Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 13eg Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G.O. Jones

6 - Maes 3G ym Mharc Waundew, Caerfyrddin

Mae'n gyfarwyddwr ac yn gyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin

 

3.

COFNODION - 27 CHWEFROR 2017 pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2017 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

MAES 3G PARC WAUNDEW, CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd G.O. Jones y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn cefnogi'r gwaith o greu maes 3G ym Mharc Waundew, fel rhan o brosiect cymunedol, trwy gymeradwyo grant o 150k. Tynnwyd sylw at y ffaith fod Parc Waundew yn un o ardaloedd mwyaf heriol Caerfyrddin o ran agweddau cymdeithasol ac economaidd, ac y byddai'r maes 3G newydd o fudd i nifer fawr o grwpiau a sefydliadau lleol.

 

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wybod i'r Bwrdd fod y rhan fwyaf o'r cyllid eisoes wedi cael ei sicrhau. Amcangyfrifwyd y byddai cyfanswm cost y datblygiad hwn oddeutu £560k ac roedd Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin wedi sicrhau gwerth £410k o gyllid o'r ffynonellau canlynol:

           Cymdeithas Bêl-droed Cymru - £350k

           Grantscape - £30k

           Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - £30k

 

Gwnaethpwyd cais am i'r Cyngor gefnogi'r diffyg o £150k. Esboniwyd fod angen i'r gwaith gosod ddigwydd yn ystod misoedd yr haf yn 2017 gyda'r gorchymyn yn cael ei gyhoeddi'n gynnar ym mis Ebrill; fel arall, byddai'r cyllid oddi wrth Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn cael ei dynnu'n ôl. Nodwyd mai bwriad y clwb oedd helpu i greu buddion ehangach i'r gymuned trwy gynyddu'r defnydd o'u cyfleusterau a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau lleol gan gynnwys ysgolion cynradd, canolfannau teulu, clybiau ieuenctid a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; cyfleusterau awyr agored annigonol, os o gwbl, oedd gan y rhan fwyaf o'r rhain.

 

Dywedodd yr aelodau fod y clwb wedi gweithio'n galed i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect a nodwyd fod costau cynnal a chadw'r maes wedi'u cynnwys yn y cyllid. Tynnodd aelodau sylw at y ffaith fod y prosiect yn cyfrannu at amcanion llesiant y Cyngor ac yn darparu cyfleusterau i alluogi pobl i fod yn fwy egnïol. Gwnaethpwyd cais am weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Gyfun Bro Myrddin er mwyn datblygu eu maes 3G.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo grant o £150k i gefnogi'r gwaith o greu maes 3G ym Mharc Waundew.

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

9.

CYMORTH ARIANNOL I YMDDIRIEDOLAETH ADFYWIO TREFTADAETH CAMBRIAN/ BLAS LLANELLY

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar gymorth ariannol i Blas Llanelly. Roedd yn un o bum prosiect adfywio allweddol yng Nghanol Tref Llanelli ac roedd angen cymorth i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau a bod gan y Plas ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir. Roedd pwysigrwydd Plas Llanelly i adfywio Canol Tref Llanelli yn cael ei gydnabod.

 

Cynigiwyd argymhelliad ychwanegol, a chytunwyd arno, sef bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau er mwyn cytuno ar amodau'r grant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1       gymeradwyo grant i gefnogi prosiect yr Ymddiriedolaeth/Plas Llanelly;

 

9.2       bod tâl am werth y grant yn cael ei godi ar Blas Llanelly am gyfnod penodol o hyd at 5 mlynedd;

 

9.3       bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am rôl fel sylwedydd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr;

 

9.4       bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau er mwyn cytuno ar amodau'r grant.

10.

CONTRACT TRIN A GWAREDU GWASTRAFF - TREFNIADAU GWAHANOL YN Y DYFODOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad er mwyn rhoi ystyriaeth i fodelau darparu gwahanol ar gyfer caffael trefniadau trin gwastraff y Cyngor yn y dyfodol yn sgil ystyriaethau atebolrwydd/risg ehangach.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r gwaith o ystyried trefniadau caffael gwahanol ar gyfer trefniadau trin gwastraff y Cyngor yn y dyfodol.

11.

PROSIECT DENU PENTYWYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad ar Brosiect Denu Pentywyn, a oedd yn fenter adfywio yn unol â'r prif gynllun adfywio strategol ar gyfer Pentywyn. Tynnodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden sylw at y ffaith fod y prif gynllun adfywio yn mynd i'r afael â dirywiad ffisegol a masnachol pentref glan môr Pentywyn. Roedd y cynllun yn cael ei symud ymlaen fesul cam, a'i fwriad oedd sefydlu Pentywyn fel cyrchfan digwyddiadau 12 mis y flwyddyn i ymwelwyr ble byddent yn treulio diwrnod ac yn aros.

 

Nododd yr aelodau botensial yr ardal a'r camau cadarnhaol a oedd yn cael eu cymryd i'w hadfywio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1    gymeradwyo'r gwaith o ddatblygu a chyflawni Prosiect Denu Pentywyn yn unol â'r prif gynllun adfywio strategol ar gyfer Pentywyn;

 

11.2    gymeradwyo'r argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad er mwyn cefnogi Prosiect Denu Pentywyn.