Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 22ain Mehefin, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

CANLLAWIAU AR GYFER DARPARU GOSODIADAU COFFA MEWN MANNAU AGORED CYHOEDDUS pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried canllawiau drafft ar gyfer darparu cofebau mewn mannau agored cyhoeddus.  Byddai'r canllawiau, yn amodol ar gael eu cymeradwyo, yn galluogi ceisiadau am gofebau gan aelodau o'r cyhoedd ar gyfer anwyliaid, gael eu rheoli, a byddai'n sicrhau bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol o'r trefniadau a'r telerau ac amodau yn dilyn cytuno ar gofeb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r canllawiau ar gyfer ceisiadau i osod cofebau mewn mannau agored cyhoeddus.

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU pdf eicon PDF 387 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth gan y Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd eu hasesu ar sail eu cyfraniad at amcanion strategol y Cyngor o ran twristiaeth, cymunedau a'r economi.

 

PENDERFYNWYD

3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-

Digwyddiad                                                                                     Dyfarniad

G?yl Gerddoriaeth Llandeilo                                                                    £1,500.00

G?yl Jazz Llandelio                                                                        £1,500.00

G?yl Arddio Pen-bre                                                                                   £350.00*

G?yl Beicio Modur Llanymddyfri                                                               £850.00

G?yl Afon - Caerfyrddin                                                                 £1,000.00

Diwrnod Mawr Rhydaman                                                              £2,000.00

G?yl Hanes Cymru i Blant                                                         £1,500.00

[*yn amodol ar gyngor am nawdd i'r trefnwyr.]

 

3.2 ni ddylid cymeradwyo'r cais am Sioe Geffylau gan nad oedd yn bodloni meini prawf y Gronfa.