Agenda item

HIERARCHAETH AR GYFER Y RHWYDWAITH PRIFFYRDD

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i gyflwyno hierarchaeth weithredol ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith priffyrdd.  Byddai'r hierarchaeth yn cefnogi Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd cyffredinol sy'n blaenoriaethu buddsoddi yn y seilwaith priffyrdd drwy ddull seiliedig ar risgiau yn unol â'r Codau Ymarfer Cenedlaethol newydd sydd wedi eu diweddaru - "Seilwaith Priffyrdd sy'n cael ei Reoli'n Dda."

 

Nododd y Pwyllgor fod y rhwydwaith priffyrdd yn cynnwys dros 3,500 o gilometrau o ffordd gerbydau a hwylusai symud nwyddau a phobl yn ddiogel. Gan fod adnoddau'n lleihau a thraffig yn cynyddu, roedd blaenoriaethu lle roedd adnoddau i'w gwario yn bwysig i helpu'r awdurdod i leihau risg, bodloni ei rwymedigaethau statudol a defnyddio adnoddau sy'n lleihau yn effeithiol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diffinio hierarchaeth rhwydwaith yn seiliedig ar swyddogaeth y ffordd gerbydau/darn o'r ffordd gerbydau fel y nodwyd yn nhabl 1 yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi y byddai cyflwyno hierarchaeth rhwydwaith priffyrdd yn tanategu ac yn rhoi bod i welliannau o ran rheoli, blaenoriaethu a lefelau gwasanaeth ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd a buddsoddi mewn seilwaith, ac yn cefnogi canlyniadau allweddol y Cyngor a ddeilliai o Strategaeth Gorfforaethol 2015/2020. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi y byddai hierarchaeth y rhwydwaith yn cyfrannu tuag at saith nod cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Soniwyd bod mwy o gilometrau o briffyrdd yn Sir Gaerfyrddin na'r un sir arall yng Nghymru heblaw am un, ac mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth er bod y setliad refeniw yn rhoi ystyriaeth briodol i faint y rhwydwaith yn y sir, fod y setliad refeniw wedi lleihau'n sylweddol dros nifer o flynyddoedd.

 

Yn dilyn ymholiad ar sut roedd diogelwch ffyrdd mewn ardaloedd gwledig yn cael ei flaenoriaethu, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, gan fod pen draw i'r gyllideb, fod y gwaith o gynnal a chadw ffyrdd gwledig yn cael ei flaenoriaethu er mwyn sicrhau bod y briffordd yn cael ei chadw mewn cyflwr diogel.

 

Gofynnwyd a oedd y gyllideb Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ffurfio rhan o'r un gyllideb â phriffyrdd. Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y gyllideb ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar wahân i'r un ar gyfer priffyrdd. At hynny, roedd adolygiad ar waith ar hyn o bryd o ran Hawliau Tramwy Cyhoeddus lle roedd model blaenoriaethu tebyg ar gyfer cynnal a chadw a chyllid grant yn cael ei ystyried.

 

Cafwyd ymholiad mewn perthynas â'r traul ychwanegol ar ffyrdd a phontydd gwledig a achoswyd gan gerbydau cludiant coedwigaeth. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd i'r Pwyllgor fod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth 3 blynedd wedi cael ei gytuno a'i lofnodi'n ddiweddar gyda'r Comisiwn Coedwigaeth ac awdurdodau lleol eraill i hyrwyddo llwybrau cludo mewn rhai coedwigoedd, a fyddai'n lleihau effaith cerbydau cludiant coedwigaeth ar ffyrdd bach lleol.

 

O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r 5 ffordd o weithio, gofynnwyd a oedd yr effaith ar newid yn yr hinsawdd yn cael ei hystyried, yn enwedig wrth osod tarmac. Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod newid yn yr hinsawdd yn cael ei ystyried o ran gwaith ar gynllunio priffyrdd a chynnal a chadw yn ystod y gaeaf.  Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd i'r Pwyllgor fod gan darmac ddisgwyliad oes o tua 20 mlynedd a bod rhaglen gosod wyneb trwm mewn lle a byddai data o nifer o arolygon cyfrifiadurol yn llywio trefn cynnal a chadw.

 

Mewn perthynas â gweithio ar y cyd, gofynnwyd faint o waith oedd yn cael ei wneud gyda chwmnïau cyfleustodau ac a oedd unrhyw gyfle i wella integreiddio. Hysbysodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd y Pwyllgor fod cyfarfodydd rheolaidd yn digwydd ar hyn o bryd gyda chwmnïau cyfleustodau a bod blaengynllun gwaith wedi'i rannu i wella cydlyniad.

 

Gofynnwyd a allai Hierarchaeth y Rhwydwaith Priffyrdd gynnwys diogelu lonydd/traciau gwyrdd. Bu i'r Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth gydnabod bod heriau o ran lonydd gwyrdd yn enwedig o ystyried y gostyngiad yn yr adnoddau oedd ar gael, ond byddai'n rhoi adborth i'r Prif Beiriannydd (Rheoli Asedau a'r Rhwydwaith).

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod adroddiad Hierarchaeth y Rhwydwaith Priffyrdd yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar ystyried ei sylwadau.

 

 

Dogfennau ategol: