Agenda item

CYD-BWYLLGOR ARCHWILIO

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 8 o'i gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2016, cafodd y Panel adroddiad ynghylch cyfarfod y Cyd-bwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2017 lle'r oedd y Cynghorydd William Powell yn bresennol ar ei ran fel sylwedydd. Nododd y Panel fod y Cynghorydd Powell wedi manylu ar nifer o arsylwadau yn ei adroddiad ar waith y Cyd-bwyllgor Archwilio gan arwain at lunio'r tri argymhelliad canlynol i'r Panel gael ystyried eu hanfon ymlaen at y Comisiynydd, gyda'r nod o gael y cyhoedd i ddangos diddordeb a chraffu ar waith y Pwyllgor yn sgil ei agwedd agored a thryloyw:-

 

1.     Os oes eitemau ar yr agenda na chyhoeddir adroddiad yn eu cylch, dylai'r agenda gynnwys crynodeb o'r ffeithiau neu'r materion allweddol a drafodir fel y gall y cyhoedd ddeall yn well yr hyn a fydd yn cael ei ystyried a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch bod yn bresennol ai peidio.

2.     Lle bo eitem benodol ar yr agenda sydd i'w thrin fel un sydd wedi'i heithrio rhag cael ei chyhoeddi, dylid nodi'r rhesymau dros beidio â chyhoeddi yn yr agenda gan gyfeirio at set o feini prawf gyhoeddedig (megis cynnwys Deddf Llywodraeth Leol 1972) ynghyd ag eglurhad ynghylch goblygiadau hyn i'r dull o gynnal y cyfarfod. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd fod gwybodaeth yn cael ei chadw yn ôl am resymau priodol a hynny dim ond pan fydd er budd y cyhoedd i wneud hynny.

3.     Os yw'r Panel yn mynd i anfon sylwedyddion yn y dyfodol, awgrymir eu bod yn cael hyfforddiant ariannol arbenigol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at yr adroddiadau a gyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor Archwilio a mynegwyd y farn y dylent fod yn fwy strwythuredig a chynnwys dadansoddiad risg a mesurau lliniaru, a chafodd y rhain eu derbyn gan y Comisiynydd.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud ag argymhellion a wnaed i Heddlu Dyfed-Powys gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, cadarnhaodd y Comisiynydd nad oeddent yn rhan o gylch gwaith y Cyd-bwyllgor Archwilio i ddechrau ond ei fod wedi cyflwyno newidiadau ar gyfer eu cyflwyno yn y dyfodol i'r Cyd-bwyllgor hwnnw.

·        Cyfeiriwyd at argymhelliad 3, a mynegwyd y farn nad oedd angen gwybodaeth ariannol arbenigol ond y dylai aelodau'r Panel sy'n mynychu'r Cyd-bwyllgor Archwilio fel sylwedyddion gael rhyw fath o drafodaeth gan Swyddog Cyllid y Comisiynydd i esbonio'r gyllideb. I'r perwyl hynny anogwyd aelodau'r panel i fynychu'r seminar sydd i ddod am y gyllideb.

 

Wrth gefnogi'r hyfforddiant esboniadol, atgoffodd y Comisiynydd y Panel mai pwyllgor ymgynghorol a oedd yn adrodd iddo ef a'r Prif Gwnstabl oedd y Cyd-bwyllgor Archwilio. Yn hynny o beth, roedd o'r farn y dylai'r Panel osod cwmpas ar rôl y sylwedyddion ac o ran eu hadborth i'r Panel, os bydd y Panel yn anfon sylwedyddion i gyfarfodydd yn y dyfodol. Awgrymodd y gallai'r Panel roi ystyriaeth i hynny pan fydd yn cwrdd ag ef yn y cyfarfod y cytunwyd arno yng nghofnod 6 uchod.

 

·        Cyfeiriwyd at argymhelliad 2, a dywedodd y Swyddog Arweiniol nad oedd darpariaethau'r Ddeddf Llywodraeth Leol yn berthnasol i waith y Cyd-bwyllgor Archwilio. Fodd bynnag, dylai unrhyw adroddiad eithriedig a gyflwynir gyfeirio at y meini prawf a osodwyd gan roi'r rhesymau am yr eithrio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1

dderbyn yr adroddiad a bod y tri argymhelliad yn cael eu hanfon at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu iddo'u hystyried

8.2

cynnal trafodaeth ynghylch a ddylai'r Panel anfon sylwedyddion i gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Archwilio yn y dyfodol, a'u rôl, yn y gweithdy sydd ar ddod gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu

 

 

Dogfennau ategol: