Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 10fed Mai, 2019 9.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen 

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

DECISION RECORD - 15TH APRIL 2019 pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

 

3.

CAU PRIFFORDD GYHOEDDUS GER YR HEN YSGOL, TALACHARN pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gais a gafwyd gan berchennog/datblygwr yr Hen Ysgol, Talacharn i gau’n ffurfiol dwy ran fach o'r briffordd sy'n cael eu cynnal y tu blaen i'r eiddo. 

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol nad oedd y llecyn cyhoeddus y soniwyd amdano uchod o unrhyw ddiben i'r adran a'i fod yn golygu rhwymedigaeth cynnal a chadw.

 

Dywedwyd petai'r cais am i gau yn llwyddiannus, byddai'r arhosfan bysiau presennol sydd ar y rhan hon o'r briffordd yn cael ei adleoli yn y cyffiniau fel y nodir ar y cynllun a atodir i'r adroddiad ac y byddai'r costau cysylltiedig yn cael eu hailgodi ar y datblygwr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gorchymyn i gau'r ffordd fel y nodir yn yr adroddiad a rhoi gorchymyn i'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i gau'r darn o'r briffordd yn unol ag Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

 

 

4.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN CYDGYFNERTHU SIR GAERFYRDDIN (MANNAU PARCIO ODDI AR Y STRYD) (AMRYWIOL FEYSYDD PARCIO, SIR GAERFYRDDIN)(AMRYWIAD RHIF 4) pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd y Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cyflwyno’r gorchymyn arfaethedig a fyddai'n helpu i sicrhau bod cerbydau’n parcio’n drefnus yn y lleoliadau a restrir yn Atodiad 1 a 2 yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd bod Pennaeth Gweinyddiaeth a Chyfraith y Cyngor wedi derbyn 170 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori, gan gynnwys deiseb o 55 o enwau yn gwrthwynebu'r cynigion a hysbysebwyd.  Cafodd y gwrthwynebiadau eu crynhoi yn Atodiad 3 ynghyd â sylwadau ac argymhellion y swyddogion.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a gafwyd.

 

Argymhellwyd, yn dilyn rhoi ystyriaeth briodol i'r gwrthwynebiadau ac ymateb yr Awdurdod, gymeradwyo'r cynigion, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Cyhoeddus o'r atodlen leoliadau (Atodiad 1), yn amodol ar wneud y newidiadau ym mharagraffau 3.8.1.2 a 3.9.1.2 yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn rhoi ystyriaeth briodol o'r gwrthwynebiad a gafwyd mewn perthynas â Dafen Inn Row, Llanelli ac ymateb yr Awdurdod, roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol o blaid cymeradwyo'r cynigion canlynol:-

 

  • Dafen Inn Row, Llanelli
  • Gogledd Parc Myrddin, Caerfyrddin
  • Cofrestryddion Parc Myrddin, Caerfyrddin
  • Selwyn Samuel, Llanelli

 

Gan ystyried nifer sylweddol y gwrthwynebiadau a ddaeth i law a oedd yn ymwneud â nifer o’r meysydd parcio arfordirol/hamdden, gofynnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol i ragor o ystyriaeth gael ei roi i’r gwrthwynebiadau a bod adroddiad pellach yn cael ei baratoi ar gyfer y Bwrdd Gweithredol. Bydd y cynigion ar gyfer y meysydd parcio canlynol yn destun ystyriaeth bellach:

 

a) Harbwr Porth Tywyn

b) Coetir, Porth Tywyn

c) Y Draethlin, Porth Tywyn

d) Meysydd G?yl , Llanelli

f) Rotary Way, Pen-bre

g) Coetir Mynydd Mawr, Tymbl

h) Coetir Mynydd Mawr, Cefneithin

c) Doc y Gogledd, Llanelli

d) Parc D?r Sandy, Llanelli

f) Llyn Llech Owain

g) Pentywyn

h) Bynea

 

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1   nodi'r gwrthwynebiad fel y'i manylir yn Atodiad 3 mewn perthynas â Dafen Inn Row, Llanelli;

 

4.2   cymeradwyo'r cynigion fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 1:-

·         Dafen Inn Row, Llanelli;

·         Gogledd Parc Myrddin, Caerfyrddin;

·         Cofrestryddion Parc Myrddin, Caerfyrddin;

·         Selwyn Samuel, Llanelli.

4.3 bod yr adroddiad diwygiedig a'r cynigion fel y'u disgrifir yn Atodiad 1 [ac eithrio'r rhai uchod a grybwyllir yn 4.2] yn destun adroddiad pellach i’r Bwrdd Gweithredol.