Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Ni all gofalwyr fod mewn addysg lawn amser a hawlio Lwfans Gofalwyr hyd yn oed os ydynt yn gofalu am y 35 awr yr wythnos sy'n eu gwneud yn gymwys i gael y budd-dal hwn. A wnewch chi ymrwymo i lofnodi’r ddeiseb a lansiwyd yn ddiweddar gan ofalwyr ifanc Sir Gaerfyrddin i newid y rheol hon fel bod gan ofalwyr sy’n oedolion ifanc y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn?”

 

Cofnodion:

 

 

“Ni all Gofalwyr fod mewn addysg amser llawn a hawlio Lwfans Gofalwyr hyd yn oed os ydynt yn gofalu am yr 35 awr yr wythnos sy'n eu gwneud yn gymwys am y budd-dal hwn.  A wnewch chi ymrwymo i lofnodi'r ddeiseb a lansiwyd yn ddiweddar gan ofalwyr ifanc Sir Gaerfyrddin i newid y rheol hon fel bod gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

Mae'n flin gen i siomi'r Cynghorydd Bill Thomas ond mae'n rhy hwyr, rwyf eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb sydd wedi bod yn mynd o gwmpas. Roeddwn wedi llofnodi'r ddeiseb cyn i'r cwestiwn ymddangos yma ar ein hagenda a byddwn yn annog pob un ohonoch i lofnodi'r ddeiseb hon hefyd. Yr hyn yr wyf wedi'i wneud yw sicrhau bod y ddolen gyswllt ar gael a'i bod wedi cael ei hanfon at holl staff y Cyngor a hefyd at staff ein hysgolion, ac os nad ydych chi fel Cynghorwyr wedi derbyn y ddolen byddaf yn sicrhau eich bod wedi'i derbyn erbyn diwedd y dydd. Mae'n ddeiseb bwysig iawn ac ers i'r mater ddod yn hysbys mae bron i 50% o'r bobl sydd wedi'i llofnodi yn bobl o Sir Gaerfyrddin ond mae'n amlwg fod y nod yn un uchel - 10,000 o lofnodion - a dim ond wedyn y bydd San Steffan yn cymryd unrhyw sylw ohonom. 10,000 fel bod rhaid i Lywodraeth San Steffan ymateb ond byddwn yn eich annog i wneud hynny. Wrth gwrs syniad a godwyd gan Ofalwyr sy'n Oedolion Ifanc yn Sir Gaerfyrddin yw'r ddeiseb hon ac maent wedi ymuno â'r Ymddiriedolaeth i Ofalwyr a'r Sefydliad Fixers i drefnu'r ddeiseb a cheisio newid y rheol 21 awr hon sydd, maent yn dweud, yn gwahaniaethu yn erbyn gofalwyr  sydd am astudio, sydd am wella eu cyfleoedd i gael gwaith ac sydd am gyrraedd eu potensial llawn mewn bywyd. Roedd rhai o'n haelodau yn bresennol yn y lansiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Roedd y Cynghorwyr Alun Lenny, Emlyn Schiavone a Carl Harris yn bresennol, ynghyd â'r Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, a Jane fydd yn y pen draw yn gofyn i'r Gofalwyr Ifanc ddod atom i roi cyflwyniad i'r Cyngor llawn. Credaf ei bod yn bwysig dros ben ein bod yn cael y cyflwyniad hwn gan y Gofalwyr Ifanc fel y gallant dynnu sylw at eu sefyllfa anodd a bydd yn gyfle delfrydol i ni eu holi am y gwaith y maent yn ei wneud. Roedd Jonathan Edwards AS hefyd yn bresennol yn y lansiad a chyhoeddodd ei fwriad i geisio codi'r mater yn y Senedd drwy Gynnig Ben Bore. Dywedodd Mr Edwards ar y noson honno mai'r hyn sydd wrth wraidd yr ymgyrch hon yw galluogi gofalwyr sy'n oedolion ifanc - y rheiny sy'n mynd ati mewn ffordd anhunanol i helpu i ofalu am eu hanwyliaid - i astudio a gwella eu cyfleoedd am waith yn y dyfodol. Nawr pan ystyriwn fod lwfans gofalwyr gyfwerth â thua £2 yr awr mae'n werth nodi nad yw'r bobl ifanc hyn yn gofyn am fwy o arian ond eu bod yn hytrach yn gofyn am y cyfle i'w helpu eu hunain a dyna'r hyn sy'n bwysig, dyna'r hyn y dylem fod yn ei danlinellu, maent am gael y cyfle i'w helpu eu hunain. Hoffwn hefyd gyfeirio at gefndir y budd-dal y byddent yn ei dderbyn - caiff ei dalu i'r rheiny sy'n treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn edrych ar ôl person anabl a pherson anabl yn y cyd-destun hwn yw rhywun sy'n hawlio lwfans neu daliadau penodol. Nid yw'r rheiny sy'n hawlio lwfans gofalwyr yn cael ennill mwy na £116 ac nid oes ganddynt yr hawl ychwaith i fod mewn addysg amser llawn a dyna graidd y mater - y ffaith nad ydynt yn cael derbyn addysg amser llawn os ydynt yn ofalwyr ac mae gennym tua 50 o ofalwyr ifanc yn y sir ac maent yn gwneud gwaith ardderchog yn edrych ar ôl rhieni. Efallai mai dim ond dau ohonynt sydd yn y t? yn edrych ar ôl brawd neu chwaer neu berthynas, a diolch hefyd fod gennym wasanaeth yma yn Sir Gaerfyrddin sy'n cynnig help i'r nifer cynyddol o blant, ac mae'n ffigur sy'n tyfu. Plant rhwng 8 a 18 oed sydd yn gofalu am rywun sy'n annwyl iddynt ac yn aml iawn nid oes yna neb arall ar gael i wneud y gwaith hwnnw. Felly, y bore yma mae Jane Tremlett, fel yr Hyrwyddwr Gofalwyr, a minnau yn eich annog i lofnodi'r ddeiseb hon a gobeithio y cawn y cyflwyniad hwn yn y dyfodol agos. Diolch yn fawr.”