Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Mercher, 19eg Gorffennaf, 2023 2.30 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mr T. Bowler, Cynrychiolydd o’r Undeb a Mr M. Rogers, Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd/Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Mr J. Jones

12.          4.9 - Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol

Mae'n gysylltiedig â'r cwmni sy'n cwblhau'r adolygiad.

 

Mr A. Brown

44.9    4.9 - Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol

Mae'n gysylltiedig â'r cwmni sy'n cwblhau'r adolygiad.

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 18 EBRILL 2023 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 26 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiadau a gyflwynwyd i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed i'w hystyried yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2023, fel a ganlyn:-

 

4.1

CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2023 pdf eicon PDF 1019 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn nodi cyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru fel archwilydd allanol y Gronfa Bensiwn.  Roedd y cynllun yn nodi'r gwaith y mae ei dîm yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r risg archwilio a nodwyd a meysydd ffocws allweddol eraill yn ystod 2023.  Roedd hefyd yn nodi'r ffi archwilio amcangyfrifedig, manylion y tîm archwilio a'r dyddiadau allweddol ar gyfer cyflawni gweithgareddau'r tîm ac allbynnau arfaethedig.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.2

SEFYLLFA GYLLIDEBOL DERFYNOL 2022-2023 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.3

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.4

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd nifer o brosiectau sy'n cael eu cynnal, ynghyd â gwybodaeth am faterion perthnasol wrth weinyddu buddion y cynllun.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

4.5

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 448 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith.  Cymeradwywyd Polisi Torri Amodau Cronfa Pensiwn Dyfed gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016 ac o dan y polisi, mae'n ofynnol rhoi gwybod am achosion o dorri'r gyfraith i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

Ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn bu ychydig achosion lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Rhoddwyd gwybod am y mater hwn i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

4.6

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 434 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith sy'n tynnu sylw at yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Mae'r gofrestr risg yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd ac mae risgiau'n cael eu nodi fel rhai gweithredol a strategol. Dywedwyd nad oedd unrhyw newidiadau ers cyfarfod blaenorol y pwyllgor. 

 

CYTUNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg yn cael ei nodi. 

 

 

4.7

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys gwaith sydd wedi'i gwblhau ers cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a chamau nesaf/blaenoriaethau Partneriaeth Pensiwn Cymru. 

 

CYTUNWYD bod adroddiad diweddaru Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.  

 

4.8

CYNLLUN HYFFORDDI 2023-2024 pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau hynny.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2023/24 yn cael ei nodi.

 

4.9

ADOLYGIAD O'R DYRANIAD ASEDAU STRATEGOL pdf eicon PDF 449 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: 

[1] Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd Mr J. Jones a Mr A. Brown y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.

[2] Yn absenoldeb y Cadeirydd, etholwyd Mr Mike Evans i gadeirio'r cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.]

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol a fydd yn archwilio Dyraniad Asedau Strategol cyffredinol y portffolio buddsoddi ac yn rhoi argymhellion ynghylch lle y gellir gweithredu'r portffolio mor effeithiol â phosibl i gyflawni amcanion a gofynion y Gronfa.

 

CYTUNWYD bod yr Adolygiad o'r Dyraniad Asedau Strategol yn cael ei nodi.

 

4.10

DADANSODDIAD DWYSEDD CARBON pdf eicon PDF 1014 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Dadansoddi Dwyster Carbon a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch y gweithgarwch a'r cynnydd o ran sefyllfa Ôl Troed Carbon y Gronfa.

 

Dangosodd y diweddariad y Cyfartaledd Pwysedig o ran Dwyster Carbon (WACI) ar gyfer portffolio ecwiti'r Gronfa a dangosodd fod y Gronfa wedi lleihau ei hôl troed carbon o waelodlin o 147 WACI ym mis Medi 2020 i 102 WACI ym mis Mawrth 2023.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad Dadansoddi Dwyster Carbon yn cael ei nodi.

 

 

4.11

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 26 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2023 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2023 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2023 yn cael ei nodi.

 

6.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2023 - 30 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 30 Mehefin 2023.  Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £9.6k.  Rhagwelwyd y byddai'r gwariant ar gyfer y flwyddyn yn cyd-fynd â'r gyllideb.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a oedd yn rhoi manylion mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddi ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2023.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad Perfformiad a Risg gan yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2023 yn cael ei nodi.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2023.  Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau hyd at y cychwyn.

 

CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023 yn cael ei nodi.

 

10.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 MAWRTH 2023

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2023.

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael eu nodi.