Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - Dydd Llun, 9fed Hydref, 2023 11.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 14 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir.

 

3.

RHAGLEN 10 TREF (CRONFA REFENIW) pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

[SYLWER: tynnwyd yr eitem hon yn ôl a'i chyfeirio at yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth]

 

4.

CEISIADAU CYFALAF DEG TREF pdf eicon PDF 169 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i ddau o geisiadau am gyllid cyfalaf oedd wedi dod i law fel rhan o'r Rhaglen Deg Tref

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gyllid cyfalaf o Ddyraniad Cyfalaf y 10 Tref, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol:

 

Yr Ymgeisydd

Dyfarniad

Cyngor Tref Cwmaman

£100,000.00

Cyngor Tref Llandeilo

£84,959.50

 

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. 

 

6.

CYMUNEDAU MENTRUS

Cofnodion:

[SYLWER: tynnwyd yr eitem hon yn ôl a'i chyfeirio at yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth]