Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Gwener, 26ain Ionawr, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd B Davies, R. Evans a R. Sparks.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. Shepardson

4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 4/24-2025/26

Deiliad Tocyn ar gyfer y meysydd parcio ym Mharc Arfordirol y Mileniwm a Deiliad Tocyn Tymor i Barc Gwledig Pen-bre

K. Broom

7 – Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 – Asesiad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (gan gynnwys Atodiadau) – Ymgynghori Pellach

Mae ei g?r yn cael ei gyflogi gan Gyfoeth Naturiol Cymru

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Shepardson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 hyd at 2026/27, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/2025, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/2026 a 2026/2027, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.

 

Dywedodd y Pwyllgor, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 3.1% ledled Cymru ar setliad 2023/24, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 3.3% (£11.0m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £349,441m ar gyfer 2024/25. Er bod y setliad ychydig yn uwch na ffigur arfaethedig y Cyngor, sef cynnydd o 3.0%, ac yn darparu £0.9m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, ac roedd hyn i'w groesawu, roedd y cynnydd o ran chwyddiant, codiadau cyflog a phwysau eraill ar y gwasanaeth yn llawer uwch na'r cyllid a ddarparwyd. Yn ei gyd-destun, cyfanswm y cyllidebau ychwanegol oedd eu hangen yn 2024/25 i dalu costau codiadau cyflog yn unig oedd £15m.

 

Tra bo cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, nodwyd byddai angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu'r gostyngiadau mewn costau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/26 a 2026/27 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Dywedwyd, o ystyried risgiau presennol Strategaeth y Gyllideb a'r cefndir parhaus o ran chwyddiant ynghyd â gwasgfeydd cyllidebol eraill, fod y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 wedi'i osod yn 6.5% i liniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Fodd bynnag, roedd y strategaeth yn cynnwys diffyg o £801k y byddai angen mynd i'r afael ag ef er mwyn i'r  Cyngor bennu cyllideb gytbwys.  Ym mlynyddoedd 2 a 3 roedd y darlun ariannol dal yn ansicr, ac, o'r herwydd, roedd codiadau dangosol enghreifftiol o 4% a 3% yn y Dreth Gyngor wedi cael eu gwneud at ddibenion cynllunio'n unig, gan geisio taro cydbwysedd gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb. Byddai'r cynigion hynny yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2024. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 27 Chwefror 2024 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 28 Chwefror.

 

Nodwyd ymhellach, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i Awdurdodau Lleol Lloegr, y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn cael £28m ychwanegol drwy Fformiwla Barnett a bod sylwadau'n cael eu gwneud i'r cyllid ychwanegol hwnnw gael ei ddarparu i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a'r Gwasanaethau Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31  Rhagfyr 2023. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £142k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £29,731k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £286k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·     Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynigion arbedion, cadarnhawyd, lle nad oedd modd cyflawni arbedion, eu bod yn cael eu hailddilysu i gyllidebau adrannol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

6.

CYNLLUN CYMHELLIANT I DENANTIAID pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad, fel rhan o'r broses cyn gwneud penderfyniadau am ddatblygu polisi ynghylch a ddylai'r Cyngor gyflwyno cynllun cymhelliant i'w denantiaid a pha fath o gymhellion y dylai'r rheiny fod. Roedd yr adroddiad yn manylu ar ystod o opsiynau cymhelliant i'w hystyried ac roedd y rhain yn cynnwys:

 

·       Annog tenantiaid i symud i eiddo llai.

·       Annog tenantiaid sy'n gadael eu heiddo i'w gadael mewn cyflwr da a heb ôl-ddyledion rhent.

·       Annog pobl i ddefnyddio debydau uniongyrchol.

·       Cydnabod pan fydd tenantiaid yn helpu i wella ein gwasanaethau.

·       Annog neu wobrwyo tenantiaid sy'n cadw at amodau eu contract (tenantiaeth).

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Er y gellid ystyried yr egwyddor o weithredu cynllun cymhelliant i denantiaid fel ychydig o baradocs, nodwyd bod ymchwil a wnaed gan y Rhwydwaith Ansawdd Tai a'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (Cymru) yn awgrymu bod cynnig cymhellion yn gwneud arbedion i landlordiaid yn y tymor hir ac y gellid ei hystyried yn 'fenter gwario i arbed’. Er enghraifft, gallai tenantiaid y cyngor a oedd yn cynnal a chadw eu heiddo arbed arian i'r Cyngor o ran costau atgyweirio ac eiddo gwag.

·       Cyfeiriwyd at egwyddor y cynllun i gymell tenantiaid unigol i gynnal a chadw eu heiddo a bod yn denantiaid da. Gwnaed awgrym y gallai'r cynnig, os caiff ei gymeradwyo, hefyd ystyried cyflwyno gwobr gymunedol ar y cyd i gymunedau a oedd yn cadw ardaloedd eu hystadau'n daclus. Cytunwyd y gellid archwilio'r egwyddor fel rhan o'r cynllun.

·       Nodwyd pe bai'r pwyllgor yn cymeradwyo egwyddor y cynllun, byddai angen gwneud rhagor o waith ar ei feini prawf cymhwysedd a sut mae'n gweithio ac ati, er enghraifft, byddai cymhellion dim ond yn cael eu talu i denantiaid nad ydynt mewn ôl-ddyledion. Byddai trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal ag awdurdodau lleol eraill a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch gweithredu eu cynlluniau cymhelliant. Ar ôl hynny, byddai adroddiad yn cael ei ailgyflwyno i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol er mwyn ystyried a ddylai'r Cyngor gyflwyno cynllun peilot i asesu ei fudd i'r tenant ac i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pwyllgor yn cymeradwyo cyflwyno cynllun cymhelliant i denantiaid y Cyngor.

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG 2018 - 2033 - ASESIAD CYNALIADWYEDD INTEGREDIG A'R ASESIAD RHEOLIADAU CYNEFINOEDD (GAN GYNNWYS ATODIADAU) - YMGYNGHORIAD PELLACH pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd K. Broom wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Bu i'r Pwyllgor ystyried adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i gynnal rhagor o ymgynghoriadau am gyfnod o chwe wythnos ar yr Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (gan gynnwys yr Adendwm Cyntaf) a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (gan gynnwys yr Adendwm Cyntaf a'r Ail Adendwm) fel dogfennau ategol i Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033. Nodwyd bod yr adroddiad yn dilyn penderfyniad y Cyngor ar 9 Mawrth, 2022 i baratoi ail fersiwn Adneuo o'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl) a'r Cynlluniau a gyhoeddwyd yn dilyn hynny ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 17 Chwefror a 14 Ebrill 2023. Roedd yn ceisio adlewyrchu'r heriau parhaus o ran bodloni'r gofynion mewn perthynas â'r rheoliadau cynefinoedd sy'n deillio o ganllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lefelau ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonydd ac ansawdd d?r a'r angen i sicrhau bod paratoadau'r Cynllun a'r ystyriaeth o gwmpas a chynnwys y Cynllun yn cydymffurfio'n â deddfwriaeth a rheoliadau gweithdrefnol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr effaith y gallai'r ymgynghoriadau pellach ei chael ar fabwysiadu'r Cynllun, nodwyd mai'r gobaith i ddechrau oedd y byddai'r gwaith mabwysiadu wedi'i gwblhau erbyn diwedd 2024, ond byddai'r amserlen bellach yn symud rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2025 o bosibl. Roedd trafodaethau bellach yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru ynghylch mabwysiadu amserlen ddiwygiedig

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnal ymgynghoriadau pellach ar yr Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (gan gynnwys yr Adendwm Cyntaf) a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (gan gynnwys yr Adendwm Cyntaf a'r Ail Adendwm) fel dogfennau ategol i Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:-

 

·         Defnyddiau Canol Tref Amgen

 

 PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 7  Mawrth 2024

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 7 Mawrth 2024.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 13 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.