Agenda item

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/35783

Cyfleuster ystorfa archif newydd tu cefn i'r llyfrgell bresennol.  Yn cynnwys mynedfa newydd â ramp i'r staff o'r maes parcio cyhoeddus; pafin penwn glas newydd i fynedfa staff yr archif. Y cynigion i gynnwys grisiau tân newydd yn y llyfrgell bresennol ar dir ger Llyfrgell Caerfyrddin, Heol San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1LN

 

W/35784

Cyfleuster ystorfa archif newydd tu cefn i'r llyfrgell bresennol.  Yn cynnwys mynedfa newydd â ramp i'r staff o'r maes parcio cyhoeddus; pafin penwn glas newydd i fynedfa staff yr archif. Y cynigion i gynnwys grisiau tân newydd yn y llyfrgell bresennol ar dir ger Llyfrgell Caerfyrddin, Heol San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1LN

 

 

4.2       PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/36312

Atgyweirio a chryfhau'r wal derfyn yn 1 Parc Starling, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3HX.

 

Daeth sylw i law a gefnogai'r cais uchod, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

·        Roedd y wal yn fwy diogel nag o'r blaen;

·        Roedd yr ymgeisydd yn mynd i wella gorffeniad y wal;

·        Roedd waliau eraill tebyg yn y sir

 

 

4.3    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safleoedd:-

 

W/35450

Datblygiad preswyl arfaethedig gan gynnwys 42 o breswylfeydd ar dir ger Ysgol Gynradd Talacharn, Talacharn, SA33 4SQ

 

Y RHESWM:  Oherwydd pryderon a godwyd ynghylch diogelwch ffyrdd.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle yn sgil pryderon ynghylch y cynnydd mewn traffig ac ynghylch diogelwch cerddwyr, yn enwedig plant oedd yn cerdded i'r ysgol ac o'r ysgol.

 

Yn unol â Phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cadw eu sylwadau tan y cyfarfod ar ôl yr ymweliad safle.

 

W/35655

Adeiladu warws ailgylchu teiars â swyddfeydd cysylltiedig, iard weithredol, closydd storio a seilwaith ategol ar dir oddi ar Heol Allt-y-cnap, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3QY

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil pryderon ynghylch agosrwydd eiddo preswyl a diogelwch priffyrdd.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle yn sgil pryderon ynghylch agosrwydd eiddo preswyl a hefyd y ffaith bod pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd yn bodoli ar hyn o bryd yn yr ardal.

 

W/36194

Dymchwel y byngalo ac adeiladu t? yn ei le a garej (ailgyflwyno W/35643) yn S?n y Môr, Glanyfferi, SA17 5RS

 

Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle er mwyn cael amcan o'r breswylfa arfaethedig mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

 

Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle i'w alluogi i weld y byngalo presennol a chael amcan o'r breswylfa y bwriedir ei chodi yn ei le, a gweld a fyddai unrhyw effaith niweidiol bosibl ar eiddo cyfagos.

 

W/36197

Cadw i ddefnyddio rhan o'r breswylfa fel salon harddwch a thrin gwallt, Pibwr Mill, Heol Bolahaul, Cwm-ffrwd, Caerfyrddin, SA31 2LW

 

Y RHESWM:  Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar natur safle'r cais.

 

Cafwyd sylw yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle er mwyn gweld natur gaeedig y safle a'r gyffordd.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: