Agenda a chofnodion drafft

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Mawrth, 22ain Awst, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI YN CYFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfodydd y Panel oedd wedi eu cynnal ar y dyddiadau canlynol yn gofnod cywir:

 

17egGorffennaf, 2017 (10.00 a.m.)

17eg Gorffennaf, 2017 (10.30 a.m.)

17eg Gorffennaf, 2017 (11.00 a.m.)

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

THE REPORT RELATING TO THE FOLLOWING ITEM IS NOT FOR PUBLICATION AS IT CONTAINS  EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 12 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE PANEL RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THIS  ITEM IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

I YSTRIED APEL GAN YMGEISYDD L.T. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO A DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd a'i deulu/a'i theulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i L.T i ysgol ddynodedig agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Ystyriodd y Panel sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Hefyd gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol mewn perthynas â'r polisi seddi gwag, ynghyd â'r ddarpariaeth cludiant cyhoeddus oedd ar gael o gartref L.T i'r ysgol ddynodedig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr apêl, yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ar y sail bod cyfeiriad cartref L.T o fewn pellter cerdded statudol i ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol a bod y llwybr cerdded hwnnw wedi'i asesu, yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru, ac y bernid bod modd ei ddefnyddio.