Cofnodion:
[NODER: Gan fod y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, gadawodd y Gadair tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried. Arhosodd yr Is-gadeirydd, sef y Cynghorydd E.G. Thomas, tra oedd yr eitem dan sylw.]
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210.
Mae Ysgol Gynradd Gors-las yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng nghanol pentref Gors-las ger Cross Hands. Mae gan yr ysgol le i 110 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn y 1920au ac mae'n darparu ar gyfer disgyblion yn ardal Gors-las a'r ardaloedd cyfagos. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn cynyddu ac mae hyn hefyd yn wir am niferoedd y disgyblion yn yr ysgol, ac ar hyn o bryd mae nifer y disgyblion yn uwch na'r lleoedd sydd ar gael.
Roedd adolygiad o'r problemau, yr anawsterau a'r bylchau yn y gwasanaeth a oedd yn gysylltiedig â'r trefniadau presennol yn Ysgol Gynradd Gors-las wedi nodi'r canlynol yn glir:-
- bod diffyg cysondeb rhwng nifer y lleoedd yn yr ysgol a'r galw am leoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg;
- nid yw adeilad presennol yr ysgol yn bodloni safonau Sir Gaerfyrddin o ran y cyfleusterau sy'n cael eu cynnig a'r gofod sy'n ofynnol;
- nid yw'r safle na'r adeiladau yn ddigonol o ran bodloni anghenion y gymuned ehangach;
- mae'n rhaid i staff a disgyblion symud rhwng yr ystafelloedd dosbarth symudol a phrif adeilad yr ysgol;
- nid oes digon o le, dan do nac yn yr awyr agored, i ddarparu a gwella cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a chyfleoedd chwarae ar gyfer pob dysgwr;
- mae'r mynediad/meysydd parcio yn yr ysgol yn gyfyngedig ac yn tarfu ar yr ysgol yn ystod cyfnodau gollwng/casglu plant.
Ar 20 Mehefin, 206 cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol Raglen Moderneiddio Addysg ddiwygiedig a Rhaglen Band “A” Ysgolion yr 21ain Ganrif, a oedd yn cynnwys datblygu cynllun i ddarparu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gors-las a fyddai'n mynd i'r afael â'r materion a nodir uchod.
Cynigiwyd y byddai gan yr ysgol newydd le ar gyfer 210 o ddisgyblion, a fyddai'n caniatáu i'r ysgol ddiwallu'r galw presennol ac yn y dyfodol am leoedd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai adeilad newydd yr ysgol hefyd yn darparu lle i gynnwys meithrinfa allanol â 30 o leoedd a chyfleusterau addas ar gyfer dysgu ac addysgu yn yr 21ain ganrif. Roedd y cynllun yn cael ei ddatblygu ar y pryd a'r bwriad oedd y byddai adeilad newydd yr ysgol yn barod i'w ddefnyddio erbyn 1 Medi, 2019.
Gan mai'r bwriad oedd gwneud cynnydd o fwy na 25% i nifer lleoedd presennol yr ysgol, rhaid dilyn proses statudol yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 i ffurfioli'r trefniant.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith mai dim ond 122 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd a chan fod y rhagamcan ar gyfer 2022 ond yn cynyddu'r nifer hwn i 124, holwyd y swyddogion o ble byddai'r disgyblion yn dod. Mynegwyd pryder ynghylch yr effaith bosibl ar ysgolion eraill yn yr ardal, yn enwedig Maes-y-bont a Chefneithin, a holwyd y swyddogion a oedd yna unrhyw fwriad i gau'r ysgolion hyn yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio nad oedd yna unrhyw gynlluniau i gau'r ysgolion hyn ar hyn o bryd. Esboniodd fod llawer o waith datblygu wedi'i wneud yn Gors-las a bod 2 ystafell ddosbarth symudol wedi'u darparu ar gyfer yr ysgol yn y gorffennol. Roedd yn hyderus y bydd yna alw am leoedd yn yr ysgol;
· Tra oedd yr angen am ysgol fwy yn yr ardal yn cael ei gydnabod, mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod 140 o blant o Gors-las yn cael eu haddysgu mewn mannau eraill a bod 44 o blant o'r tu allan i'r dalgylch yn cael eu haddysgu yn Gors-las a theimlid bod hyn yn rhywbeth y gellid mynd i'r afael ag ef yn ystod y broses ymgynghori. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio y bydd yn hanfodol ein bod yn egluro i'r cyhoedd, yn ystod y broses ymgynghori, ein bod yn ymgynghori ynghylch yr ysgol newydd ei hun, ond bod rhaid i ni hefyd gynnal ymgynghoriad ar wahân gan fod yna gynnydd o dros 25% yn mynd i fod yn nifer lleoedd yr ysgol;
· Cyfeiriwyd at y safle a gaiff ei ffafrio ar gyfer yr ysgol newydd sef parc Gors-las a holwyd y swyddogion faint o'r parc fyddai'n weddill a hefyd beth yw'r cynlluniau ar gyfer adeilad presennol yr ysgol. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Moderneiddio mai'r gobaith oedd lleoli'r ysgol yng nghanol y parc fel bod modd gwneud defnydd da o'r llwybrau o'i amgylch. Nid oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynnal ynghylch y defnydd a fydd yn cael ei wneud o safle presennol yr ysgol yn y dyfodol; fodd bynnag, mae gan yr Awdurdod bolisi lle caiff safleoedd o'r fath eu cynnig i grwpiau cymunedol i'w cymryd drosodd, ac os nad oes diddordeb yna bydd y safle'n cael ei werthu.
PENDERFYNWYD
13.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;
13.2 cymeradwyo, ar gyfer y Bwrdd Gweithredol, y cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gors-las o 110 i 210 o 1 Medi, 2019 pryd y bwriedir bod adeilad newydd yr ysgol yn cael ei ddefnyddio.
Dogfennau ategol: