Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|
GWELLIANT I REOLAU GORFODI O RAN TIPIO ANGHYFREITHLON PDF 176 KB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar gynnig i gyflwyno tocyn cosb benodedig, â gostyngiad am dalu'n gynnar, fel ffordd o waredu trosedd tipio anghyfreithlon, yn hytrach na mynd â'r mater i'r llys, a thrwy hynny osgoi prosesau cyfreithiol costus. Ar ôl adolygu'r gost o gael gwared ar dipio anghyfreithlon ar raddfa fach, roedd swyddogion o'r farn mai swm cymesur ar gyfer cosb benodedig fyddai £350, wedi'i ostwng i £180 pe byddid yn talu o fewn 10 diwrnod.Roedd y gallu hwn i gyflwyno tocyn cosb benodedig yn welliant o dan Adran 33z(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cosb benodedig o £350 ar gyfer tipio anghyfreithlon, ac o £180 pe byddid yn talu o fewn 10 diwrnod. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 19 IONAWR, 2018 PDF 72 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2018, gan ei fod yn gywir.
|