Agenda a chofnodion drafft

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Iau, 15fed Mehefin, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

LLOFNODI COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR OEDD WEDI EU CYNNAL AR Y DYDDIADAU CANLYNOL: pdf eicon PDF 289 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Panel oedd wedi eu cynnal ar y dyddiadau canlynol gan eu bod yn gywir:

 

3.1       1  Mawrth 2017 (10:00am)

3.2       1  Mawrth 2017 (10:30am)

3.3       1  Mawrth 2017 (11:00am)

 

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

YSTYRIED APÊL GAN YR YMGEISYDD HB YN ERBYN Y PENDERFYNIAD GAN SWYDDOGION I BEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses gwneud penderfyniad, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen diogelu hunaniaeth yr ymgeisydd a'i deulu/theulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o'r Gwasanaethau Cyfreithiol, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i'r ysgol ar gyfer HB gan nad yr ysgol honno oedd yr un agosaf nac ychwaith ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Ystyriodd y Panel sylwadau'r swyddogion adrannol ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Ceisiodd y Panel eglurhad ynghylch lleoliad yr ysgol ddynodedig ac ysgol yr Awdurdod Addysg Lleol sydd agosaf at gyfeiriad cartref HB.  Nododd y Panel y gallai'r apelydd gyflwyno cais er mwyn i HB fynychu ysgol agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol o fewn y dalgylch.

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr apêl yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, am nad oedd HB yn mynychu'r ysgol agosaf nac ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, a hynny oherwydd dewis y rhieni.