Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Gwener, 15fed Mawrth, 2024 11.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED MAWRTH 2024. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5Mawrth 2024 gan ei fod yn gywir, yn amodol ar ddiweddariadau i'r mathau o dai a restrir a ddylai adlewyrchu'r rhai a nodir yn yr adroddiadau.

 

3.

ADRAN 106 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 - CYFRIFIAD PRISIAU TAI FFORDDIADWY pdf eicon PDF 170 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r diweddariad i'r cyfrifiad prisiau tai fforddiadwy a ddefnyddiwr mewn cytundebau Adran 106 i osod y pris fforddiadwy. Pwrpas hyn oedd sicrhau ei fod yn parhau i ddilyn y paramedrau fforddiadwyedd a bennwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod polisïau cynllunio gan gynnwys y prisiau fforddiadwy a bennwyd o fewn cytundebau Adran 106 yn seiliedig ar dystiolaeth ar fforddiadwyedd sydd wedi'i gynnwys yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. Nid oedd y cyfrifiad a ddefnyddir ar hyn o bryd i osod y pris fforddiadwy mewn cytundebau Adran 106 bellach yn adlewyrchu'r dystiolaeth o fewn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2024 newydd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet y byddai'r newid i'r lefelau incwm canolrifol a ddefnyddir i gyfrifo'r pris tai fforddiadwy yn gofyn am welliant i'r templed cyfredol a ddefnyddir ar gyfer cytundebau Adran 106 i adlewyrchu'r cyfrifiad newydd.   Ni fyddai'r newid yn cael ei gymhwyso'n ôl-weithredol i unrhyw gytundebau blaenorol oni bai y cytunir ar weithred amrywio ac ystyrir bod y dystiolaeth angenrheidiol gefnogol yn ddigonol gan adran gyfreithiol y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan yr Aelod Cabinet yngl?n â pham nad oedd y cynllun wedi cael ei adolygu ers 2008, dywedwyd bod angen y newid hwn i bris fforddiadwy Adran 106 adlewyrchu'r dystiolaeth gan Gyllid y DU (Cyngor Benthycwyr Morgeisi gynt) ar y lluosrifau incwm cyfredol a fenthycwyd i brynwyr tai yng Nghymru ac a welwyd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol ar gyfer 2023/24. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet bwysigrwydd sicrhau bod y cyfrifiad prisiau tai fforddiadwy yn cael ei adolygu'n rheolaidd i adlewyrchu'r farchnad bresennol i sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn hyfyw.

 

Wrth adolygu'r adroddiad, nododd yr Aelod Cabinet werth y cynllun gan ei fod yn gwneud y mwyaf o'r cyfle i ddarparu cyfleoedd i breswylwyr lleol brynu cartrefi ar gost isel yn uniongyrchol gan ddatblygwyr yn y sir.

 

Penderfynwyd:

3.1

bod lluosydd o 4.17 gwaith y lefelau incwm canolrifol yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r pris fforddiadwy ym mhob ardal cysylltiad cymunedol, yn unol â'r dystiolaeth a ddarparwyd yn asesiad y farchnad dai leol ac argymhellion Cyllid y DU (sef y Cyngor Benthycwyr Morgeisi gynt);

3.2

y byddai cynyddu'r lluosydd i 4.17 gwaith y lefelau incwm canolrifol yn lleihau'r risg o ddatblygiadau preifat yn methu â darparu cartrefi fforddiadwy drwy'r system gynllunio oherwydd materion hyfywedd ariannol cynllun;

3.3

cytuno bod y fformiwla a ddefnyddir yng nghytundebau Adran 106 yn cael ei diwygio i adlewyrchu'r cynnydd o ran y lefelau incwm canolrifol a bod hyn yn berthnasol i bob math o eiddo; a

3.4

bod y cyfrifiad prisiau tai fforddiadwy yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru pan fo angen yn unol â'r paramedrau fforddiadwyedd a bennir yn asesiad y farchnad dai leol ac argymhellion Cyllid y DU.