Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd F. Akhtar.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||
TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT PDF 280 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr David John Green o Gorslas Minibuses Ltd, 6 Waungoch, Tymbl Uchaf, Llanelli, Sir Gaerfyrddin am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei gerbydau hurio preifat PH588, Ford Tourneu rhif cofrestru CK17 MVC a PH 521, Ford Tourneu rhif cofrestru CK64 DTF.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Green yn cael ei ganiatáu.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL ganiatâu cais Mr David John Green am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei Ford Tourneus PH 588, rhif cofrestru CK17 MVC, a PH 521 rhif cofrestru CK64 DTF. |
|||||||
TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT PDF 279 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Stephen David King o Kingsway Executive Travel, 173 Bryn Uchaf, y Bryn, Llanelli, Sir Gaerfyrddin am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei gerbyd hurio preifat PH585 sef Mercedes V250 rhif cofrestru CE17 MYY.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr King yn cael ei ganiatáu.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Stephen David King am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i gerbyd hurio preifat PH585 rhif cofrestru CE17 MYY. |
|||||||
MISS KAREN MAY STRATFORD - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 296 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Miss Karen May Stratford o 73 Heol Llwchwr, Rhydaman, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Stratford ynghylch ei chais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Miss Stratford yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Miss Karen May Stratford am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|||||||
MR DELWYN SCOTT PANAYIOTIOU - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 272 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Delwyn Scott Panayiotiou o 8 Henllys, Stryd y Gwynt, Abertawe am ganiatáu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Panayiotiou ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Panayiotiou yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Delwyn Scott Panayiotiou am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|||||||
MR EIRWYN LYN DAVIES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 272 KB Cofnodion: (NODER: Gadawodd y Cynghorydd A Davies, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra bo'r Pwyllgor yn ei hystyried).
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Eirwyn Lyn Davies o 5 Yr Hafod, Saron, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr. Davies yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, roi rhybudd terfynol i Mr Eirwyn Lyn Davies ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|||||||
Cofnodion: Cafodd aelodau'r Pwyllgor, er ystyriaeth, gofnodion cyfarfod 27 Mehefin, 2017 a rhoddwyd gwybod iddynt am y newidiadau canlynol i'r cofnodion:
- Cofnod 1 - Ymddiheuriadau am Absenoldeb – Y Cynghorydd K Howell i'w gynnwys yn y rhestr o ymddiheuriadau - Cofnod 7 – Mr Ivor John Daniel – Cais am adnewyddu Trwydded Yrru Ddeuol Cerbyd Hacnai / Cerbyd Hurio Preifat – y cyfeiriad yn y penderfyniad at ‘Mr Vinson’ i'w newid fel ei fod yn darllen Mr Ivor John Daniel. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newidiadau uchod, lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2017 gan eu bod yn gywir.
|