Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||
ESBONIAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad Rheoli Plâu.
Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â chyllid yn y dyfodol i reoli problem llygod mawr mewn carthffosydd, cadarnhaodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'r mater hwn yn cael ei gynnwys fel rhan o ddatblygiad yr achos busnes yn dilyn trafodaethau gyda D?r Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
4.1 derbyn y dyddiad diwygiedig ar gyfer yr adroddiad Rheoli Plâu; 4.2 nodi'r esboniad dros beidio â'i gyflwyno.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2023, mewn perthynas â gwasanaethau dan orchwyl y Pwyllgor Craffu - Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai £1.957m oedd y gorwariant net amcangyfrifedig, a oedd yn cynnwys £700k oherwydd bod y dyfarniad cyflog gwirioneddol yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd ar ei gyfer.
Roedd yr is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn rhagweld gorwariant o fwy na miliwn o bunnoedd am y flwyddyn. Y prif amrywiannau oedd £300k oherwydd difrod storm i briffyrdd, colli incwm ar y Gwasanaethau Parcio o £277k a gorwariant o £908k ar Gludiant Ysgol.
Roedd yr is-adran Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yn rhagweld gorwariant o £664k o ganlyniad i bwysau o £775k achos costau cynyddol cyflwyno cam interim y strategaeth wastraff, oherwydd gorfod rhoi mesurau wrth gefn ar waith.
Adroddwyd wrth gyflawni'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2023/24 fel yr oeddent yn Atodiad G i'r adroddiad, rhagwelwyd cyflawni arbedion effeithlonrwydd o £1.3m yn 2023/24, a fyddai £318k yn is na'r targed.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y Gwasanaethau Gwastraff o fewn y Prif Amrywiannau - Atodiad B yr adroddiad. Gofynnwyd am eglurhad ar y sylw 'Mae Alldro yn cynnwys tynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn' mewn perthynas â'r amrywiad o £571k. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod hyn o ganlyniad i newid y dull casglu gwastraff tuag at drefn o gasglu wrth ymyl y ffordd. Ar hyn o bryd, roedd cerbydau ychwanegol yn casglu'r gwydr o ymyl y ffordd, gan arwain at gostau ychwanegol dros dro. Er mwyn rheoli costau, roedd rhywfaint o'r costau'n cael eu talu drwy dynnu cronfeydd wrth gefn i lawr.
· Mynegwyd pryder ynghylch effaith gwasanaethau pe na bai'r swyddi gwag yn cael eu llenwi. Dywedwyd er bod cynigion i arbed arian drwy beidio â llenwi swyddi gwag, ynghyd â'r rhewi presennol ar recriwtio, fod yr adroddiad yn nodi tanwariant mewn cysylltiad â swyddi gwag amrywiol gan gynnwys Rheoli S?n fel enghraifft oedd yn Ddyletswydd Statudol. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod cyllid llawn yn cael ei ddarparu ar gyfer pob swydd oedd yn rhan o strwythur staffio'r Cyngor. Fodd bynnag, o ran rhai sy'n gadael a mamolaeth, mae natur y broses recriwtio, sy'n amrywio o ran hyd, yn creu tanwariant cyflog sydd wedyn yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad monitro'r gyllideb. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cyflwyno'r drefn o rewi recriwtio yn adlewyrchu difrifoldeb sefyllfa'r gyllideb a bod y cam hwn wedi'i gymryd i osgoi camau fel diswyddiadau.
· Cyfeiriwyd at Atodiad D yr adroddiad - prif amrywiannau Adran/Cynlluniau. Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y sylwadau a briodolir i amrywiannau 'Llithro i flynyddoedd y dyfodol', rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd yr arian ar gyfer cyllidebau cyfalaf bob amser yn cyd-fynd â phennu'r gyllideb flynyddol, ac oherwydd hyn byddai'n aml yn llithro i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27 PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Sylwer: Bu i'r Cynghorydd S. Godfrey-Coles ddatgan budd personol yn yr eitem hon. Arhosodd yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y drafodaeth a'r pleidleisio.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 i 2026/27, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu rhagolwg i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/2025, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/2026 a 2026/2027, yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Pwyllgor, wrth gyflwyno'r adroddiad, fod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 3.1% ledled Cymru ar setliad 2023/24, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 3.3% (£11.0m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £349.441m ar gyfer 2024/25. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol o hyd i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau, dyfarniadau cyflog, a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd, ac roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:
· Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd; · Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Lle a Seilwaith; · Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd; · Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaethau Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gosod wyneb ffyrdd · Gwneud gwaith sgubo mecanyddol ar ffyrdd gwledig ar sail adweithiol yn hytrach nag yn rheolaidd · Cyflwr ffyrdd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
BLAENGYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN IONAWR 2023 - RHAGFYR 2025 PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd y Cyngor Ionawr 2023 - Rhagfyr 2025 i'w ystyried. Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn darparu i'r Aelodau wybodaeth am gyflawni'r cynllun.
Roedd y cynllun yn cynnwys camau a fyddai'n cael eu cyflawni a'u hadrodd amdanynt gan sawl maes gwasanaeth, crynhowyd y camau hyn yn Atodiad A a atodwyd i'r adroddiad.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y sylw 'i gyflwyno arferion mwy cynaliadwy ar ffermydd Cyngor Sir Caerfyrddin', a nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch hyn. Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor yn 2019 i ddatgan argyfwng hinsawdd ynghyd â phenderfyniad y Cyngor yn 2022 i ofyn i'r Cabinet ddatgan argyfwng natur, fod y Cabinet wedi llunio Panel Argyfwng Hinsawdd a Natur Trawsbleidiol. Cyd-fynd â dyheadau bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig a elwir yn Ddatganiad Caeredin.
· Dywedwyd bod y Collins Concise Dictionary yn nodi mai'r diffiniad o 'Sustainable' oedd - y gallu i barhau dros gyfnod o amser. Gyda hyn mewn golwg, dywedwyd na fyddai'r ffermydd, drwy fod yn rhy gyfyngedig, yn hyfyw ar gyfer y dyfodol, ac felly cynghorwyd bod y Cabinet yn ystyried y term cynaliadwyedd, nid yn unig ar gyfer natur ond hefyd i alluogi ffermydd i gynhyrchu cynhyrchion bwyd mewn modd cynaliadwy. Gan ymateb i hyn, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Ddatgarboneiddio, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd fod "cynaliadwyedd" yn y cyd-destun hwn yn berthnasol i Egwyddor Cynaliadwyedd, a bod hynny wedi'i ymgorffori o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
· Cyfeiriwyd at y cynnydd ar Eiddo a oedd yn nodi 'gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru’. Mewn ymateb i ymholiadau ynghylch defnyddio ymgynghorwyr, rhoddodd y Rheolwr Cadwraeth Gwledig gefndir i'r ffordd roedd y Cyngor wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a llawer o sefydliadau amgylcheddol eraill. Ar hyn o bryd roedd y Cyngor yn cael swm bach o arian y gellid ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yr oedd partneriaid yn ei wneud yn Sir Gaerfyrddin. Bu Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn llwyddiannus yn y cais ac mae'n gweithio gyda nifer o ffermydd i gynorthwyo gyda'r llygredd sy'n rhedeg i ffwrdd o iardiau fferm. Datblygwyd astudiaethau achos drwy weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Afonydd a defnyddio eu harbenigedd.
PENDERFYNWYD derbyn Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin Ionawr 2023 – Rhagfyr 2025.
|
|||||||
STRATEGAETH LEOL RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD AC ERYDU ARFORDIROL PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn darparu i'r Aelodau wybodaeth fanwl am ddull y Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Sir Gaerfyrddin.
Eglurodd yr adroddiad sut y byddai llifogydd yn cael eu rheoli ar draws Sir Gaerfyrddin, yn unol ag amcanion, mesurau, a pholisïau lleol a'n strategaethau corfforaethol a chenedlaethol. Roedd y strategaeth hefyd yn darparu rhywfaint o wybodaeth gefndirol am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar lefel leol a chenedlaethol.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Wrth gymeradwyo'r manylion a ddarparwyd yn yr adroddiad, dywedwyd y byddai problemau llifogydd yn parhau yn anffodus pe bai'r un hen ddulliau ymyrraeth yn dal i gael eu defnyddio. Mae angen ymchwilio i ddulliau arloesol newydd a'u cyflwyno i leihau'r problemau llifogydd a wynebir o achos newid hinsawdd a chodi rhagor o adeiladau. Y teimlad oedd dylid rhoi pwysau ychwanegol ar Lywodraeth Cymru i ystyried newid defnydd tir lle roedd glawiad ar ei drymaf. Cynigiwyd felly bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor yn egluro'r pryderon am lifogydd ac yn dweud bod angen newid defnydd tir i reoli'r problemau llifogydd presennol.
· Dywedwyd y dylai'r Cabinet ystyried sicrhau bod rhagor o arian ar gael ar gyfer y maes hwn.
· Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir, mewn ymateb i ymholiad, fod y Swyddog Dyletswydd Digwyddiadau Llifogydd (FIDO) fel rhan o rota wythnosol, yn monitro'r tywydd bob dydd, yn enwedig glawiad a'r llanw. Mae pryderon yn cael eu hadrodd i'r rheolwyr sy'n gweithredu yn unol â hynny.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch glanhawyr cwlfer, eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod glanhawyr cwlfer a systemau jet ar hyn o bryd yn cael eu rhannu rhwng depos yn Sir Gaerfyrddin a'u bod yn cael eu defnyddio ar sail blaenoriaeth yn amodol ar adnoddau.
· Gofynnwyd pa mor ragweithiol oedd y tîm o ran cynnig llifddorau i'r rhai a allai fod eu hangen mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd? Eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir fod 'ffeiriau llifogydd' yn cael eu cynnal mewn ardaloedd o angen. Awgrymwyd bod llythyrau a thaflenni yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu i aelwydydd yn esbonio beth gallent ei wneud i ddiogelu eu heiddo rhag llifogydd.
· Dywedwyd bod unrhyw falurion a gâi eu clirio o ddraeniau ar hyn o bryd yn cael eu gadael ar y palmant/ochr y ffordd yn hytrach na'u cludo i ffwrdd. Wedyn roedd yn bosibl gallai'r malurion gael eu golchi yn ôl i'r system ddraenio yn ystod y glawiad trwm nesaf. Dywedwyd bod yr arfer hwn yn wastraff amser ac adnoddau. Awgrymwyd felly bod malurion yn cael eu symud ymaith ar ôl clirio draeniau. Derbyniodd swyddogion y pwynt a godwyd a byddent yn ei ystyried.
8.1 derbyn y Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
8.2 anfon llythyr i Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor am gyllid ar gyfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 11 Mawrth 2024 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 11 Mawrth 2024.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 RHAGFYR 2024 PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |