Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2023 9.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 23 Hydref 2023, gan ei fod yn gywir. 

 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Nodwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd wedi dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi. 

 

Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Abergwili

(2 le gwag - 1 enwebiad)

Mrs K Edwards

Brynsierfel

(1 lle gwag o 22 Tachwedd 2023

- 2 enwebiad)

Mrs L Beer

Porth Tywyn

(2 le gwag - 2 enwebiad)

Y Cynghorydd Michael Thomas

Ms K Richards

Cae’r Felin

(2 le gwag - 1 enwebiad)

Mr D Davies

Ffederasiwn Cynwyl Elfed/Llanpumsaint (1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs L Cockroft

Gorslas

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs G Lewis

Ffederasiwn Llechyfedach/y Tymbl

(3 lle gwag o 22 Tachwedd 2023 – 3 enwebiad)

Mrs A Price

Ms J. Thomas

Mrs J Williams

Myrddin

(1 lle gwag o 23 Ionawr 2024 – 1 enwebiad)

Ms J Lewis

Nantgaredig

(2 le gwag o 23 Ionawr 2024 – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Mansel Charles

Pen-bre

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr J H Jones

 

Pontyberem

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Miss M Ff Thomas

 

Rhys Prichard

(1 lle gwag o 22 Tachwedd 2023 - 1 enwebiad)

Mrs C Pritchard

 

Y Fro

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Miss M Phillips-Rees

 

 

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Bro Dinefwr

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd Arwel Davies

Coedcae

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs K Bowen

Ysgol Emlyn

(1 lle gwag o 1 Chwefror 2024 - 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Hazel Evans

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2022-23 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch y Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2022-23.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith o ddarparu, datblygu a hyrwyddo'r Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd yn unol â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Chynnwys y byddai Adroddiad Blynyddol y Gymraeg ar gyfer 2022-23 yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2022-23 a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.