Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Dydd Mercher, 24ain Ionawr, 2024 9.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 TACHWEDD, 2023 pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDllofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd  2023 yn gofnod cywir. 

 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Brynsaron

(2 swydd wag – 1 Cyfredol ac 1 o 27 Mawrth)

Y Cynghorydd Ken Howell

Carreg Hirfaen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Parch C. Hamilton

Ffederasiwn Ysgolion Cross Hands a Dre-fach

(2 le gwag – 1 enwebiad)

Mr. A. Arnott

Dafen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. M. P. Jones

Y Ffwrnes

 (1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs L. Edmunds

Griffth Jones

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Philip Hughes

Yr Hendy

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Gareth Thomas

Llandybïe

(1 swydd wag o 1 2024 – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Anthony Davies

Llangadog

(1 lle gwag   1 enwebiad)

Mrs M. Scott

Meidrim

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Jean Lewis

 

Model

(2 le gwag – 1 enwebiad)

Mr. D. Maynard

 

Nantgaredig

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. H. Rees

 

  

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Dyffryn Taf

(3 swydd wag, 2 gyfredol ynghyd ag 1 o 27 Mawrth, 2024 – 2 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Sue Allen

Mrs. K. Owen