Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Y Cadeirydd, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif yr Eitem

Y Math o Fuddiant

Hazel Evans

5 – Cronfa'r Degwm – Cais gan Eglwys y Plwyf, Llanddarog

Cadeirydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth ac Ymddiriedolwr Corff cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2023 yn gofnod cywir.  

3.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - GRANT DECHRAU BUSNES A THWF BUSNES pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad yn manylu ar newidiadau arfaethedig i'r uchafswm grant a'r meini prawf oedd yn perthyn i'r Grant Cychwyn Busnes a'r Grant Twf Busnes. 

 

Y meini prawf presennol, a lansiwyd ym mis Mawrth 2023, ar gyfer Grantiau Cychwyn Busnes a Thwf oedd hyd at uchafswm o £10,000 yn seiliedig ar hyd at 50% o'r costau cymwys neu £5,000 fesul swydd a grëir a/neu a ddiogelir, pa un bynnag oedd y lleiaf. Roedd elfen hefyd o'r grant twf o ddyfarniadau rhwng £10,000 a £50,000 i'w hystyried ar gyfer ceisiadau gyda phrosiectau arloesol ac Ymchwil a Datblygu ac oedd â chyswllt â Strategaethau Arloesi.

 

Yn dilyn adolygiad o'r cynnydd hyd yma cynigiwyd y newidiadau canlynol i'r meini prawf grant presennol. Fodd bynnag, byddai dal angen iddynt gael eu seilio ar hyd at 50% o'r gwariant cymwys neu £5,000 fesul swydd a grëir a/neu a ddiogelir, pa un bynnag oedd y lleiaf: 

 

1.     Cynyddu'r uchafswm grant a ddyfernir ar gyfer pob cais nad oes ganddo gyswllt â'r strategaeth arloesi o £10,000 i £50,000.

2.     Cynyddu'r uchafswm grant a ddyfernir i brosiectau sy'n gysylltiedig â'r strategaeth arloesi o £50,000 i £90,000.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet, pe bai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cymeradwyo, y byddent yn diwallu anghenion busnesau Sir Gaerfyrddin ac yn mwyhau'r cymorth grant oedd ar gael i'w galluogi i gyflawni eu cynlluniau cychwyn busnes a thwf busnes. Yn ogystal, byddai'r cynnydd yn y dyfarniadau yn galluogi'r tîm grantiau i fwyhau'r galw am arian a sicrhau y cyflawnir allbynnau.

 

Eglurwyd hefyd y dylai'r cyfeiriad ar dudalen 9 pecyn yr adroddiad ynghylch dyddiad cau ceisiadau i'r gronfa ddarllen 30 Medi 2024 yn hytrach na 30 Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD diwygio meini prawf Cronfa Cychwyn Busnes a Thwf Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin fel a ganlyn:

 

1.     Cynyddu'r uchafswm grant a ddyfernir ar gyfer pob cais nad oes ganddo gyswllt â'r strategaeth arloesi o £10,000 i £50,000.

2.     Cynyddu'r uchafswm grant a ddyfernir i brosiectau sy'n gysylltiedig â'r strategaeth arloesi o £50,000 i £90,000.

 

4.

CEISIADAU ROWND 2 CRONFA BUDD CYMUNEDOL FFERM WYNT MYNYDD Y BETWS. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws - ceisiadau Rownd 2, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws

Yr Ymgeisydd

Dyfarniad

Canolfan y Mynydd Du - Chwarter Bach

£14,000

Clwb Golff Glynhir - Llandybïe

£2,735.10

DawnswyrPenrhydLlandybïe

£7339.20

Cymdeithas Lles Penybanc – Saron

£12,000

Menter Cwm Gwendraeth Elli – Pen-y-groes

£15,000

Capel Mynydd Sion – Pen-y-groes

£5,760.00

 

5.

CEISIADAU CRONFA'R DEGWM. pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw)

 

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl o'r agenda ac roedd i'w hystyried gan y Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol, yn unol â'i awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo ceisiadau grant gwerth hyd at £10,000.

6.

Y RHAGLEN DEG TREF (CRONFA REFENIW) pdf eicon PDF 172 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Refeniw y Deg Tref, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

Prosiect

Dyfarniad

CETMA

Caru Cydweli

£10,000.00

 

7.

CRONFA GYFALAF Y DEG TREF pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Gyfalaf y Deg Tref, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

 Prosiect

Dyfarniad

Cyngor Tref Llanymddyfri

Datblygu Sgwâr y Farchnad Llanymddyfri

£19,272.00

 

8.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

9.

BENTHYCIAD CANOL TREF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 o ran yr adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'n debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais am Fenthyciad Canol Tref.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am Fenthyciad Canol Tref, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

Dyfarniad

Fruitmedia Ltd

£99,535.50.00