Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Mawrth, 5ed Mawrth, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6ED CHWEFROR, 2024 pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 6 Chwefror, 2024 yn gofnod cywir.

 

3.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER STRYD SPILMAN, CAERFYRDDIN, DATBLYGIAD NEWYDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Heol Spilman, Caerfyrddin.

 

Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol.

 

Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.

 

Nododd yr adroddiad ward ,Gogledd a De Tref Caerfyrddin, lle mae'r datblygiad ar Heol Spilman  fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 12 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-

 

·         2 x fflatiau â dwy ystafell wely

·         10 x fflatiau ag un ystafell wely,

 

Byddai'r datblygiad yn cael ei drosglwyddo mewn un cam yn gynnar yn ystod Gwanwyn 2024.

 

Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd.

 

Bydd y Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am chwe mis ar ôl i bob cartref gael ei osod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y cartrefi newydd yn 5-8 Heol Spilman, Caerfyrddin sef datblygiad adeiladu newydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

4.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER YMCA, LLANELLI, DATBLYGIAD NEWYDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad Cyngor Sir Caerfyrddin yn YMCA, Llanelli.

 

Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol.

 

Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.

 

Nododd yr adroddiad ward Tyisha, lle mae datblygiad YMCA, fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 8 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-

 

·         8 x fflatiau â dwy ystafell wely

 

Bydd y datblygiad yn cael ei drosglwyddo mewn un cam, yn gynnar yn ystod Gwanwyn 2024.

 

Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd.

 

Bydd y Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am chwe mis ar ôl i bob cartref gael ei osod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y cartrefi newydd yn YMCA, Llanelli, sef datblygiad adeiladu newydd Cyngor Sir Caerfyrddin

 

5.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER GOLWG GWENDRAETH, DATBLYGIAD NEWYDD CYMDEITHAS TAI POBL YN FFOS LAS, TRIMSARAN pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Pobl sef Golwg y Gwendraeth, Ffoslas, Trimsaran.

 

Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol.

 

Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi ward Trimsaran, lle mae datblygiad Golwg y Gwendraeth

 fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 24 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-

 

·         Cartrefi â dwy ystafell wely ar gyfer teuluoedd bach, mae hyn yn cynnwys teuluoedd sy'n tanfeddiannu cartrefi mwy yn yr ardal ar hyn o bryd;

·         Tai â thair ystafell wely ar gyfer aelwydydd;

·         T? pedair ystafell wely i deuluoedd mawr, mae hyn yn cynnwys teuluoedd sydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety anaddas neu orlawn yn yr ardal.

 

Nododd yr Aelod Cabinet y byddai cyfanswm o 18 o gartrefi rhent cymdeithasol yn cael eu darparu ac nid 24 fel y nodwyd yn y crynodeb gweithredol.

 

Bydd y datblygiad yn cael ei drosglwyddo mewn un cam yn ystod Gwanwyn 2024 (dim ym mis Chwefror 2024 fel y manwl yn yr adroddiad).

 

Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd.

 

Bydd y Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am chwe mis ar ôl i bob cartref gael ei osod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet am adolygiad i ystyried enw'r safle datblygu gan mai Golwg Y Gwendraeth fyddai'r cyfieithiad cywir.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer cartrefi newydd Golwg y Gwendraeth sef datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Pobl.