Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2016/17

Cofnodion:

(NODER: Ar ddechrau'r eitem hon tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol Gweithdrefn Gorfforaethol 9.1 "Hyd Cyfarfodydd" ac wedi nodi bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheolau Gweithdrefn Gorfforaethol y Cyngor er mwyn galluogi'r Cyngor i gwblhau'r eitemau sy'n weddill ar yr Agenda.

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2017 (gweler cofnod 13), wedi ystyried y fersiwn Drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2016/17. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ynghylch y cynnydd a wnaed yn y meysydd a nodwyd fel rhai i'w gwella yn adroddiad y flwyddyn flaenorol gan dynnu sylw hefyd at y meysydd i'w datblygu yn y flwyddyn gyfredol,

 

Cyfeiriwyd at bwysigrwydd bod pobl sy'n derbyn gofal yn gallu cyfathrebu â'u gofalwyr trwy'r Gymraeg. Rhoddwyd sicrwydd i'r Cyngor mai'r bwriad oedd cael gofalwr sy'n siarad Cymraeg ar ddyletswydd ar bob sifft ac mewn cartrefi gofal a bod mesurau ar waith i hyfforddi ac annog staff i ddysgu Cymraeg. Fodd bynnag, roedd rhaid cydnabod efallai nad yw hi bob amser yn bosibl cyflawni'r nod hwnnw.

 

Mewn ymateb i ddatganiad am yr angen i sicrhau bod darparwyr gofal yn cael eu hyfforddi a'u talu'n briodol dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol bod gweithdrefnau Comisiynu'r Cyngor mewn perthynas â darparu gofal yn hyblyg ac yn caniatáu i ddefnyddwyr fancio oriau nas defnyddiwyd. Er enghraifft, os oedd defnyddiwr gwasanaeth wedi'i gontractio i dderbyn tri ymweliad 15 munud o hyd y diwrnod ac yn defnyddio cyfran o'r amser hwnnw yn unig, gellid bancio'r amser nas defnyddiwyd a'i ddefnyddio i ddarparu gofal ychwanegol pan fyddai angen. Roedd honno'n system unigryw lle'r oedd y Cyngor yn arwain y farchnad ac yn rhannu ei brofiadau ag awdurdodau lleol eraill. Gyda golwg ar recriwtio a chadw staff, dywedodd fod gan yr awdurdod weithlu sy'n heneiddio a'i fod yn ceisio denu darparwyr ifanc i'r gwasanaeth.

 

Gwnaed sawl cyfeiriad at dudalen 258 yr adroddiad a chafodd yr adran ei chanmol am iddi gymryd y cam y llynedd o roi'r gorau i allgontractio gofal cartref ymhellach trwy ffafrio buddsoddi yn y gwasanaeth mewnol.

 

Cyfeiriwyd at yr achos diweddar o gau Cartref Gofal Gower Lodge a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau yr oedd y Cyngor yn eu cymryd i sicrhau y byddai unrhyw gontractau oedd ganddo yn osgoi sefyllfa debyg yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol mai un o'r materion allweddol yn hynny o beth oedd monitro contractau'n rheolaidd. Roedd y Cyngor wedi gwella ei drefn fonitro ac roedd yntau'n derbyn adroddiadau misol ar weithrediad y gwasanaethau. Dywedodd ymhellach mai un o'r prif faterion a oedd yn wynebu'r adran mewn perthynas â darparu gofal preswyl oedd diffyg darpariaeth yn y sir, ac roedd yr adran yn mynd ati i archwilio'r agwedd honno.

 

Mewn ymateb i ddatganiad am yr angen canfyddedig am fwy o nyrsio a llai o welyau gofal yn ardal Llanelli, cynghorodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mai'r anhawster yn hynny o beth oedd cael y cydbwysedd cywir. Tra bod gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau cyflenwad digonol o ddarpariaeth gofal preswyl, roedd angen iddo hefyd sicrhau nad oedd sefyllfa o gyflenwad gormodol yn codi, a allai effeithio ar hyfywedd cartref gofal. Rhoddodd sicrwydd, tra bod yna gyflenwad digonol i ateb y galw presennol am y ddwy flynedd nesaf, na fyddai hynny o anghenraid yn golygu y byddai gan y derbynwyr ddewis o gartrefi gofal.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, tra bernid bod y cyflenwad gofal preswyl yn ddigonol i ateb y galw, bod angen cynyddu'r gofal nyrsio yn nwyrain Sir Gaerfyrddin ac roedd yr agwedd honno yn cael ei hystyried fel rhan o ddatblygiad Llynnoedd Delta. Er mai swyddogaeth bwrdd iechyd lleol oedd honno, roedd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd ar y ddarpariaeth honno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

“cael a derbyn cynnwys y fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016/17”.

Dogfennau ategol: