Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Llun, 8fed Ionawr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MEDI 2023 pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2023, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER CLOS FELINGOED, DATBLYGIAD NEWYDD CYMDEITHAS TAI BRO MYRDDIN YN LLANDYBÏE, RHYDAMAN pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd S. Fell a T. Rees o Gymdeithas Tai Bro Myrddin yn bresennol i ystyried yr eitem hon)

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad newydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin sef 24 o breswylfeydd yng Nghlos Felingoed, Llandybïe, Rhydaman.

 

Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu gosod er mwyn ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol. Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.

 

Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd.

 

Byddai'r Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am gyfnod o chwe mis ar ôl i'r holl dai gael eu gosod, ac yn dilyn hynny byddai adolygiad yn cael ei gynnal gan Fro Myrddin i benderfynu ar ei effaith ar y gymuned a sicrhau bod nodau'r polisi wedi'u cyflawni.  Byddai'r asesiad hwn yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a ddylid ymestyn y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer datblygiad tai newydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin sef Clos Felingoed, Llandybie, Rhydaman.

 

4.

PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2024/25 pdf eicon PDF 171 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25

 

Dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Er bod pob Awdurdod Lleol a Chymdeithas Dai yng Nghymru wedi alinio â'r polisi pennu rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â'r lefelau rhent ar gyfer tai cymdeithasol, nid oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y lefelau rhent a godir yn cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, barnwyd ei bod yn deg cynyddu rhenti ar y safle gan ddilyn yr un fformiwla a ddefnyddiwyd ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, byddai hynny'n gynnydd o 6.5% ac argymhellwyd pennu'r lefelau rhent wythnosol ar gyfer 2024/25 ar £65.97 (net taliadau am wasanaethau a threthi d?r) gan ddarparu incwm blynyddol o £48,488 ar gyfer 2024/25, pe bai pob un o'r 15 llain yn cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

4.1

pennu mai £65.97 yr wythnos fyddai’r rhent am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn, wedi'i gasglu dros 49 wythnos;

4.2

bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hyn;

4.3

pennu mai £39.18 yr wythnos fyddai’r tâl am ddefnyddio d?r, wedi'i gasglu dros 49 wythnos;

4.4

awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr y Maes Carafanau a phennu'r taliadau cyffredinol a nodir yn nhabl 1.