Agenda item

6ED GYNHADLEDD FLYNYDDOL I BANELI HEDDLU A THROSEDDU

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 12 o gyfarfod y Panel ar 28 Gorffennaf 2017, cafodd y Panel adroddiad gan yr aelodau a fu'n bresennol yn y 6ed Gynhadledd Flynyddol ar gyfer Paneli Heddlu a Throseddu a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Warwick ar 6 Tachwedd 2017.

 

Nododd y Panel fod rhaglen y gynhadledd yn cynnwys y canlynol:

1.     Sesiwn lawn ac iddi banel o siaradwyr yn cynrychioli'r Paneli Heddlu a Throseddu. Y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a'r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, gan gwmpasu amrywiaeth o bynciau perthnasol a'r bwriad i ffurfio Cymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu a Throseddu. 

2.     Fforymau Rhanbarthol/Cymru Gyfan a oedd yn trafod materion a oedd yn berthnasol i'r Paneli penodol hynny.

3.     Gweithdai ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ymdrin â chwynion, gwrandawiadau cadarnhau a datblygu ‘Hyrwyddwyr’ y paneli heddlu a throseddu ar faterion penodol.

 

Tynnodd Swyddog Arweiniol y Panel ei sylw at y bwriad i ffurfio Cymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu a Throseddu ac at ddymuniad y Paneli Heddlu a Throseddu i sefydlu gr?p diddordeb arbennig o dan fantell y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Gan fod y broses o sefydlu'r Paneli Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn wahanol i'r un yn Lloegr, dywedodd fod y dymuniad hwnnw'n rhoi Awdurdodau Lleol Cymru mewn sefyllfa anodd gan nad oeddent yn aelodau o'r LGA a'u bod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref na fyddai modd iddynt ddefnyddio'u Grant i dalu'r ffi aelodaeth ofynnol. Fodd bynnag, roedd Cadeiryddion y pedwar Panel o Gymru wedi cytuno y dylent gwrdd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ystyried y sefyllfa. Roedd y trefniadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn cael eu gwneud gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod dadl wedi'i chynnal fel rhan o'r gynhadledd yngl?n â recriwtio Prif Weithredwr i Gymdeithas Genedlaethol y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, a hynny ar gyflog o oddeutu £100,000. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn aelod o'r Gymdeithas ac, os felly, maint y cyfraniad ariannol a delir i'r Gymdeithas. 

 

Cadarnhaodd y Comisiynydd ei fod yn aelod o'r Gymdeithas a'i fod yn un o'r aelodau Annibynnol/Plaid Cymru a benodwyd i'r Bwrdd. O ran maint y tanysgrifiad, dywedodd y byddai'n rhoi'r wybodaeth honno'n uniongyrchol i aelodau'r Panel am nad oedd yn ymwybodol o'r union swm.

 

·        Cyfeiriwyd at gynnwys cyffredinol y gynhadledd a'r berthynas rhwng y Paneli Heddlu a Throseddu a'u Comisiynwyr. Awgrymwyd y byddai'n fuddiol i'r Panel, pan fydd yn cwrdd â'r Comisiynydd i drafod cwestiynau gan y cyhoedd (gweler cofnod 6 uchod), fanteisio ar y cyfle i drafod ag ef faterion a nodwyd yn y gynhadledd, er enghraifft, y farn a fynegwyd nad oedd y berthynas rhwng y Paneli a'r Cyd-bwyllgorau Archwilio yn ddigon cadarn i gynnig her effeithiol.

 

Wrth ymateb, dywedodd y Comisiynydd ei fod yn hapus i gwrdd â'r Panel, fel yr awgrymwyd, ond ei bod yn bwysig cydnabod bod mesurau ar waith i'w ddal i gyfrif, er bod pryderon o bosibl mewn ardaloedd heddluoedd eraill. O ran y Cyd-bwyllgor Archwilio, dywedodd fod ei waith yn ymwneud ag ef a'r Prif Gwnstabl ac nid o reidrwydd â'r Panel yn uniongyrchol.

·        Cyfeiriwyd at faint y cronfeydd wrth gefn sydd gan Heddlu Dyfed-Powys ac er y derbyniwyd nad oedd lefel statudol y mae'n rhaid i'r heddlu ei chynnal, gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd y cronfeydd wrth gefn presennol yn cyfateb i 4%, fel yn achos awdurdodau lleol.

 

Er nad oedd yn ofynnol i'r Heddlu gynnal lefel benodol o gronfeydd wrth gefn, cadarnhaodd y Prif Swyddog Ariannol fod y lefel wedi'i gosod yn briodol i ofynion y llu heddlu a'i bod yn cael ei hadolygu'n flynyddol. Roedd lefel bresennol cronfeydd wrth gefn cyffredinol yr heddlu yn 5%, ac yn ychwanegol at hynny roedd cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi ar gyfer prosiectau penodol, e.e. y prosiect teledu cylch cyfyng.

 

Dogfennau ategol: