Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith - Dydd Mawrth, 19eg Mawrth, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 CHWEFROR 2024 pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

3.

CAIS AM GAU FFYRDD YNG NGILFACH IAGO pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ar gynigion i gau darn o'r briffordd gyhoeddus gan gadw hawliau llwybr ceffylau yn yr hen safle gwaith glo brig a adwaenir fel Gilfach Iago.

 

Nodwyd y byddai darn o briffordd gyhoeddus yn cael ei gau drwy Orchymyn mewn Llys Ynadon o dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980, yn amodol ar gadw hawliau llwybr ceffylau (Adran 116(4), y mae eu defnydd ar gyfer cerddwyr, marchogion a beicwyr pedalau. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet y byddai hawliau priffyrdd yn cael eu diddymu ar gyfer cerbydau modur yn unig, gan gadw'r hawliau ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogion. Yn hyn o beth, mynegwyd y byddai adfer mynediad cyhoeddus o fudd i gymunedau Blaenau, Saron a Phen-y-groes ei fwynhau unwaith eto, o gofio bod yr ardal yn ardal lofaol weithredol am flynyddoedd lawer o dan Celtic Energy. Nodwyd hefyd y byddai agor y rhan hon o'r rhwydwaith ar gyfer y cyhoedd yn cysylltu â'r rhwydwaith llwybr troed presennol sydd eisoes ar waith yn yr ardal, gan gryfhau cysylltiadau rhwng y cymunedau a chefnogi'r rhwydwaith ehangach, gan gynnwys dyheadau Teithio Llesol rhwng Rhydaman a Cross Hands.

 

Hysbyswyd yr Aelod Cabinet o ganlyniad yr ymgynghoriad cychwynnol nodwyd bod proses ymgynghori statudol i ddilyn.

 

PENDERFYNWYD argymell i Bennaeth dros dro Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fwrw ymlaen â chau darn o'r briffordd gyhoeddus gan gadw hawliau llwybr ceffylau yn yr hen safle gwaith glo brig a adwaenir fel Gilfach Iago o dan Adran 116(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980.