Agenda item

CANLYNIADAU ARHOLIADAU AC ASESIADAU ATHRAWON A DATA PRESENOLDEB YSGOLION (HEB EU CADARNHAU).

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr Adroddiad Amodol ar Ganlyniadau Arholiadau ac Asesiadau Athrawon a oedd yn cynnwys Data Amodol ar Bresenoldeb yn yr Ysgolion.  Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn cynnwys peth data heb ei gadarnhau mewn perthynas â 2017 ac y byddai'r adroddiad ar ddata perfformiad wedi'i gadarnhau yn cael ei gyflwyno i'r aelodau yn gynnar yn 2018.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod Dangosyddion y Cam Sylfaen wedi bod islaw'r cyfartaledd am bum mlynedd. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg mai ystadegau ar draws Cymru gyfan yw'r rhain a'i bod hi'n bwysig sicrhau bod unrhyw waith monitro ac asesu a wneir yn gyson. Ychwanegodd ei bod yn ofynnol gan y swyddogion fod ysgolion yn dangos sut y gwnaethant sicrhau cynnydd i bob disgybl.  Mae'r cyfan yn fater o ddal ysgolion yn atebol;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith fod tlodi'n mynd yn broblem fawr yn sgil cwymp mewn incwm a thoriadau mewn budd-daliadau, ac y gallai hyn gael effaith ddifrifol ar y ffigurau.  Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg yn cydnabod bod yna broblem yn ymwneud â thlodi ac ymddieithrio; fodd bynnag, mae'r swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn;

·       Cyfeiriwyd at y cyswllt rhwng cynnydd yn y Cyfnod Sylfaen ac absenoldeb gan fod hyn wrth gwrs yn effeithio ar gynnydd a holwyd y swyddogion beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag absenoldeb.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Lles a'r ysgolion yn hyn o beth.  Caiff asiantaethau eraill hefyd eu galw i mewn os oes angen i gefnogi'r teulu gan ei bod hi'n bwysig gwybod pam nad yw plentyn penodol eisiau bod yn yr ysgol.  Mae'r cyfan yn ymwneud â gweithio gyda'r teulu a gwneud yn si?r fod y plant yn hapus;

·       Cyfeiriwyd at amrywiol lefelau perfformiad y dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim o ysgol i ysgol.    Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod hyn yn gymhleth gan fod yna wahanol broblemau mewn gwahanol ardaloedd.  Ychwanegodd fod gweithdy yn cael ei drefnu ar gyfer yr holl ysgolion er mwyn rhannu arferion gorau yn y maes hwn;

·       Cyfeiriwyd at y gwelliant prin a fu ym mherfformiad disgyblion mewn gwyddoniaeth a holwyd y swyddogion p'un ai'r bwriad oedd trefnu hyfforddiant ar gyfer ysgolion yn hyn o beth.  Rhoddodd y Prif Ymgynghorydd Her wybod i'r Pwyllgor fod yna gynllun peilot wedi'i gynnal yn ardal Bro Dinefwr ddwy flynedd yn ôl a oedd yn ymwneud â rhannu arbenigedd a chyfarpar.  O ganlyniad rhoddodd y staff a'r disgyblion gyflwyniad i'r holl Benaethiaid Ysgolion Uwchradd ac mae'r prosiect hwn bellach wedi cael ei gyflwyno ar draws yr holl glystyrau eraill ar gyfer y flwyddyn academaidd hon;

·       Mynegwyd pryder ynghylch nifer y plant sy'n dechrau yn yr ysgol gyda sgiliau gwan o safbwynt eu hiaith a'u datblygiad, a gellir priodoli hyn i ddibyniaeth ar declynnau technolegol.  Cytunai'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod yna dystiolaeth o hyn mewn rhai ysgolion a bod ymyriadau'n cael eu gwneud mewn achosion o'r fath.  Ychwanegodd fod dogfen wedi cael ei lansio yr wythnos hon sydd yn ymdrin â'r union fater hwnnw;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y fformat TGAU newydd a'r effaith y mae hyn wedi'i gael ar yr ystadegau ledled Cymru a dylid nodi bod rhai o'n hysgolion wedi gwella ond nad yw'r ystadegau'n dangos hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: