Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am fideo Hyfforddiant Diogelu a fyddai'n cynnig dull addysgiadol a mwy cost-effeithiol o hyfforddi gyrwyr Tacsi Trwyddedig a Chynorthwywyr Teithwyr.
Esboniwyd yn yr adroddiad y bu’r Adain Drwyddedu yn darparu sesiynau Hyfforddiant Diogelu i Yrwyr Tacsi Trwyddedig yn Sir Gaerfyrddin ers mis Gorffennaf 2017 Roedd y sesiynau hyfforddi yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed Powys a oedd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer gyrwyr tacsi ynghylch diogelu gan gynnwys Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant a sut y gallai gyrwyr tacsi hefyd chwarae rôl bwysig. Nod yr hyfforddiant yw helpu gyrwyr tacsi i adnabod problemau posibl, a rhoi'r hyder a'r manylion cyswllt iddynt i wneud atgyfeiriad.
Dywedwyd bod 144 o yrwyr tacsi trwyddedig a 250 o gynorthwywyr teithwyr ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin nad oeddent wedi mynychu'r sesiynau hyfforddiant diogelu, ac y byddai'r nifer hwn yn cynyddu wrth i geisiadau newydd ddod i law. Dywedwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi'n trafod cyflwyno hyfforddiant diogelu gorfodol i bob gyrrwr tacsi; mae'n debygol iawn y bydd yr hyfforddiant hwn yn orfodol i bob gyrrwr tacsi ac y gallai gostio rhwng £30 a £50 i'r gyrrwr.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y fideo hyfforddiant diogelu, fel rhan o fenter ar y cyd, wedi'i gynhyrchu fel dull hyfforddi i'w ddarparu i bob gyrrwr tacsi a chynorthwyydd teithwyr. Byddai'r fideo yn cael ei ddangos yn ardal Heddlu Dyfed Powys, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys.
Pwysleisiwyd bod cost cynhyrchu'r fideo hyfforddiant wedi’i dalu gan arian a godwyd o dan y Ddeddf Enillion Troseddau gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Barnwyd bod y fideo yn ddull gwell o ddarparu hyfforddiant diogelu gan na fyddai'n ofynnol felly i yrwyr tacsi a chynorthwywyr teithwyr fynychu sesiwn hyfforddi penodol.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r dull newydd o hyfforddi yn fodd cost effeithiol o ddarparu'r hyfforddiant gan y byddai ymgeiswyr yn cael dolen i'r fideo drwy e-bost. Byddai ymgeiswyr nad oedd ganddynt defnydd o gyfrifiadur neu fynediad i'r rhyngrwyd yn gallu gweld y fideo yn Adain Drwyddedu eu hawdurdod lleol perthnasol.
Yn ogystal, nod y Cyngor oedd sicrhau y bod pob gyrrwr tacsi a drwyddedwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi cwblhau'r Hyfforddiant Diogelu.
Cafodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gyfle i weld y fideo diogelu 20 munud.
Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai cyflwyniad y fideo yn cael ei bersonoli i adlewyrchu'r awdurdod lleol unigol ac y byddai'n cynnwys aelod o dîm trwyddedu'r awdurdod hwnnw. Ar hyn o bryd mae'r fideo ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu y byddai'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n gwneud cais i adnewyddu eu trwydded tacsi a nad oeddent wedi mynychu'r hyfforddiant diogelu yn flaenorol, wylio'r fideo ac ar ôl ei weld, byddai'n ofynnol iddynt gael prawf byr yn cynnwys cwestiynau am gynnwys y fideo, dim ond ar ôl llwyddo yn y prawf ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai, 2019 yn gofnod cywir.
|