Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 IONAWR 2024 PDF 69 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 30 Ionawr 2024, gan ei fod yn gywir. |
|
POLISI GWEITHIO HYBLYG PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried fersiwn diwygiedig o'r Polisi Gweithio Hyblyg, a oedd wedi'i ddiwygio yn unol â Rheoliadau Gweithio Hyblyg (Diwygio) 2023 a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024. Roedd y Polisi yn nodi ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gweithwyr i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a bywyd cartref a'r weithdrefn ar gyfer rheoli cais gan weithiwr am weithio hyblyg.
Nododd yr Aelod Cabinet mai dyma'r newidiadau allweddol i'r polisi a hawl gweithwyr i wneud cais am weithio hyblyg:
· mae'n ofynnol i gyflogwyr ymgynghori â'u gweithwyr cyn gwrthod cais am weithio hyblyg. · caiff gweithwyr wneud dau gais (nid un) am weithio hyblyg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis. · rhaid i gyflogwyr ymateb i geisiadau o fewn dau (nid tri) mis. · nid yw'n ofynnol bellach i weithwyr nodi sut y gallai eu cyflogwr ymdrin ag effeithiau eu cais am weithio hyblyg; ac · mae'r cyfnod cymhwyso 26 wythnos yn cael ei ddileu, gan ei gwneud yn hawl o'r diwrnod cyntaf.
Nodwyd bod Acas yn diweddaru ei Gôd Ymarfer statudol ynghylch ymdrin â cheisiadau am weithio hyblyg a hefyd bod disgwyl cael canllawiau gan y Llywodraeth ynghylch hynny yn gynnar yn 2024. O ystyried y canllawiau sydd ar ddod, byddai amserlenni yn cael eu cynnwys yn y polisi i adlewyrchu hyn ar ôl iddynt gael eu cwblhau. Nodwyd hefyd nad oedd y newidiadau yn rhoi hawl diofyn i weithio'n hyblyg, ac y byddai'n parhau i fod yn hawl i wneud cais y gall cyflogwr ei wrthod ar y sail bresennol.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r fersiwn diwygiedig o'r Polisi Gweithio Hyblyg. |
|
POLISI ABSENOLDEB TADOLAETH PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried fersiwn diwygiedig o'r Polisi Absenoldeb Tadolaeth, a oedd wedi'i ddiwygio yn unol â Rheoliadau Absenoldeb Tadolaeth (Diwygio) 2024 a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024. Roedd y Polisi yn nodi ymrwymiad y Cyngor i gefnogi tadau a phartneriaid gyda hawliau gwell o ran absenoldeb tadolaeth ynghyd â'r weithdrefn ar gyfer rheoli cais gan weithiwr am absenoldeb tadolaeth.
Nodwyd bod y rheoliadau wedi cyflwyno nifer o newidiadau nodedig i'r fframwaith absenoldeb tadolaeth presennol a oedd yn cynnwys y canlynol:
Strwythur absenoldeb hyblyg: Bydd gan weithwyr yr hyblygrwydd bellach i gymryd eu hawl i ddwy wythnos o absenoldeb tadolaeth fel dau floc o wythnos ar wahân. Mae'r newid hwn o'r gofyniad blaenorol i gymryd un wythnos barhaus neu ddwy wythnos yn olynol yn cynnig mwy o hyblygrwydd i bobl, gan gydnabod yr anghenion a'r amgylchiadau amrywiol a allai godi yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. Amserlen estynedig ar gyfer absenoldeb: Gan gydnabod natur ddeinamig bywyd teuluol, ac i ddarparu ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol a all godi yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd plentyn, mae newid sylweddol wedi'i wneud i'r amserlen y gellir cymryd absenoldeb tadolaeth oddi mewn iddi. Yn lle'r cyfyngiad blaenorol o 56 diwrnod ar ôl yr enedigaeth, gall gweithwyr bellach gymryd absenoldeb tadolaeth ar unrhyw adeg yn ystod y 52 wythnos ar ôl genedigaeth eu plentyn. Cyfnod rhybudd llai: Mae'r rheoliadau newydd yn symleiddio'r broses ar gyfer gweithwyr sy'n bwriadu cymryd absenoldeb tadolaeth trwy leihau'r cyfnod rhybudd o 15 wythnos cyn Wythnos Ddisgwyliedig Genedigaeth y Plentyn i 28 diwrnod, sef cyfnod mwy hwylus. Mae'r addasiad hwn yn hwyluso cynllunio gwell ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr, gan sicrhau proses gydlynu lyfnach yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. PENDERFYNWYD mabwysiadu'r fersiwn diwygiedig o'r Polisi Absenoldeb Tadolaeth. |