Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae nifer yr athrawon yn Sir Gaerfyrddin wedi lleihau gan 60, a chollwyd 199 o gynorthwywyr dysgu eraill o ganlyniad i fesurau cyni diweddar. A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg roi gwybod faint o athrawon a chynorthwywyr dysgu fydd, yn ei farn ef, yn cael eu colli gyda'r toriad arfaethedig o £ 4,989,000 i gyllideb ddirprwyedig ysgolion ar gyfer 2018/19?”

Cofnodion:

"Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae nifer yr athrawon yn Sir Gaerfyrddin wedi lleihau gan 60, a chollwyd 199 o gynorthwywyr dysgu eraill o ganlyniad i fesurau cyni diweddar. A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg roi gwybod faint o athrawon a chynorthwywyr dysgu fydd, yn ei farn ef, yn cael eu colli gyda'r toriad arfaethedig o £4,9m i gyllideb ddirprwyedig ysgolion ar gyfer 2018/19?

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Rwyf eisoes wedi nodi ein bod, yn anffodus, yn y seithfed flwyddyn o gyni ariannol ac mae'r sector cyhoeddus wedi cael ergyd go iawn. Rydym yn darllen am hyn yn gyson, rydym yn ei weld yn ein papurau, ar y radio, ar y teledu, llai o nyrsys yn ein hysbytai, llai o blismyn ar ddyletswydd, a dim ond y bore yma nododd y Cynghorydd Madge y pryderon sydd yn y Frigâd Dân. Mae'r gweithlu mewn awdurdodau lleol ledled Cymru wedi cael ei dorri. Rydym ni fel awdurdod wedi wyneb toriad o £53m yn y gyllideb yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi cael effaith. Ein gwaith yw gwneud ein gorau glas gyda'r gyllideb a roddir i ni. Daw'r arian o Lundain sy'n cyrraedd trwy Gaerdydd. Mae'r niferoedd a ddyfynnir gennych yn gywir ond hoffwn atgoffa'r Cyngor fod yna doriadau hefyd yn 2013, a thoriadau pellach yn 2014 pan oedd yr awdurdod hwn dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Nawr, rhaid i ni dderbyn fod y sefyllfa staffio yn ein hysgolion yn newid am amryw o resymau, nid oherwydd cyllidebau yn unig. Mae'r ysgolion yn mynd ati'n rheolaidd i adolygu strwythurau staffio, dyna yw rôl y Corff Llywodraethu ac, o ganlyniad, caiff rhai staff eu rhyddhau os ydynt yn ychwanegol at ofynion yr ysgol. Mae gennym niferoedd disgyblion sy'n cwympo. Ni allaf orfodi pobl i fynd i fyw yn Sir Gaerfyrddin wledig ac, yn aml iawn, mae'r bobl hynny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cludo eu plant i'r trefi ar eu ffordd i'r gwaith.
 Oes, mae yna newidiadau wedi bod i gyllidebau'r ysgolion, mae yna doriadau wedi bod mewn grantiau sy'n mynd i ysgolion o Gaerdydd. Efallai y bydd rhai staff sydd o oedran penodol yn hoffi cael eu hystyried ar gyfer dileu swydd yn wirfoddol. Mae'r sefyllfa yn eithaf cymhleth, ac mae'r niferoedd yn gostwng am amryw o resymau. Ledled Cymru mae yna ostyngiad o 583 wedi bod yn niferoedd yr athrawon yn ystod y cyfnod yr ydych yn cyfeirio ato. Dydyn ni ddim yn unigryw, mae hyn wedi digwydd mewn 19 allan o'r 22 o'r awdurdodau lleol ledled Cymru. Sut y gallaf fi, neu unrhyw un arall, ateb y cwestiwn ar niferoedd y dyfodol. Rwyf am amddiffyn staff rheng flaen. Fel y gwyddom i gyd rydym wedi cael swyddog TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) newydd a fydd yn cynorthwyo cyrff llywodraethu, a chredaf fod angen arweiniad a chymorth ar rai cyrff llywodraethu. Rhaid edrych ar bethau mewn modd radical. Nhw sydd yn penderfynu ar y strwythur staffio yn y pen draw. Bydd y swyddog TIC newydd yn amlinellu'r ystod o fentrau eraill a allai arbed arian. Rydym yn edrych ar hyn o bryd ar gostau cyflenwi, maent yn enfawr, y cyllidebau atgyweirio a chynnal a chadw. Rydym yn ceisio cynnig cymorth i ysgolion. Gellid gwneud arbedion mewn meysydd eraill. Ond, unwaith eto, pwysleisiaf mai cyrff llywodraethu unigol sydd yn penderfynu ar eu lefelau staffio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Roedd arolwg o'r gweithlu addysg a gynhaliwyd yn gynharach eleni yn dweud bod 88% o athrawon eisoes yn ei chael hi'n anodd rheoli eu llwyth gwaith. Pa bolisïau sydd gennych ar waith i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn y dyfodol yn effeithio ar lwyth gwaith staff?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Hoffwn atgoffa'r holwr o'r hyn a glywais yr wythnos hon sef bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn. Maent yn paratoi cynllun y byddwn yn ei ystyried. Rwyf yn pryderu fod athrawon yn cael eu llwytho â gwaith ychwanegol, yn anffodus mae biwrocratiaeth wedi treiddio i'r system.
 Byddaf yn gwrando'n ofalus ar yr hyn a gynigir i ni a byddaf yn dod ag unrhyw gynnig i'r siambr hon.