Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Mercher, 1af Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H.A.L. Evans a chydymdeimlodd y Cadeirydd â’r Cynghorydd Evans a’i theulu, yn dilyn marwolaeth ei mam yn ddiweddar.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI YN CYFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Cofnodion:

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion cyfarfodydd y Panel oedd wedi eu cynnal ar y dyddiadau canlynol gan eu bod yn gywir:

 

3.1       29 Tachwedd 2016 (12:00yp)

3.2       29 Tachwedd 2016 (12:30yp)

3.3       20 Rhagfyr 2016 (10:00yb)

3.4       20 Rhagfyr 2016 (10:30yb)

3.5       20 Rhagfyr 2016 (11:00yb)

3.1

29AIN TACHWEDD, 2016 (12.00 Y.P.); pdf eicon PDF 100 KB

3.2

29AIN TACHWEDD, 2016 (12.30 Y.P.); pdf eicon PDF 102 KB

3.3

20FED RHAGFYR, 2016 (10.00 Y.B.); pdf eicon PDF 99 KB

3.4

20FED RHAGFYR, 2016 (10.30 Y.B.); pdf eicon PDF 98 KB

3.5

20FED RHAGFYR, 2016 (11.00 Y.B.). pdf eicon PDF 99 KB

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

I YSTRIED APEL GAN YMGEISYDD D.M.M YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO A DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu’r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â’r mater hwn yn ymwneud â’r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’r ymgeisydd. Er y byddai datgelu’r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses gwneud penderfyniad, yr oedd y budd i’r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na’r budd i’r cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth, am fod angen diogelu hunaniaeth yr ymgeisydd a’i deulu/theulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o’r Gwasanaethau Cyfreithiol ac Adran yr Amgylchedd i’r cyfarfod.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i’r ysgol ar gyfer D.M.M gan nad yr ysgol honno oedd yr un agosaf nac ychwaith ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, ac nad oedd felly’n cydymffurfio â’r meini prawf ym mholisi’r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Ystyriodd y Panel sylwadau’r swyddogion adrannol a gofynnwyd am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi yr Awdurdod o ran Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Ystyriodd y Panel y dystiolaeth a gyflwynwyd a nododd fod prif bwyslais yr apêl ar sail dewis iaith, nad oedd yn berthnasol. Nododd y Panel y gallai’r apelydd ailgyflwyno apêl petai materion newydd eraill yr oedd angen eu hystyried. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Pholisi’r Awdurdod o ran Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol, fod yr apêl yn cael ei gwrthod ond bod yr apelydd yn cael ei hysbysu y gellid cyflwyno apêl newydd petai tystiolaeth newydd neu resymau eraill dros apelio, yn unol â’r meini prawf fel y nodwyd yn y Polisi o ran Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol.