Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED IONAWR, 2024 PDF 72 KB Cofnodion: |
|
CYFLWYNO TWMPATHAU ARAFU ARFAETHEDIG YM MHONT-HENRI PDF 167 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynigion i gyflwyno twmpath ffordd â brig crwn ar (y B4317) Riw'r Myrtwydd. Cyflwynwyd y twmpath hwn fel rhan o gyfres o fesurau i arafu traffig a gwella diogelwch cerddwyr ledled pentref Pont-henri.
Mae'n ofyniad statudol i hysbysebu cynigion ar gyfer twmpathau ffordd o ran cael sylwadau a gwrthwynebiadau gan y cyhoedd. Cafodd y cynigion ar gyfer Pont-henri un gwrthwynebiad gan un aelwyd.
Amlinellodd yr adroddiad fod Rhiw'r Myrtwydd yn ffordd breswyl sy'n cael ei defnyddio'n aml ac sy'n cysylltu Pont-henri â Phontyberem i'r gogledd. Nodwyd bod y darn lle bwriedir lleoli'r twmpath ar waelod bryn serth sy'n arwain yn uniongyrchol at ardal fwyaf poblog y rhan hon o Bont-henri. Ers 17 Medi 2023 roedd terfyn cyflymder y ffordd wedi'i ostwng i 20mya ac roedd Arwyddion Adborth i Yrwyr (DFS) wedi'u lleoli ar fannau penodol ar hyd y ffordd i atgoffa gyrwyr o'u cyflymder presennol.
Nodwyd bod gan y gymuned leol bryderon ers tro ynghylch cerbydau'n gyrru ar gyflymderau amhriodol ar hyd y ffordd. Mynegwyd hyn yn ystod digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar gyfer datblygu'r cynnig am gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a chafwyd cefnogaeth gan yr aelod lleol yn ystod trafodaethau parhaus.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gynnwys yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl mewn perthynas â'r canlynol:-
· Cynnig Arafu Traffig – Cyllid · Cynnig Arafu Traffig – Y Dyluniad Cyfredol · Gwrthwynebiadau · Arolygon Cyflymder Traffig
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i un ar ddeg o wrthwynebiadau a gafwyd gan un aelwyd a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol gan Bennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y Cyngor, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt. Rhoddwyd cyfle i'r Aelod Cabinet weld y copïau llawn o'r gwrthwynebiadau a gafwyd.
PENDERFYNWYD bod y gwrthwynebiadau'n cael eu nodi a bod y cynllun arafu traffig yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys yr holl dwmpathau ffordd a restrir yn yr adroddiad.
|