Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Dydd Llun, 23ain Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 29AIN MEDI 2023. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29ain Medi, 2023 yn gofnod cywir.

3.

PENODI AELODAU I'R FFORWM DERBYNIADAU ADDYSG. pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar benodi Aelodau'r Fforwm Derbyniadau Addysg.

 

Yn unol â Pholisi Penodi Aelodau Fforwm Derbyniadau yr Awdurdod Lleol, mae gofyniad i adolygu aelodau craidd ac aelodau ysgolion y Fforwm bob 4 blynedd. Cynhaliwyd adolygiad aelodaeth llawn a chymeradwywyd yr enwebiadau'n ffurfiol ym mis Mai 2023. Cydnabuwyd ail-hysbysebu enwebiad ychwanegol ar gyfer Cynrychiolydd Cymunedol a chynhaliwyd ymarfer pellach i recriwtio Cynrychiolydd Cymunedol ychwanegol ym mis Mai 2023 a arweiniodd at un enwebiad.

 

Yn ogystal, ymddiswyddodd Pennaeth Ysgol Dyffryn Taf o’r Fforwm ym mis Mehefin 2023 a gohiriwyd ymarfer i geisio enwebiadau gan holl Benaethiaid Uwchradd Sir Gaerfyrddin tan ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2023 i sicrhau bod pob Pennaeth newydd yn eu swyddi, a arweiniodd hynny at un enwebiad yn cael ei dderbyn.

 

Cynrychiolwyr PrifathrawonYsgolion Cymunedol & Rheolaeth Wirfoddol:

Mr Dave Williams (Ysgol Q.E. High)

 

Cynrychiolwyr y Gymuned Lleol:

Mrs Janae Holliday (Cyngor Cymuned San Ishmael)

 

Er mwyn cwrdd ag ymrwymiadau statudol mewn perthynas a llenwi swyddi gweigion ar y Fforwm Derbyniadau Addysg,

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Dave Williams a Mrs Janae Holliday yn aelodau o’r Fforwm Derbyniadau Addysg ar y telerau i’w cadarnhau gan y Rheolwr Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau.