Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Nodyn: Nid yw'r cyfarfod yma yn cael ei we-ddarlledu
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr. D.C. Evans a J. Tremlett. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 19EG GORFFENNAF 2023 PDF 80 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir.
|
|
NID YW’R ADRODDIADAU AR YR EITEMAU CANLYNOL I GAEL EU CYHOEDDI GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DDIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATOLDEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 (FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH)(AMRYWIO)(CYMRU) 2007). OS BYDD Y PWYLLGOR YN PERDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF I YSTYRIED YR EITEMAU HYN YN BREIFAT, AR ÔL CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD, BYDD Y CYHOEDD YN CAEL EU HEITHRIO O’R CYFARFOD YN YSTOD Y TRAFODAETHAU HYNNY. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod. |
|
DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O’R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 9FED EBRILL 2024 Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi'i gynnal ar 9 Ebrill 2024 yn cael ei dderbyn. |
|
CYFWELD Â'R YMGEISYDD SYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER Y SWYDD PENNAETH Y GYFRAITH, LLYWODRAETHU A GWASANAETHAU SIFIL ( A SWYDDOG MONITRO) DROS DRO AC YSTYRIED PENODI. Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor y byddai'r ymgeisydd ar y rhestr fer yn cael cyfweliad. Cafodd y Pwyllgor adborth gan swyddogion mewn perthynas â'r broses recriwtio ac asesu a'i gasgliadau. Wedyn rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor gofyn cwestiynau i'r ymgeisydd. Wedi trafodaeth a phleidlais drwy codi dwylo - PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Mr S.P. Murphy yn cael ei benodi'n Bennaeth Dros Dro y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil (a Swyddog Monitro). [Galwyd Mr S.P. Murphy yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.] |