Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Dydd Mercher, 20fed Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2024 yn gofnod cywir. 

 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Brynsierfel

(1 lle gwag - 1 enwebiad))

Mr. K. Rees

Dewi Sant

(1 lle gwag - 1 enwebiad)

Miss. C. Mackerras

Llannon

(1 lle gwag o 27 Mawrth, 2024)

Mrs. L Watkins

Penygaer

(1 lle gwag - 1 enwebiad))

Y Cynghorydd  A. Bragoli

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Coedcae

(2 lle gwag o 27 Mawrth, 2024 – 2 enwebiadau)

Mrs. J. Sharpe

Mr. N. Furneaux

Dyffryn Aman

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. G.I. Lewis

 

 

Ysgol Arbennig

Y Penodiad

HeolGoffa

(1 lle gawag – 1 enwebiad)

Mr. S. Greaney