Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Mercher, 17eg Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.  Estynnodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau'r Pwyllgor i Mrs Kelly Evans, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a dymuno gwellhad buan iddi yn dilyn ei salwch diweddar.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

A.   Evans*

4. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/2024

Rhagfarnol - Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn yr adran Gwasanaethau Democrataidd

*Datganiad wedi'i wneud ar ddechrau'r eitem agenda.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, arhosodd y Cynghorydd A. Evans yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol, a oedd yn rhoi diweddariad am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/2024.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn nodi adroddiad Monitro Arbedion fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £10,183k ac yn rhagweld gorwariant o £4,782k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Codwyd ymholiad ynghylch y cynnydd a wnaed mewn perthynas â lleihau nifer y swyddfeydd a symud staff, a'r effaith ganlyniadol ar arbedion effeithlonrwydd yr Awdurdod.  Rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wybod i'r Pwyllgor am drefniadau gweithio hybrid yr Awdurdod a alluogodd y Cyngor i ddadfuddsoddi adeiladau yn unol â'i strategaeth rheoli asedau a disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Mynegwyd pryderon i Swyddogion mewn perthynas ag effaith gweithio gartref ar lesiant staff a phwysigrwydd rhyngweithio staff mewn amgylchedd swyddfa i aelodau newydd o staff.  Yn hyn o beth, rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol sicrwydd bod y polisi gweithio hybrid yn cael ei fonitro'n agos, a bod llesiant staff yn ystyriaeth allweddol.

 

·       Codwyd pryderon gan y Pwyllgor mewn perthynas ag effaith andwyol rhewi trefniadau recriwtio ar y gweithlu a allai arwain at fwy o salwch staff a goblygiadau cost tymor hwy i'r Awdurdod.  Roedd swyddogion yn cydnabod heriau parhaus o ran rhewi trefniadau recriwtio; fodd bynnag, ystyriwyd bod dull pragmatig yn cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod i archwilio gwahanol ffyrdd o weithio o fewn hinsawdd ariannol heriol.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai recriwtio i swyddi gwag sy'n hanfodol i fusnes yn parhau, ac yn hyn o beth, roedd angen i reolwyr roi adborth am unrhyw bwysau ychwanegol yr oedd yr adrannau'n eu hwynebu er mwyn i'r Tîm Rheoli Corfforaethol eu hystyried. Amlygwyd hefyd, yn unol â dyletswydd gofal yr Awdurdod, fod polisïau cadarn ar waith o ran rheoli absenoldeb, cynllunio'r gweithlu a llesiant staff.

 

·       Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd ynghylch gwaredu asedau, rhoddodd y Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol wybod i'r Pwyllgor am Strategaeth Rheoli Asedau'r Awdurdod a phwysleisiodd yr angen i gydbwyso derbyniadau cyfalaf gyda chynhyrchu incwm.

 

·       Wrth ystyried y rhaglen gyfalaf, codwyd ymholiad ynghylch gallu'r Awdurdod i gyflawni ei brosiectau a'i gynlluniau o ystyried y llithriad a nodir yn yr adroddiad.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y gyllideb ar gyfer y rhaglen gyfalaf yn ei gwneud yn ofynnol i gyllid fod ar waith ar gyfer gwariant cyfalaf; roedd natur hyn yn golygu bod angen i'r holl Awdurdodau Lleol fabwysiadu dull synhwyrol a arweiniodd yn anochel at elfen o lithriad rhwng blynyddoedd ariannol. Rhoddwyd sicrwydd bod mesurau chwyddiant wedi'u cyfrif o fewn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 3 - 2023/24 (01/04/23-31/12/23) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad at ddibenion monitro, ar Chwarter 3 - 2023/24 o'r Camau Gweithredu a'r Mesurau oedd yn gysylltiedig â Strategaeth Gorfforaethol yr Awdurdod a'r Amcanion Llesiant.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Cyfeiriwyd at y risg a amlygwyd o ran cynaliadwyedd ariannol ysgolion a holwyd a oedd cyllid grant wedi'i neilltuo ers hynny i liniaru rhywfaint o bwysau yn hyn o beth.   Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, er bod rhywfaint o gyllid ychwanegol wedi'i dderbyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, nad oedd yr arian i'r un raddfa â blynyddoedd blaenorol ac felly, oherwydd ei natur anrhagweladwy, na allai'r Awdurdod ddibynnu ar gyllid grant ar gyfer cyllidebau ysgolion.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y byddai'r ffigwr ar gyfer y cyllid grant ychwanegol a dderbyniwyd ar gyfer ysgolion ar gyfer 2023/24 yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.

 

·       Cafwyd trafodaeth ar Alluogwr Busnes Craidd Rheoli Pobl lle amlygwyd y gyfradd ymateb isel i'r Arolwg Blynyddol Ymgysylltu â Gweithwyr.  Cafodd y Pwyllgor drosolwg o'r amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu a hyrwyddo a fyddai'n cael eu gweithredu cyn yr arolwg blynyddol nesaf i gyrraedd mwy o grwpiau staff, a byddai ymateb amserol i'r adborth yn cael ei roi i ymatebwyr. Rhoddwyd sicrwydd bod yr Arolwg Blynyddol Ymgysylltu â Gweithwyr yn ddienw ac felly nid oedd modd adnabod aelodau staff unigol.

 

·       Mewn ymateb i gais, cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor y gyfradd ymateb ar gyfer yr arolygon y cyfeirir atynt yn naratif yr adroddiad, yn ogystal â chopi o'r cwestiynau yn yr Arolwg Blynyddol Ymgysylltu â Gweithwyr.  Yn dilyn sylw, cytunodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau i archwilio'r dichonoldeb wrth uno'r arolygon rheoliadol ac is-adrannol fel modd o gynyddu cyfraddau ymateb i arolygon.

 

·       Cyfeiriwyd at berfformiad yr Awdurdod mewn perthynas â chynhyrchu derbyniadau cyfalaf i gefnogi'r rhaglen gyfalaf.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor, er ei fod yn is na'r targed ar gyfer y chwarter, bod trafodion gwerthu wedi cynyddu ers hynny, a disgwylid y byddai'r targed cyffredinol yn cael ei wireddu.

 

·       Eglurodd y Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol, mewn ymateb i ymholiad ar danberfformiad ym maes gwaith atgyweirio i adeiladau nad ydynt yn dai, fod adnodd pwrpasol bellach yn gyfrifol am fynd ar ôl contractwyr ar gyfer unrhyw waith hwyr ac felly disgwylid i'r perfformiad wella yn y maes hwn. Cytunwyd y byddai ymholiadau'n cael eu gwneud i ganfod a oedd unrhyw gosbau wedi'u rhoi i’r contractwyr am beidio â bodloni eu rhwymedigaethau o fewn amserlenni penodedig a byddai’r wybodaeth yn cael ei dosbarthu i’r Pwyllgor maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1

dderbyn yr adroddiad. 

 

5.2

bod y ffigwr ar gyfer y cyllid grant ychwanegol a dderbyniwyd ar gyfer ysgolion ar gyfer 2023/24 yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.

 

5.3

bod y gyfradd ymateb i'r arolygon y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, yn ogystal â chopi o'r cwestiynau yn yr arolwg blynyddol ymgysylltu â staff yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor. 

 

5.4

bod swyddogion yn archwilio'r dichonoldeb wrth gyfuno arolygon rheoliadol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GAR - IONAWR 2024 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

  • Cyfeiriodd yr Arweinydd at ei bresenoldeb mewn digwyddiad dysgu Cymru gyfan diweddar a oedd yn adolygu'r trefniadau llywodraethu a'r cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.  Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cyfarfod â'r Arweinydd i archwilio'r maes hwn ymhellach gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiadau mwy ystyrlon o weithgareddau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a gwell mecanweithiau ymgynghori ac ymgysylltu i gryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.   Yna gellir cynnal trafodaethau pellach gyda chynrychiolwyr perthnasol o grwpiau eraill a arweinir gan aelodau o fewn y Cyngor.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd yr Arweinydd y byddai diweddariad pellach ar y gr?p gorchwyl a gorffen sy'n deillio o'r amcan Llesiant Trechu Tlodi yn cael ei roi i'r Pwyllgor maes o law. Dywedwyd y gallai Panel Trechu Tlodi yr Awdurdod gyfrannu'n gadarnhaol at y gr?p gorchwyl a gorffen a byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yn hyn o beth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1

dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024.

 

6.2

 bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cyfarfod â'r Arweinydd i archwilio ymhellach gyfleoedd i gyflwyno adroddiadau mwy ystyrlon ar weithgareddau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda gwell dulliau ymgynghori ac ymgysylltu i gryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol. Yna gellir cynnal trafodaethau pellach gyda chynrychiolwyr perthnasol o grwpiau eraill a arweinir gan aelodau o fewn y Cyngor.

6.3

bod diweddariad pellach ar y gr?p gorchwyl a gorffen sy’n deillio o’r Amcan Llesiant Trechu Tlodi yn cael ei roi i'r Pwyllgor maes o law.

 

7.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau Corfforaethol yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r agenda yn cael ei hadolygu, oherwydd y nifer cyfyngedig o eitemau busnes a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 29 Mai 2024, a byddai penderfyniad yn cael ei wneud maes o law ynghylch a fyddai'r cyfarfod yn mynd yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.  

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 1AF MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 1 Mawrth 2024 gan eu bod yn gywir.