Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDREW JAMES I'R CYNGHORYDD MAIR STEPHENS - DIRPRWY ARWEINYDD Y CYNGOR

Cysylltiad Band Eang Gwael.

Mae Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn y 5ed safle mewn perthynas â'r ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â'r cysylltiad arafaf o ran band eang cyflym iawn.

Mae Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi derbyn dau gyflwyniad ar wahân yn y Siambr gan swyddogion British Telecom yn ystod 2014 a 2016 a oedd yn addo gwella cyflymdra ein cysylltiad band eang yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r adroddiad diweddaraf yn nodi mai'r gorau y gallwn ei ddisgwyl bellach yw 2020!!!

Mae'r sefyllfa'n newid yn gyson gydag ychydig o gynnydd ac addewidion gwag.

Sut y disgwylir i bobl, gan gynnwys cynghorwyr, gyflawni eu dyletswyddau a bod yn effeithlon yn y gweithle pan fydd band eang cyfyngedig mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin?

Gofynnaf yn garedig i Gyngor Sir Caerfyrddin ysgrifennu at British Telecom a mynnu bod rhaglen waith â blaenoriaeth yn cael ei rhoi ar waith i unioni'r broblem fawr sydd gennym yn ardal Dwyrain Caerfyrddin/Dinefwr”.

 

Cofnodion:

“Cysylltiad Band Eang Gwael.

Mae Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn y 5ed safle mewn perthynas â'r ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â'r cysylltiad arafaf o ran band eang cyflym iawn neu, yn hytrach, diffyg hyn.

Mae Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi derbyn dau gyflwyniad ar wahân yn y Siambr gan swyddogion British Telecom yn ystod 2014 a 2016 a oedd yn addo gwella cyflymdra ein cysylltiad band eang yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r adroddiad diweddaraf yn nodi mai'r gorau y gallwn ei ddisgwyl bellach yw 2020!!!

 

Mae'r sefyllfa'n newid yn gyson gydag ychydig gynnydd yn cael ei wneud ac yn llawn addewidion gwag.

 

Sut y disgwylir i bobl, gan gynnwys Cynghorwyr, gyflawni eu dyletswyddau a bod yn effeithlon yn y gweithle pan fydd band eang cyfyngedig mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin? Rwyf yn gwneud y cais hwn mor bell â Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith fod sawl Cynghorydd arall yn yr Awdurdod wedi fy nghefnogi yn hyn o beth ac wedi dweud eu bod nhw hefyd yn dioddef o hyn, yn enwedig yn Nhre-lech ac mewn ardaloedd gwledig eraill. Rwyf felly'n dweud hynny ar ran yr awdurdod cyfan.

 

Gofynnaf yn garedig i Gyngor Sir Caerfyrddin ysgrifennu at British Telecom a mynnu bod rhaglen waith â blaenoriaeth yn cael ei rhoi ar waith i unioni'r broblem fawr sydd gennym yn ardal Dwyrain Caerfyrddin/Dinefwr”.

 

Hoffwn hefyd wneud gwelliant i'r uchod a gofyn i'r Cynghorydd Mair Stephens a fyddai'n fodlon gwneud hynny, ac wrth gwrs y siambr gyfan. Yn ddiweddar gwnaethom sefydlu Fforwm Cefn Gwlad yn Sir Gaerfyrddin, ac un o'r materion y maent wedi dweud y byddant yn ei wneud yw cael y siaradwr i ymweld â'r fforwm cefn gwlad lle byddai yna naw aelod ar draws y pleidiau yn bresennol yn y cyfarfod. Felly, os gallai hynny fod yn ystyriaeth, ac adrodd yr ymateb oddi wrth British Telecom yn ôl i'r Cyngor llawn. Credaf y byddai hynny'n drefn lywodraethu dda. Felly, os gallai'r Cynghorydd Mair Stephens gadw hynny mewn cof, byddwn yn ddiolchgar dros ben.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:-

 

Diolch i chi Gynghorydd James am godi'r mater hwn. Ac, wrth gwrs, mae'n bwnc pwysig iawn i bawb yn Sir Gaerfyrddin.

 

Fel yr ydych yn gywir i ddweud, yn yr erthygl a gyhoeddwyd gan Wales Online ym mis Awst 2017 datgelwyd mai Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oedd yr etholaeth seneddol 5ed waethaf am gyflymder band eang ac, mae'n gas gen i ddweud hyn, y gwaethaf yng Nghymru. Roedd yr erthygl yn gysylltiedig ag adroddiad a gyhoeddwyd gan y British Infrastructure Group ac yn seiliedig ar gyflymderau band eang a brofwyd gyda defnyddwyr gan y Cylchgrawn ‘Which’.

 

Ceir cyfanswm o ryw 14,000 o dai ac eiddo yn ardal Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sydd â chyflymderau band eang annigonol, sydd yn hollol annerbyniol. Mae hyn yn gosod ein cymunedau gwledig mewn sefyllfa o anfantais sylweddol ac yn llesteirio gallu busnesau gwledig i gystadlu mewn economi fyd-eang, nid yw'n helpu ein preswylwyr i gael mynediad i wasanaethau hanfodol ar-lein ac wrth gwrs, yn nes at adref, mae'n cael effaith ar ein gwaith hefyd.

 

Ar sail y data diweddaraf a gafwyd gan British Telecom, a ddarperir ar Lefel Awdurdod Lleol yn unig, gwyddom fod gan 81% o dai ac eiddo fynediad i Fand Eang Cyflym Iawn, sydd yn cyfateb i 54,000 o aelwydydd. Mae hyn yn cymharu â 21% yn 2014, felly mae peth gwelliant wedi bod. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer British Telecom sef bod gan 96% o dai ac eiddo fynediad i fand eang cyflym iawn yn 2020.

 

Mae'n peri pryder i mi, fodd bynnag, mai o'r 81% hynny o dai ac eiddo yn Sir Gaerfyrddin sydd â mynediad i fand eang cyflym iawn, dim ond 34.4% ohonynt sydd mewn gwirionedd yn defnyddio'r gwasanaeth ac rwyf wedi siarad â'n cydweithwyr yn ein tîm Marchnata a Chyfryngau i weld a oes modd i ni godi mwy o ymwybyddiaeth o'r band eang cyflym iawn sydd ar gael. 

 

Byddaf, wrth gwrs, yn ysgrifennu at Edward Hunt sef Cyfarwyddwr Cymru, Next Generation Access, sydd â chyfrifoldeb am gyflwyno band eang cyflym iawn yng Nghymru, i fynnu bod yna raglen flaenoriaeth o waith yn mynd i'r afael â'r materion cysylltedd sydd gennym yn Sir Gaerfyrddin ac yn enwedig yn Nwyrain Caerfyrddin / Dinefwr.

 

Rwyf yn si?r y bydd y Gr?p Tasg Materion Gwledig yn mynd â hyn yn ei flaen ac rwyf yn hapus i gydweithio â nhw i helpu i roi'r rhaglen hon ar waith cyn gynted â phosibl. Rwyf yn si?r, pan fydd y gr?p hwnnw wedi cwrdd, os bydd angen yna gallwn eu cael i ddod i ateb i'r siambr hon a sicrhau bod pawb ohonom yn cael dweud ein dweud. Ond, yn y cyfamser, rwyf yn si?r y bydd gan bawb ohonom ein cyfraniad ei wneud i'r Gr?p Materion Gwledig.