol ynghylch cyfansoddiad y Bwrdd wedi nodi po fwyaf o aelodau etholedig câi eu penodi, y lleiaf annibynnol fyddai'r cwmni. Hefyd byddai ganddo lai o ryddid a byddai'n edrych fel petai'n un o gyrff y Cyngor. Gan hynny, po fwyaf o reolaeth uniongyrchol oedd gan y Cyngor dros y cwmni, y mwyaf fyddai'n rhaid i'r cwmni gydymffurfio â'i reolau a'r rheoliadau a'r ddeddfwriaeth oedd yn llywodraethu cyrff cyhoeddus, gan gynnwys cydymffurfio â pholisïau caffael, a thrwy hynny effeithio ar ei allu i weithredu'n lleol a chyflogi adeiladwyr lleol.

 

Roedd y bwriad i benodi 5 cyfarwyddwr yn adleisio'r hyn a wnaed wrth sefydlu cwmnïau tebyg oedd yn berchen i'r awdurdod lleol. Byddai angen i'r rhai a benodwyd gael y wybodaeth a'r sgiliau priodol i fod yn gyfarwyddwyr a hefyd feddu ar sgiliau adeiladu. Byddai cyfyngiadau ar y math o gyfarwyddwyr fyddai'n cael eu penodi, er enghraifft ni allai'r Swyddog Adran 151 fod yn gynrychiolydd y staff oherwydd gwrthdaro buddiannau. Os oedd y Pwyllgor o'r farn ei fod yn briodol cael gwahanol gyfansoddiad ar gyfer y Bwrdd, byddai angen cyfeirio hynny at y Bwrdd Gweithredol i wneud penderfyniad yn ei gylch.

Yn deillio o'r uchod, mynegwyd barn oedd yn cefnogi penodi 5 cyfarwyddwr ar y sail y byddai cynyddu'r nifer honno'n gwneud y Bwrdd yn anhylaw, ac, o bosibl, yn effeithio ar ei allu i gyflawni ei amcanion craidd a pharhau'n ymarferol.

·        Gan y byddai'r cwmni'n annibynnol ar y Cyngor, ceisiwyd eglurhad ynghylch faint o reolaeth y gellid ei chael drosto os bernid nad oedd yn gweithredu'n unol â'i egwyddorion/nad oedd yn cyrraedd ei nodau.

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gan y Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, gyfrifoldeb dros benodi Cyfarwyddwyr y cwmni, a bod ganddynt hwy yn eu tro gyfrifoldeb cyfreithiol i'r cwmni. Roedd gan y Cyngor y grym i benodi a newid y Cyfarwyddwyr hynny os bernid bod hynny'n briodol, er enghraifft os nad oedd y cwmni'n cyrraedd ei dargedau, fel y nodir yn yr adroddiadau perfformio a gyflwynir i'r cyfranddalwr. Y ddogfen ategol allweddol yn hynny o beth oedd y Cytundeb Cyfranddalwr, a adleisiai'r berthynas rhwng y cwmni a'r Cyngor. Dim ond mewn ffordd benodol y byddai hawl gan y cwmni i weithredu, a byddai angen caniatâd cyfranddalwr i weithredu'r tu hwnt i'r paramedrau a nodwyd, er enghraifft, ni fyddai hawl gan y cwmni i gael benthyg symiau mawr o arian na phrynu tir tu allan i'r sir heb ganiatâd y cyfranddalwr.

·        Cyfeiriwyd at ddefnyddio staff y Cyngor i ddechrau wrth sefydlu'r cwmni a gofynnwyd a fyddai'r drefn honno'n parhau, neu a allai eu cyfranogiad gael ei ystyried yn wrthdaro buddiannau.

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd ei bod yn hanfodol fod y cwmni'n cael ei sefydlu mewn modd dichonol yn ariannol/gweithredol gynaliadwy, ac, i'r perwyl hwnnw byddai defnydd yn cael ei wneud o staff presennol y Cyngor oedd â'r sgiliau a'r arbenigedd perthnasol yn ystod y cyfnod cychwynnol. Lle nad oedd y sgiliau hynny ar gael yn fewnol, byddai gwasanaethau allanol yn cael eu comisiynu. Fodd bynnag, ar ôl y cyfnod gweithredu cychwynnol, pe bai'n dod i'r amlwg y byddai angen i'r cwmni gyflogi staff, byddai angen cyfeirio hynny at y Cyngor er ystyriaeth. Bu iddo gadarnhau'r eilwaith na fyddai sefydlu'r cwmni yn golygu trosglwyddo unrhyw un o weithwyr y Cyngor a byddent yn parhau i fod yn gyflogedig gan y Cyngor.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch tenantiaethau diogel, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gan denantiaid y Cyngor denantiaethau diogel, a fanylai ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau, a oedd yn fwy na'r hyn a roddid gan y sector preifat. Gan nad oedd y cwmni arfaethedig yn gorff cyhoeddus, ni fyddai'n medru rhoi tenantiaethau diogel. Fodd bynnag, pe bai'n datblygu eiddo i'w osod a fyddai wedyn yn cael ei werthu'n ôl i'r Cyngor, byddai'r cytundeb tenantiaeth yn newid i fod yn denantiaeth ddiogel.

·        Yn deillio o'r uchod, gofynnwyd a allai'r cwmni sefydlu ei gwmni gosodiadau ei hun a chyflwyno mesurau rheoli i ddiogelu tenantiaid rhag cael eu troi allan a chael eu cyflwyno wedyn i'r Cyngor fel pobl ddigartref. 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gan y Pwyllgor asiantaeth gosodiadau ar hyn o bryd, yr oedd yn ceisio ei datblygu ymhellach. Nid oedd unrhyw drafodaeth wedi bod ar y cwmni'n ymwneud â gosodiadau, a'i brif swyddogaeth oedd datblygu safleoedd i ddarparu tai fforddiadwy. Pe câi eiddo ei ddatblygu i'w osod ar ryw adeg, rhagwelid y byddai hynny'n cael ei sianelu drwy asiantaeth osodiadau'r Cyngor.

Yn deillio o'r uchod, ceisiwyd eglurhad a fyddai'r Cynllun Busnes yn ddigon pendant i sicrhau mai prif rôl y cwmni oedd datblygu eiddo ac nid cystadlu â rôl osodiadau'r Cyngor.

Gan ymateb, cyfeiriodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd at bwynt 17 ar Dudalen 67 o'r adroddiad mewn perthynas â chynhyrchu cynllun busnes blynyddol a waharddai unrhyw newid o'r fath heb ganiatâd y Cyngor ymlaen llaw.

·        Cyfeiriwyd at y rhagdybiaeth y byddai'r Cyngor yn sicrhau bod rhywfaint o'r tir roedd yn ei ddal ar gael i'r cwmni ei ddatblygu. Ceisiwyd eglurhad a fyddai'n rhaid i'r cwmni brynu tir yn breifat pe na bai'r Cyngor yn rhyddhau tir.

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd nad oedd am y cwmni'n mynd i ddilyn y trywydd hwnnw i ddechrau, ac mai ar ddatblygu tir y Cyngor fyddai'r pwyslais. Fodd bynnag, ni fyddai hynny'n atal cyswllt/partneriaethau â'r sector preifat yn y tymor hir.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pwy fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol ar ba safleoedd fyddai'n cael eu datblygu ac unrhyw restr flaenoriaethu o ran hynny, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r Cyfarwyddwyr fyddai'n gwneud y penderfyniad hwnnw, yn unol â photensial datblygu ac ymarferoldeb pob safle.

·        Cyfeiriwyd at gyflwyno Cynllun Busnes i'r Cyngor, fel rhan o'r cynigion ar gyfer y gyllideb, a mynegwyd barn y dylai'r Cyngor gael cyflwyniad ynghylch y cynllun hwnnw.

·        Cyfeiriwyd at y cynigion i'r cwmni fuddsoddi tua £50m mewn datblygu cartrefi yn y sir a cheisiwyd eglurhad sut y byddai'n codi'r swm hwnnw o arian.

Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, er byddai'r arian yn cael ei wario dros gyfnod o amser, roedd rhagdybiaeth wedi'i gwneud y byddai'n cael ei godi gan y Cyngor Sir drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus dan gytundeb benthyciadau ffurfiol â'r Cwmni.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar gyflog y 5 Cyfarwyddwr, roedd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd yn credu na fyddai'r aelod etholedig a'r cyfarwyddwyr staff yn cael unrhyw gyflog, ond efallai fyddai'r ddau gyfarwyddwr allanol.

·        Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, gan na fyddai'r cwmni'n rhwym i reolau caffael y Cyngor, byddai'n gallu penodi adeiladwyr lleol i gyflawni'r gwaith datblygu, a hynny fesul safle penodol, yn amodol ar gydymffurfio â'i strategaeth gaffael.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL BOD:

 

5.1

Yr adroddiad am y bwriad i sefydlu Cwmni Tai oedd ym Mherchenogaeth y Cyngor yn cael ei fabwysiadu, ynghyd â'r saith argymhelliad oedd ynddo

5.2

Cais yn cael ei wneud am ystyried rhoi cyflwyniad i'r Cyngor am Gynllun Busnes y Cwmni

 

 

 

Dogfennau ategol: