Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019, gan ei fod yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA DDATBLYGU ADFYWIO RHYDAMAN A CHYNLLUN BENTHYCIADAU CANOL TREF LLANELLI & RHYDAMAN Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Ddatblygu Adfywio Rhydaman a Chynllun Benthyciadau Canol Tref Llanelli a Rhydaman.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Ddatblygu Adfywio Rhydaman a Chynllun Benthyciadau Llanelli a Rhydaman yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
CRONFA CYCHWYN BUSNES/TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Gan gyfeirio at gofnod 2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|