Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 24ain Hydref, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 11EG AWST 2017 pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Awst 2017 yn gofnod cywir.

 

3.

POLISÏAU I GEFNOGI FFURFLEN SAFON ACHREDU AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar y newidiadau arfaethedig i'r polisïau presennol canlynol sy'n ymwneud â'r gwaith o redeg y Gwasanaeth Amgueddfeydd; fe'u cymeradwywyd yn flaenorol gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden ar 15ed Mawrth 2013.

 

·        Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Datganiad y Polisi Mynediad (2017-2022)

·        Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Polisi Datblygu Casgliadau (2017-2022)

·        Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Polisi Gofal a Chadwraeth Casgliadau (2017-2022)

·        Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Datganiad y Polisi Dogfennaeth (2017-2022)

·        Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin – Polisi Cynaliadwyedd Amgylcheddol (2017-2022)

 

Nodwyd bod yn rhaid i'r Awdurdod ddarparu tystiolaeth, o dan y Broses Achredu Amgueddfeydd, fod ei bolisïau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u cymeradwyo'n ffurfiol yn y ffurflen achredu, a hynny erbyn 31 Hydref, 2017.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd at Ddatganiad y Polisi Dogfennaeth a rhoddodd wybod y byddai'r frawddeg gyntaf ar dudalen 4, parthed ‘Rheoli Mynediad at Wybodaeth Sensitif’, yn cael ei newid, yn amodol ar ei chymeradwyo, i ddarllen fel a ganlyn: “Bydd yr holl geisiadau am wybodaeth yn cael eu hystyried o ran eu cydymffurfiaeth â Mesur Diogelu Data 2017, Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000)…….”

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y newid uchod i Ddatganiad y Polisi Dogfennaeth, fod y newidiadau arfaethedig i'r pum dogfen bolisi yn cael eu cymeradwyo er mwyn eu cynnwys yng nghais yr Awdurdod am Safon Achredu.

 

4.

ADFER AC AILDDOSBARTHU GRANT DATBLYGU CELFYDDYDAU CYMUNEDOL pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar y cynigion bod yr Awdurdod yn ceisio adennill y swm o £8,496.90 gan Llais (corff ymbarél ar gyfer theatr ieuenctid yn y Sir) oedd yn rhan o grant datblygu celfyddydau cymunedol a dalwyd i'r mudiad yn 2012 ond na ddosbarthwyd.

 

Rhoddodd Pen-swyddog y Celfyddydau wybod y bwriedir, ar ôl adennill y grant, roi'r arian yn ôl i'r Gronfa Diwylliant / Celfyddydau i'w ailddosbarthu i fudiadau drwy iddynt wneud cais am grant bach, gan ddefnyddio'r ffurflen gais a atodir i'r adroddiad, i gefnogi eu gwaith datblygu celfyddydau.

 

PENDERFYNWYD

4.1

Bod yr Awdurdod yn ysgrifennu at Llais i adennill £8,496.90 o grant datblygu celfyddydau cymunedol a dalwyd i'r mudiad yn 2012 ond na ddosbarthwyd.

4.2

Ar ôl adennill y grant, ei roi yn ôl i'r ‘Gronfa Diwylliant/Celfyddydau’ i'w ailddosbarthu yn unol â'r gweithdrefnau, drwy lenwi'r ffurflen gais a atodir i'r adroddiad hwn.