Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Allen, E.G. Thomas, M.J.A. Lewis a J.E. Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1. S/34755 - DWY GARAFÁN BRESWYL SEFYDLOG YNGHYD AG ADEILADU YSTAFELL DDYDD/AMLBWRPAS, DWY GARAFÁN DEITHIOL A STABLAU (RHANNOL ÔL-WEITHREDOL), TIR SY'N RHAN O HILLSIDE VIEW, YR HENDY, LLANNON, SA14 8JX
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 8 Mawrth 2018) a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y mynediad i'r safle yn sgil pryderon a fynegwyd mewn perthynas ag anhawster gweld yn glir wrth fynd ar y B4306. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyno, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai prif bwyslais y gwrthwynebiadau oedd pryderon ynghylch diogelwch yn ymwneud â mynd i mewn ac allan o'r eiddo i'r B4306. Mynegwyd pryderon ychwanegol hefyd ynghylch yr effaith ar y cynefin glöyn byw cyfagos ac a gydymffurfid ag Amod 5.
Ymatebodd yr asiant i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/34755, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.2. S/36679 - MATERION A GADWYD YN ÔL MEWN PERTHYNAS Â MYNEDIAD, GWEDD, TIRWEDDU, CYNLLUN A MAINT, YNGHYD Â DIDDYMU AMODAU 7, 9 A 11 SY'N RHAN O GANIATÂD CYNLLUNIO S/27346, TIR MAES Y BRYN, HEOL PENLLWYNGWYN, Y BRYN, LLANELLI, SA14 9RQ
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 8 Mawrth 2018) a oedd wedi ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar fynediad y datblygiad arfaethedig yn sgil pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau cyflwyno, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai prif bwyslais y gwrthwynebiadau oedd gorddatblygu'r safle a'r effaith ddilynol ar ddiogelwch y rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu. Mynegwyd y pryderon canlynol hefyd:- · Diffyg cydlyniant cymunedol a chynhwysiad cymdeithasol; · Heb fod yn unol â pholisi TR3 yn ymwneud â dylunio priffyrdd a chynllun; · Hyfywedd ariannol y datblygiad; · Nid yw'r deunyddiau i'w defnyddio wrth adeiladu ochrau allanol y preswylfeydd wedi cael eu cymeradwyo eto, fel y nodwyd yn Amod 7; · Diffyg darpariaeth o ran cyfleusterau hamdden.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
Wrth ystyried y cais, ac yn sgil y pryderon a godwyd ynghylch y tro cas lle mae Maes y Bryn yn ymuno â Heol Fferm Penllwyngwyn, petai'r cais yn cael ei gymeradwyo, gofynnodd y Pwyllgor am i'r Is-adran Priffyrdd ailystyried a cheisio gwella agweddau diogelwch a gwelededd o ran y tro cas uchod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cynllunio S/36679 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a bod cais yn cael ei wneud i'r Is-adran Priffyrdd ystyried a ellir gwella gwelededd ac agweddau diogelwch o ran y tro cas lle mae Maes y Bryn yn ymuno â Heol Fferm Penllwyngwyn.
|