Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/35911 |
Cais am gynyddu'r oriau gweithredu ar gyfer Uned 8 i ganiatáu iddi agor tan 02:00 bob dydd, Uned 8, Parc Manwerthu Cross Hands, Cross Hands, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 6NB (NODER: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno) |
S/36017 |
Adeiladu garej newydd ar y llawr gwaelod ynghyd â fflat breswyl ar y llawr cyntaf, Rhodfa Parc Howard, Llanelli, SA15 3LQ |
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safleoedd:
S/35791 |
Codi preswylfa newydd ar dir yn 7 Heol y Pwll, y Pwll, Llanelli
Y RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar leoliad yr eiddo a materion o ran parcio ceir.
Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwr oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno ei sylwadau yn y cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r safle |
S/36018 |
Addasu a helaethu ysgubor i greu rhandy preswyl ar gyfer aelodau teulu'r breswylfa gyfagos, Llwyn y Rhos, Heol Cwper, Rhydaman:-
Gwnaed cais am i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle i gael golwg ar leoliad yr eiddo mewn perthynas â'r ardal gyfagos ac ar y sail na fyddai uchder y to yn achosi unrhyw niwed i'r dirwedd gan ei fod yn edrych fel petai'n rhan o adeiladau'r fferm.
Daeth sylw i law a oedd yn cefnogi'r cais ac yn ailbwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y canlynol:- · Roedd y cais yn ymwneud â chadw gwaith a wnaed eisoes i'r eiddo i hwyluso darparu llety ar gyfer perthynas oedrannus oedd yn dymuno dychwelyd i'r ardal i gael cymorth gan y teulu. · Nod yr estyniad arfaethedig oedd hwyluso darparu rhandy ag ystafell ymolchi i berson anabl. · Roedd y Pennaeth Cynllunio wedi cadarnhau bod newid y defnydd o lety gwyliau i ddefnydd preswyl yn dderbyniol.
|
|
· Argymhellwyd bod y cais yn cael ei wrthod ar y sail y byddai'n niweidiol i gymeriad a golwg yr ysgubor wreiddiol a'r ardal gyfagos. Dadleuwyd y byddai'r rhandy arfaethedig, a fyddai'n cael ei leoli tua 500 metr o'r briffordd, yn gweddu i'r ardal gyfagos ac na fyddai'n uwch na th?'r teulu. · Nid oedd unrhyw wrthwynebiad i'r cais wedi cael ei gyflwyno gan y cymdogion na'r cyngor cymuned lleol. Ni fyddai'r cynnig ar y safle yn gyfan gwbl ac ni fyddai'n niweidiol i'r amwynder lleol na'r cymdogion.
Y RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y datblygiad mewn perthynas â'r ardal gyfagos |
3.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn gallu cael trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynghylch cyfraniad ariannol tuag at ddarparu tai fforddiadwy:-
S/35645 |
Preswylfa a garej ar dir oddi ar Heol yr Hafod, T?-croes, Rhydaman, SA18 3GA
(NODER: ni chefnogwyd cais a gyflwynwyd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle ar y sail bod y Pwyllgor o'r farn bod y sleidiau PowerPoint yn rhoi digon o fanylion i wneud penderfyniad ynghylch y cais)
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y canlynol:- · Nid oedd y mynediad arfaethedig i'r safle, sef drwy'r lôn wasanaeth breifat y tu cefn i dai ar ystad Parc yr Hendre, sy'n 4.7 metr o led, yn ddigon i ganiatáu i ddau gar fynd heibio ei gilydd, heb sôn am gerbydau adeiladu. · Nid oedd dim mannau pasio na mannau troi ar y lôn wasanaeth ac roedd tro cas ar y pen yn arwain at leoedd parcio i drigolion. · Y farn oedd nad oedd y ffotograffau o'r ffordd wasanaeth a ddangoswyd yn y cyfarfod yn gyflawn ac nad oeddent yn dangos y ffordd i gyd. · Ofnid y gallai traffig adeiladu rwystro'r ffordd wasanaeth gan darfu ar y 6 th? sy'n defnyddio'r ffordd i gael mynediad i'w lleoedd parcio. · roedd y trigolion o'r farn y dylai'r ymgeisydd dalu am unrhyw ddifrod a achosir i'r ffordd wasanaeth yn ystod y gwaith adeiladu ac, os bydd y cais yn cael ei ganiatáu, byddant yn ceisio cyngor cyfreithiol yn hynny o beth.
|
|
· Cyfeiriwyd at sylw y byddai unrhyw darfu yn fyrhoedlog. Fodd bynnag, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at hanes ystad Parc yr Hendre lle nad oedd y datblygwr (yr ymgeisydd), ers i'r ystad gael ei chwblhau yn 2015, wedi cwblhau ffyrdd a llwybrau troed yr ystad i'r safon lle y gallai'r awdurdod lleol eu mabwysiadu. · Mynegwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o lifogydd d?r arwyneb yng ngerddi cefn tai ar ystad Parc yr Hendre ac na ellid rhoi unrhyw sicrwydd y byddai'r datblygiad arfaethedig yn lleddfu/gwaethygu'r sefyllfa. · Mynegwyd pryder y gallai maint y datblygiad arfaethedig olygu ei fod yn edrych dros dai ar ystad Parc yr Hendre. · Mynegwyd pryder ynghylch effaith bosibl y traffig ychwanegol yn sgil y datblygiad arfaethedig ar y ffordd wasanaeth gefn. · Gofynnwyd a ellid cynnwys amodau mewn unrhyw ganiatâd cynllunio er mwyn gohirio cychwyn y datblygiad hyd nes y bydd ffyrdd ystad Parc yr Hendre wedi cael eu mabwysiadu a bod sicrwydd yn cael ei roi y byddai'r ymgeisydd yn talu am unrhyw ddifrod a achosir i'r ffordd wasanaeth yn ystod y gwaith adeiladu. |
Dogfennau ategol: