Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Mawrth, 16eg Ebrill, 2024 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Howell.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd B. Davies i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor yn dilyn ei gyfnod o salwch yn ddiweddar.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Sparks

4 – Adroddiad Cynnydd Pentre Awel

Mae ganddo fusnes nofio ac mae'n cynnal gwersi nofio; mae ganddo ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar hamdden ond nid pleidleisio 

R. Sparks

5 – Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 2023/24 (01/04/23-31/12/23) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Mae ganddo fusnes nofio ac mae'n cynnal gwersi nofio; mae ganddo ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar hamdden ond nid pleidleisio 

R. Sparks

6 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf

Mae ganddo fusnes nofio ac mae'n cynnal gwersi nofio; mae ganddo ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar hamdden ond nid pleidleisio 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD CYNNYDD PENTRE AWEL pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Pentre Awel a sicrwydd bod y prosiect yn cael ei gyflawni yn ôl y targed a'r amserlen.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at oblygiadau refeniw’r datblygiad arfaethedig a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn seiliedig ar gyflawni'r model busnes a'r ddeiliadaeth yn llawn, y byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle yn cael eu talu trwy incwm rhent / taliadau am wasanaethau. Yn hynny o beth, roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar ailasesu'r Cynllun Busnes gwreiddiol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Prosiectau Cyfalaf sy'n gysylltiedig ag Iechyd nad oedd cytundebau wedi'u gwneud ar gyfer meddiannaeth lawn yn y datblygiad er bod gan y datblygiad rai prif denantiaid ar hyn o bryd. Nid oedd hyn yn anarferol ar y cam hwn wrth ddatblygu safle mawr gan fod darpar denantiaid yn fwy tebygol o lofnodi bwriadau i rentu ar brydles pan fyddent yn gallu gweld y cynnyrch terfynol y byddent yn ymrwymo iddo. Roedd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau tenantiaid pellach ac roedd hefyd wrthi'n ymgysylltu ag asiant eiddo i ddenu tenantiaid.

 

·       Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at sylw a wnaed ynghylch effaith bosibl cost y ganolfan hamdden newydd ar gyllideb y gwasanaethau hamdden ac atgoffodd y Pwyllgor fod rhai rhannau o bortffolio'r Gwasanaethau Hamdden yn gweithredu ar elw ar hyn o bryd, ac mae'r elw hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ariannu meysydd gweithredol eraill o fewn y portffolio. O ran gweithredu'r ganolfan hamdden newydd, roedd y datblygiad yn darparu mwy o gyfleoedd i gynhyrchu incwm na'r hyn sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Llanelli ar hyn o bryd, gan gynnwys pwll nofio mwy o faint, campfa, a chyfleusterau arlwyo gwell. Felly, rhagwelwyd na fyddai'r ganolfan yn cael effaith andwyol ar y gyllideb hamdden ac roedd y gost honno wedi'i chynnwys yn y gyllideb.

 

·           O ran y bwriad i gynnwys cartref nyrsio’r sector cyhoeddus o fewn y datblygiad, cadarnhaodd y Pennaeth Prosiectau Cyfalaf sy'n Gysylltiedig ag Iechyd nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol i sefydliad sector cyhoeddus weithredu cartref nyrsio. Er nad oedd cyfleusterau o'r fath yn gweithredu yng Nghymru, roedd tua 40 o gartrefi nyrsio yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn Lloegr ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda rhai o'r rheiny i asesu sut y cawsant eu gweithredu. Roedd rhywfaint o waith dichonoldeb yn cael ei wneud ar lefel ranbarthol o ran modelau gweithredu arfaethedig; roedd dau ddewis. Y cyntaf oedd y byddai'r Awdurdod Lleol yn rhedeg y cartref, ond byddai'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi ac yn cadw llywodraethu clinigol ar gyfer y nyrsys. Yr ail ddewis oedd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn dirprwyo awdurdod i'r Awdurdod Lleol gyflogi a darparu'r llywodraethu clinigol ar gyfer y nyrsys. 

·       O ran penodi Llysgenhadon Cymunedol ar gyfer y datblygiad, dywedwyd wrth y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 3 - 2023/24 (01/04/23-31/12/23) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 2023/24 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o fewn ei gylch gwaith yn manylu ar y cynnydd a wnaed ynghylch y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ynghylch cyflawni'r Amcanion Llesiant.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at gam gweithredu 16546 yn yr adroddiad yn ymwneud â gwella profiad cwsmeriaid y gofrestr ceisiadau cynllunio. Er bod mân newidiadau wedi cael eu gwneud o ran hynny, cadarnhawyd y cafwyd oedi o ran gwella hynny oherwydd blaenoriaethau cystadleuol a dyrannu adnoddau.

·       Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth statudol bresennol lle mae'r Cyngor yn cynghori trigolion lleol am geisiadau cynllunio yn eu hardal/cymdogaeth a ph'un a fyddai'r cyngor yn gallu mynd y tu hwnt i'r gofyniad hwnnw i fod yn fwy cynhwysol.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod rhan o'r broses gynllunio bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr osod hysbysiadau safle a darparu prawf o hynny i'r adran gynllunio cyn i gais gael ei ystyried. O ran ehangu'r ddarpariaeth honno i ddosbarthu taflenni i'r eiddo agosaf, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai hynny'n arwain at oblygiadau o ran adnoddau i'r adran a byddai'r staff yn cael eu tynnu oddi wrth eu prif ddyletswydd o ran ystyried ceisiadau cynllunio.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor hefyd fod y Cyngor yn gweithredu gwasanaeth cais cyn cynllunio lle gallai datblygwyr posibl gael cyngor gan yr adran gynllunio (am ffi) ynghylch y prosesau, y rhwymedigaethau a'r gofynion a osodir arnynt wrth geisio caniatâd cynllunio. Cadarnhawyd hefyd fod y Cyngor yn cynnal 'Dyddiau i Ddatblygwyr' drwy gydol y flwyddyn i roi cyngor ynghylch y broses gynllunio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2023. Nodwyd y rhagwelid tanwariant o £306k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £48,489k yn y gyllideb gyfalaf, a gorwariant o £84k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y broses o bennu'r gyllideb ar gyfer 2025/26, cadarnhawyd bod gwaith paratoi eisoes wedi dechrau yn dilyn hyn. Fodd bynnag, gallai amseriad datganiad y Canghellor ynghylch cyllideb yr hydref effeithio ar ei gynnydd pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw a fyddai, yn ei dro, yn effeithio ar amseriad cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar y setliad i awdurdodau lleol.

·       Cyfeiriwyd at ailddatblygu ardal Heol yr Orsaf/Tyisha yn Llanelli a dywedodd y Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol y byddai dogfennau tendro'n cael eu cyhoeddi'n fuan ar gyfer penodi datblygwr, a byddai'r gyllideb yn cael ei hailbroffilio i adlewyrchu'r gwariant yn y blynyddoedd diweddarach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

7.

PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol

 

·       Defnydd Canol Tref Amgen

·       Diweddariad ynghylch y Prosiectau Adfywio Mawr

·       Fersiwn Drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol - Cynllun Datblygu Lleol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad ynghylch peidio â chyflwyno'r adroddiad.

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 7 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi'i gynnal ar 7 Mawrth 2024, gan eu bod yn gywir.