Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Mawrth, 11eg Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: LLinos S Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards ac S. Phillips, ar y sail eu bod wedi hysbysu'r awdurdod yn flaenorol o fuddiant yng nghofnod 5 gan eu bod ill dau yn adnabod yr apelydd.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION

3.1

10ED MAI 2019 (10.15 Y.B.) pdf eicon PDF 201 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10Mai 2019 (10.15 a.m.) gan eu bod yn gywir.

 

3.2

10FED MAI 2019 (10.30 Y.B.) pdf eicon PDF 197 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10Mai 2019 (10.15 a.m.) gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD DJT & DJT YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd megis cyfeiriad ac o bosibl gwybodaeth a allai ddatgelu pwy oedd y teulu. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod. Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i'r ysgol ar gyfer D.J.T a D.J.T gan nad yr ysgol honno oedd yr un agosaf nac ychwaith ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â Pholisi'r Awdurdod ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, wrthod yr apêl oherwydd nad oedd D.J.T. a D.J.T. yn mynychu'r ysgol agosaf na'r un ddynodedig gan yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer y cyfeiriad cartref, a hynny oherwydd dewis y rhieni.