Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jessica Laimann 01267 224178
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Phillip Hughes (Cyngor Sir Caerfyrddin - Cynrychiolydd y Cyflogwr), Mr Mike Rogers (Cynrychiolydd y Pensiynwr), Mr Chris Moore a Mr Randal Hemingway.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr Ian Eynon (Cynrychiolydd y Cyflogwr) am ei gyfraniadau i'r Bwrdd ac estynnodd ei ddymuniadau gorau iddo ar ei ymddeoliad.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 21 MAWRTH 2019 PDF 370 KB Cofnodion: O ran Eitem 9 (Benthyca Gwarannau), dywedodd Mr Parnell fod Cyngor Torfaen bellach wedi cytuno â'r egwyddor o fenthyca gwarannau.
CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.
|
|
CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 19 MEHEFIN 2019 PDF 312 KB Cofnodion: Er ystyriaeth, cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 19 Mehefin 2019.
|
|
COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 21AIN CHWEFROR 2019 PDF 195 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd gofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2019.
CYTUNWYD bod y cofnodion yn cael eu nodi.
|
|
GWEITHGAREDDAU MONITRO'R GYLLIDEB 1 EBRILL 2018 – 31 MAWRTH 2019 PDF 68 KB Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2018/19.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
DATGANIAD CYFRIFON HEB EU HARCHWILIO 2018-19 PDF 633 KB Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2018/19, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2018-19, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2018-19 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. – atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.
Nodwyd bod sefyllfa'r Gronfa, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019, yn nodi mai gwerth y cyfanswm asedau oedd £2.575bn, i fyny o £2.44bn yn 2017/18. Roedd hwn yn gynnydd o £135m yn yr asedau net o 2017/18 i 2018/19. O ran gwariant y Gronfa, daeth y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau i gyfanswm o £87m a'r adenillion yn sgil buddsoddi i £152m.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Mr Parnell fod disgwyl i'r broses o drawsnewid i Bartneriaeth Pensiwn Cymru godi costau tymor byr oherwydd costau trawsnewid ond disgwylir y bydd arbedion o ran costau rheolwr buddsoddi yn y tymor hir. Byddai cynnydd yn cael ei fonitro a'i adrodd i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu (JGC) yn chwarterol. Byddai manylion am y costau trawsnewid yn cael eu rhoi i'r Pwyllgor a'r Bwrdd Pensiwn yn eu cyfarfodydd nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyfraniadau, dywedodd Mr Parnell fod gwahaniaethau rhwng ffigurau Cyfrif y Gronfa a Monitro'r Gyllideb yn bennaf oherwydd gwahanol ffyrdd o gyfrifyddu mewn perthynas ag athrawon ymddeoledig.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch achos McCloud, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai'r materion yn berthnasol i unrhyw weithiwr neu weithiwr blaenorol â dyddiad geni cyn 1 Ebrill 1957. Roedd yr apêl wedi cael ei gwrthod bellach, a byddai'r cyfrifon yn cael eu diwygio'n unol â hynny a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi.
Awgrymwyd y dylid cynnwys enwau Aelodau'r Bwrdd Pensiwn yn yr adroddiad.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2019 PDF 9 KB Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Mawrth, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.2m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2018-19 PDF 375 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.
O ran Eitem 62 yn yr adroddiad, rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Bwrdd fod yr achos o dorri amodau'n ymwneud â gofyniad i dalu ad-daliadau awtomatig ar ôl pum mlynedd i aelodau'r cynllun a oedd wedi gadael ar ôl Ebrill 2014. Cysylltwyd ag aelodau'r cynllun yr oedd hyn wedi effeithio arnynt i ofyn am eu manylion banc ond nid oedd ateb wedi dod i law. Roedd Gr?p Technegol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cydnabod y mater hwn ar raddfa genedlaethol, yn enwedig mewn perthynas ag ad-dalu symiau bach o arian, a gofynnodd Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun i Weinidogion newid y Rheoliad.
O ran Eitem 61, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod yr achos o dorri amodau o ganlyniad i faterion staffio ond bod ymgysylltu cyson â'r cyfrifydd a oedd yn ceisio unioni'r mater. Yn ogystal, dywedwyd wrth y Bwrdd fod y mwyafrif o achosion o dorri amodau mewn perthynas ag oedi tymor byr o ran cyflogwyr bach.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (WPP) PDF 102 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd adroddiad ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y cynnydd a'r cerrig milltir hyd yn hyn.
Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf allweddol ganlynol: · Cerrig Milltir Allweddol · Y cynnydd hyd yn hyn o Cronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang) o Tranche 2 (Ecwitis y DU ac Ewrop) o Tranche 3 (Incwm Sefydlog) · Y Camau Nesaf
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn archwilio marchnadoedd preifat ar hyn o bryd. Byddai is-gr?p o'r Gweithgor Swyddogion yn cynnal cyfarfod yngl?n â'r pwnc ym mis Gorffennaf. Roedd Tracey Williams wedi'i phenodi'n Uwch-swyddog y Gwasanaethau Ariannol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru. O ran cyfathrebu, byddai gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru yn weithredol erbyn dechrau mis Awst ac roedd tudalen LinkedIn wedi'i sefydlu. Roedd gweithdy yn ymwneud â pholisi cyfathrebu wedi cael ei gynnal ar ôl cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Mehefin. Yn dilyn hyn byddai gweithdy yn ymwneud â llywodraethu yn cael ei gynnal ar ôl cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Medi.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL DRAFFT WPP PDF 174 KB Cofnodion: Cafodd y Bwrdd y fersiwn drafft o Bolisi Buddsoddiad Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried. Dywedwyd fod y polisi trosfwaol hwn yn cynnwys egwyddorion y byddai angen i bob cronfa eu hystyried ond ei fod wedi'i lunio mewn ffordd a allai ddarparu ar gyfer polisïau Buddsoddiad Cyfrifol cronfeydd unigol. Byddai'n rhaid i bob un o'r wyth cronfa ystyried y polisi drafft, a fyddai'n cael ei ddychwelyd i'w gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Medi.
Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd Mr Parnell fod trafodaethau'n cael eu cynnal ynghylch y posibilrwydd o gyflogi darparwr ymgysylltu (Paragraff 7.12). O ran monitro metrigau (Paragraff 9.1), rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai metrigau posibl yn cael eu harchwilio gan y Gweithgor Swyddogion ar y cyd â Russell. Byddai monitro a chyflwyno adroddiadau ynghylch y polisi'n cael eu cyflawni gan Link a Russell.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
IS-GRONFEYDD INCWM SEFYDLOG Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.
Ystyriodd y Bwrdd adroddiad am yr is-gronfeydd arfaethedig a'r strwythurau rheolwyr ar gyfer Is-gronfeydd Incwm Sefydlog Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedodd Mr Parnell taw dim ond y Gronfa Credyd Byd-eang oedd yn berthnasol i Gronfa Bensiwn Dyfed o ran y strwythur is-gronfeydd arfaethedig. Byddai adroddiadau monitro is-gronfeydd yn rhoi manylion am berfformiad rheolwyr unigol.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.
Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2019.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.
Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|